Archifau Categori: Agora 29

Neges Nadolig Sabeel 2018

Neges Nadolig Sabeel 2018
(Canolfan Gristnogol Ecwmenaidd Jerwsalem )

‘Peidiwch ag ofni, oherwydd yr wyf yn cyhoeddi i chwi newydd da am lawenydd mawr i’r holl bobl.’ (Luc 2:10)

Annwyl gyfeillion,

Wrth edrych yn ôl ar 2018, bu’n flwyddyn anodd iawn: gwadu hawliau i ffoaduriaid a blwyddyn arall o feddiant yn Gasa, y Llain Orllewinol a Dwyrain Jerwsalem. Bu mwy o drais, dinistrio cartrefi, carcharu heb gyhuddiad a chyfyngu ar yr hawl i deithio. Nid oes dim yn newydd yn y pethau hyn, ond eleni mae penderfyniadau gwleidyddol wedi gwaethygu’r sefyllfa. Mae hyn yn cynnwys Cadarnhau’r ‘Nation State Law’, symud Llysgenhadaeth America i Jerwsalem, a dod â therfyn ar gronfa’r Cenhedloedd Unedig i gynorthwyo ffoaduriaid Palesteinaidd.

Er ein bod yn galaru oherwydd y colli bywyd ac yn gweddïo dros y rhai a anafwyd – yn Balestiniaid ac Israeliaid – yr ydym yn dathlu’r Nadolig gyda gobaith. Un ffynhonnell gobaith yw’r cynnydd yn yr ymateb di-drais mewn sefyllfa sy’n gwaethygu. Mae ‘Taith y Dychwelyd’ yn parhau ers mis Mawrth yn Gasa (gyda niferoedd wedi eu lladd a miloedd wedi eu hanafu) trwy gerdded i’r ffin am hanner dydd bob dydd Gwener i ofyn am yr hawl i ddychwelyd i’r pentrefi … Mae rhai pentrefi, fel Khan a-Ahar, yn parhau â’u brwydr rhag cael eu diwreiddio i wneud lle ar gyfer ffordd newydd i Israel. Ond diolch bod mwy o arweinwyr gwleidyddol a’r werin Balesteinaidd yn cymryd y ffordd ddi-drais o ddifrif yn eu brwydr erbyn hyn.

Yr ydym yn obeithiol am y dyfodol er bod y Cenhedloedd Unedig yn methu gweithredu ei datganiadau ei hun, oherwydd bod America yn rhwystro hynny. Ond yr ydym yn obeithiol oherwydd na fydd Duw yn caniatáu i anghyfiawnder a gormes barhau am byth.

Fel Cristnogion Palesteina mae ein gobaith yn tarddu o Iesu Grist a anwyd ym Methlehem. Y rhai cyntaf a ddaeth i’w weld oedd y bugeiliaid, sef y bobl leol o fro Bethlehem-Beit Sahour, ac i ni y maent yn cynrychioli’r Palestiniaid heddiw, a ddaeth yn ddilynwyr ac yn ddisgyblion iddo.

Ond daeth eraill o bell ac a gynrychiolir heddiw gan y rhai sy’n parhau i ddod i Fethlehem o bedwar ban byd i dalu teyrnged i’r Cynghorwr Rhyfeddol, Tad Tragwyddoldeb a Thywysog Tangnefedd. Mae’r rhain yn cynnwys Teulu (Cyfeillion) Sabeel, sy’n gweddïo’n gyson ac yn gweithredu gyda ni er mwyn cyfiawnder Duw ym Mhalesteina ac Israel.

Heddiw, nid yw’n hawdd ymweld â Bethlehem, oherwydd ei bod rhan hanfodol o’r Balesteina sydd wedi ei meddiannu gan fyddin Israel ers dros 50 mlynedd ac, yn groes i Gyfraith Ryngwladol, mae’r Wal wedi ei adeiladu o’i chwmpas. Mae milwyr Israel yn gwarchod nifer o checkpoints fyddai wedi rhwystro’r Doethion rhag cyrraedd Bethlehem.

