E-fwletin 14 Hydref 2018

Trindodau

Yng nghanol dyddiau tywyll methiannau diplomyddol 2018, dylwn werthfawrogi arwyddocâd y diwrnod hwn yn 1994. Ar 14eg Hydref y flwyddyn honno fe ddyfarnwyd Gwobr Nobel am Heddwch i Yasser Arafat, arweinydd y Palesteiniaid, Yitzhak Rabin Prif Weinidog Israel a Shimon Peres ei Ysgrifennydd Tramor. Yn ystod y misoedd blaenorol fe fframiodd y tri Gytundeb Oslo, cytundeb llwyddiannus a roddodd i’r Palesteiniaid wladwriaeth a hunanlywodraeth.

Roedd y datrysiad hwn i broblem a wynebodd genedlaethau bron yn wyrthiol. Ers pedwar degawd bu’r Palesteiniaid yn crafu byw mewn gwersylloedd a thiroedd cyfyng. Labelwyd Arafat yn derfysgwr ar draws y byd; ac roedd agweddau’r byd tuag at y Palesteiniaid yn ddidostur, yn enwedig ar ôl cyfres o ddigwyddiadau erchyll.

Fodd bynnag, fel a ddigwyddodd yn Ne Affrica yn 1990 ac yng Ngogledd Iwerddon yn 1998, fe brofwyd fod pobl dewr a didwyll yn gallu dod i gymod gweithredol i drawsnewid cenedl. Dyna drindod fawr y 1990au – De Affrica, Palesteina a Gogledd Iwerddon.

Beth ddigwyddodd ers hynny?

Mae Gogledd Iwerddon mewn man bregus iawn. Lluniwyd Cytundeb Gwener y Groglith yn allweddol seiliedig ar y Deyrnas Gyfunol fel endid parhaol a fyddai’n boddhau’r Unoliaethwyr, tra mai diogelwch o fewn yr Undeb Ewropeaidd fel endid parhaol oedd, i bob pwrpas, yn caniatáu i’r cenedlaetholwyr Gwyddelig berthyn i’r cyfan fel rhan o Iwerddon a ‘deimlai’ fel un unedig. Yn 2018 mae’r sefyllfa’n un fregus iawn wrth i genedlaetholdeb Prydeinig a Brexit beryglu’r cydbwysedd a roes i ni’r heddwch hwn yn Iwerddon.

Mae sefyllfa De Affrica hefyd yn fregus, wrth i broblemau parhaus godi o fewn cymuned yr ANC. Efallai mai tlodi ac anghydraddoldeb fydd yn peryglu heddwch mewnol De Affrica dros y cyfnod nesaf.

Gweledigaethau crefyddol sydd wedi chwalu gobeithion mawr Arafat, Rabin a Peres ar gyfer Israel a Phalesteina. Ar yr un llaw, mae darlleniad llythrennol o’u Beibl wedi tanio rhan o gymuned yr Israeliaid i feddiannu tiroedd a fu’n gartrefi i deuluoedd Palesteinaidd – Gwlad yr Addewid yw gwlad eu haddewid. Mae creulondeb y rhai sy’n ymosod ar deuluoedd Palesteinaidd ac yn dad-wreiddio eu hen goed olewydd a’u gorfodi o’u cartrefi yn gythreulig o ddinistriol. Efengylwyr America sydd wedi tanio Trump i gydnabod eu hawliau Beiblaidd, gan waethygu’r sefyllfa.

Yr haf hwn treuliodd rhai o gefnogwyr C21 benwythnos mewn cae yn Llanidloes yng nghwmni Daphna Baram a Wisam Salsaa, yng ngwyl CODA. Mae Daphna yn gyfarwyddwr yr Israeli Committee Against House Demolitions (UK), mudiad sy’n gweithio i wrthsefyll meddiant Israel gyda ffocws arbennig ar bolisi Israel o ddymchwel cartrefi Palesteinaidd. Yn CODA hefyd roedd Wisaam, Palestiniad sy’n rym creadigol o Beit Sahour, ger Bethlehem ar y Lan Orllewinol (tiriogaeth Palesteinaidd a feddiannwyd). Mae e’n fwyaf adnabyddus ar hyn o bryd am redeg gwesty Banksy, Walled Off, yn y ‘dawel ddinas’ honno. Roedd y ddau yn siaradwyr (ac yn bobl) arbennig, yn ceisio heddwch mewn anobaith.

Y penwythnos hwn yn 2018 yw penwythnos cyntaf y broses o drefnu gŵyl CODA ar gyfer haf 2020. Rwy’n mawr obeithio na fyddwn ni’n eistedd gyda dau Wyddel mewn cae ymhen dwy flynedd i drafod rhyfel newydd yng Ngogledd Iwerddon o achos ein methiannau ni. Hir oes i’r gobaith a roddodd Arafat, Rabin a Peres i’r byd, a deued trindod newydd, debyg i honno, heibio’n fuan i bob gwlad sydd mewn perygl.