E-fwletin 28 Hydref 2018

Yr Ysbryd Glân

Mae yna nifer o lefydd neu ddigwyddiadau hanesyddol y bydden i wedi hoffi bod yn bresennol ynddynt. Dyna sydd yn wir, mae’n siŵr, am bawb ohonom – cael bod yn bresennol ar yr adegau pryd y gwnaed rhyw wahaniaeth sylweddol yn ein byd.

I mi, fe â un ohonynt yn ôl mor bell a’r flwyddyn 325 sef yng nghyfarfod o Gyngor Nicea. Byddai cael bod yn bresennol yno wedi bod yn dipyn o brofiad o gael cyfle i wrando ar yr holl drafodaethau a wnaeth arwain at y penderfyniad terfynol ar gredoau’r ffydd Cristionogol.

Prif bwrpas sefydlu’r Credo oedd er mwyn darparu datganiad athrawiaethol ag uniongrededd o’r ffydd honno. Gwnaed hynny mewn cyfnod pan oedd yna gryn dipyn o wrthdaro ynglŷn a’r credoau. Byddai derbyn neu wrthod yn fodd i wahaniaethu rhwng y rheini oedd yn gredinwyr a rheini oedd yn gwadu.

Drwy fabwysiadu’r Credo dyma ymgais i fedru datrys dadleuon tueddiadau Ariaeth oedd yn wrthwynebus i Esgob Alexander a’i safbwynt at y Drindod. Cyhuddwyd Arius o heresi wrth iddo gymylu’r gwahaniaethau ynglŷn a dwyfoldeb yr Iesu fel rhan o’r Duwdod. Gorffennwyd y datganiad gyda’r cyhoeddiad i gadarnhau’r gred yn yr Ysbryd Glan.

I lawer mae dryswch a chymhlethdod Athrawiaeth y Drindod yn galler bod yn ben tost. Mae’n astrus, gan achosi gryn ddirgelwch. O ganlyniad gall fod yn broblem gan ei fod mor anodd i’w esbonio a hefyd yn amhosibl ei gredu.

Yr hyn y mae llawer yn ei chael yn anodd ei wneud yw gwahaniaethu rhwng Yr Ysbryd Glan a Duw ei hun. I bob pwrpas mae’r ddau yn un heb fodd o’u gwahanu. Mynegir y ddwy elfen gan y presenoldeb dwyfol ar waith ynom fel unigolion a’u dangos wedyn ar waith yn ein cymunedau. Dyna’r anadl sydd yn rhoi bywyd i ni i’n ysbrydoli, i’n harwain ac i rhoi canllawiau i’n taith a’n cynnal pan fydd y daith honno yn hynod sigledig.

Dyma’r ysbryd sydd yn cynrychioli’r dirgelwch dwyfol yn ein plith. Mae i’w deimlo y tu fewn i ni, ac yn amlygu ei hunan, nid yn unig yn y ffordd i ni yn addoli ond yr un mor bwysig yn y ffordd i ni yn gweithredu. Dyma a wna ein trawsffurfio drwy hyrwyddo’r doniau, galluoedd a’r talentau gwahanol sydd gan bawb.

Gweddol hawdd yw deall ystyr y term “Ysbryd Duw ar waith”. Mae’n amrywiol ac yn gweithredu mewn ffyrdd gwahanol ym mywydau credinwyr; mae’n gweithio a chyflawni drwy ysbrydoli; mae’n cyfeirio ac arwain tra ar yr un pryd yn cynnal, trawsffurfio, pweru a rhoi doethineb gyda’r cyfan hyn yn cael ei ddarparu mewn addoliad neu gyfeillach. 

Os mynnwch dyma orchwylion Duw ar waith yn y byd fel mae’n cyffwrdd ag eneidiau pobl ac yn ein huno gyda’n gilydd. Ond beth am y Pentecost medde chi? Nid digwyddiad unigol ynysig yw’r Pentecost. Onid yw’r Pentecost ar gael lle bynnag mae ysbryd dynoliaeth yn ymateb i bob anogaeth neu gymhelliad dwyfol?