E-fwletin 21 Hydref 2018

Shifftio

Mae unrhyw un sy’n gweithio hwnt ac yma yng Nghymru yn gyfarwydd â’r arwyddion. Mae’r lleoedd gwag yn siarad. Siopau. Banciau. Ysgolion. Tai a hen ffermdai. Eu ffenestri tywyll, di-olau yn drist-ddatgan rhyw wedi-bod-oldeb angheuol. Mieri lle bu… wel, miri os nad mawredd. Dirywiad.

Gall arwyddion allanol fod yn gamarweiniol, wrth gwrs. Ond, yn amlach na pheidio, mae’r sgwrs leol petai’n cadarnhau’r argraff mai nid ‘trunk road’ sy’n rhedeg yma bellach ond ffordd dranc. Y brif-ffordd i Ebargofiant (Uchaf ac Isaf).

Yn sefyll yn gofgolofnau mynd-yn-angof ar strydoedd y prysurdeb-a-fu mae’r addoldai gwag. Efallai am fod llesgedd hir wedi rhagflaenu’r farwolaeth olaf mae’n syndod pa mor anaml y byddwn yn cysylltu’r naill ddirywiad â’r llall. Ond mi fydde’r daearyddwr cymdeithasol fawr o dro cyn adnabod y cyd-berthnasau sy’n clymu tynged y ddau ynghyd.

Ac mae’r un peth yn wir am ddirywiad y Gymraeg – yr hyn y mae’r Cynllunwyr Iaith yn ei alw’n ‘shifft iaith’: y symud negyddol o fod yn iaith fwyafrifol y gymdogaeth i fod yn iaith leiafrifol. Dyw shifft o’r fath ddim yn digwydd mewn gwagle. Fel a ddywed yr arbenigwyr, does dim byd naturiol o ran marwolaeth iaith. Megis y dirywiadau oll, er fod ffactorau lleol yn chwarae eu rhan, o’r tu fas y daw’r pwysau allweddol sy’n cydio’r elfennau negyddol ynghyd nes dadsefydlogi’r dafol a’i throi. 

Mae’r tri ‘shifft’ uchod yn amlwg. Yn yr adeiladau gwag. Yn hiraeth neu ddryswch hen bobol. Yng nghonsyrn rhieni ac athrawon. Yn iaith y buarth.

Eithr o dan y cyfan i gyd y mae shifft arall ar waith. Y shifft sylfaenol. Shifft diwylliant.

Dyma’r shifft sy’n cnoi-cnoi-cnoi ar seiliau cymdeithas; sy’n tanseilio’r ymdrechion glew i ddal ein tir (heb sôn am frwydro nôl).

Dyma’r shifft sydd yn ein denu i ymddatod oddi wrth Ecoleg y Cyd (sef cynefin creu, gweithio, dadlau, dathlu, uchelgeisio, cefnogi a theimlo gyda’n gilydd); sydd yn ein hudo i ymadael â bws cyhoeddus y cyd-ymdeithwyr a’n hannog i fynd ble a fynnom pryd a fynnom heb fecso’r un iot am neb na dim arall. Hyd yn ddiweddar roedd Ecoleg y Cyd yn amgylchedd diogel rhag Meddylfryd y Fi’n Gyntaf. Bellach, mae hyd yn oed arweinwyr llawr gwlad y Ffermwyr Ifainc yn gorfod brwydro’n galed-galed i gadw’r norm Prydeinig rhag dyrchafu ‘lifestyle choice’ (odw-i-am-neud-e? / be-sy-ynddi-i-fi?) uwch ‘ffordd-o-fyw’ (rhannu ac ymroi). 

Yn wyneb y fath bygythiad onid cyfle yw’n adeiladau gwag? Cyfle i fwrw’n holl hegni – yn rhydd o hualau cynnal sefydliad a’i waliau-i’w-haddoli a’i ffor-hyn-ma-rhaid-neud-pethe – nid i warchod yr hyn sydd ar ôl o gymdeithas ond i’w nerth-a-chariad-ysbrydoli a’i thyfu a’i galluogi i ymbweru o’r newydd. Ym mhob ffordd. Ar draws yr holl gynefin cymhleth, cyfoethog.

Gair da yw ‘shifft’. Can mil gwell na ‘dirywiad’. Mae’n caniatáu symud i ddigwydd nid yn unig er gwaeth ond er gwell hefyd.

Shifftwn. Egnïwn. Anghyd-go-iawn-ffurfiwn.

A gwneud hynny â gras ein harweinydd, Iesu Grist. A chariad grymus-dim-whare Duw. A chymdeithas bobol-yn-ddiwahân-ynghyd yr Ysbryd Glân.