Er bod y sefyllfa’n gwaethygu a’r nos yn rhy dywyll ac yn rhy hir, yr ydym yn gwybod bod y Nadolig yn sôn am gariad Duw tuag at ei fyd, ac mae’n stori am gariad sy’n gorlifo, yn ddiamodol ac yn aberthol. Ac fe wyddom, lle mae cariad i’w weld a lle mae cyfiawnder ar waith, y bydd rhyddid a heddwch yn dilyn.

Dyma her y Nadolig i bobl Palesteina barhau â’u brwydr ddi-drais yn wyneb y trais cynyddol gan Fyddin Israel a’r ymateb treisgar gan rai mudiadau Palesteinaidd. Mae’n her hefyd i Israel a phob Iddew o gydwybod glywed cri’r Palestiniaid o’u caethiwed ac i weithredu ar sail Cyfraith Ryngwladol.

Dathlwn eni Tywysog Tangnefedd a rhannwn gariad, gobaith a llawenydd y tymor arbennig hwn.

Y Parchedig Naim Ateek
Cadeirydd Bwrdd Sabeel, Jerwsalem, 6 Rhagfyr

Fe allwch dderbyn cylchlythyr pythefnosol Sabeel 

Mae llawer o wybodaeth i’w chael am y sefyllfa yn y Dwyrain Canol ar nifer o wefannau.

Fel man cychwyn, awgrymwn wefan Cyngor Eglwysi’r Byd ac yn arbennig y rhaglen EAPPI

Hefyd

Jewish Voce for Peace 

Amos Trust

Palestinian Solidarity Campaign

Dewis gwleidyddol yw tlodi

Dewis gwleidyddol yw tlodi – ac nid dewis y tlodion

Ym mis Mawrth, pennawd Bwletin Polisi Cytûn oedd “Eglwysi yn poeni bod Cymru ar lwgu”. Nid ar chwarae bach y cyhoeddwyd pennawd mor ymfflamychol mewn bwletin sydd fel arfer yn ceisio bod yn syber ac yn wleidyddol ddiduedd, ac nid ar chwarae bach y defnyddiwyd bron hanner y rhifyn hwnnw i ymhelaethu ar y pennawd.

Penderfynais wneud hyn wedi eistedd mewn cyfarfod o Grŵp Cyfeirio Plant a Theuluoedd yr Eglwys yng Nghymru, sy’n dwyn ynghyd y gwahanol brosiectau dan nawdd yr eglwys honno sy’n gweithio gyda phlant. Rai blynyddoedd yn ôl, gellid disgwyl y byddai cyfarfod o’r fath yn trafod cyfleusterau cylchoedd gofalwyr a phlant, neu gynnal clybiau ar ôl ysgol i blant yn lle Ysgol Sul draddodiadol. Mae llawer o eglwysi yn dal i wneud y pethau hyn, a diolch amdanynt.

Ond ffocws y cyfarfod hwn oedd y canfyddiad gan weithwyr plant yr eglwys fod mwy a mwy o’r plant y maent yn dod ar eu traws yn llwgu. Nid oes ganddynt ddigon o fwyd. Mae hyn yn effeithio ar eu hiechyd ac ar eu hymddygiad yn y clybiau. Mae banciau bwyd y Trussell Trust a’r banciau bwyd a gynhelir yn annibynnol yn cadarnhau’r un stori. Mae’r Trussell Trust bellach yn buddsoddi’n sylweddol mewn gwaith polisi, oherwydd nid oes modd i becynnau bwyd yn unig ddatrys y sefyllfa.

Cadarnhawyd pob dim y mae Cytûn, y Trussell Trust ac eraill wedi bod yn ei ddweud ar 16 Hydref, pan gyhoeddodd Cynrychiolydd Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar Dlodi Eithafol a Hawliau Dynol, sef yr Athro Philip Alston, ddatganiad eithriadol o feirniadol am Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’i hagwedd at y tlodion:

When asked about these problems, Government ministers were almost entirely dismissive, blaming political opponents for wanting to sabotage their work, or suggesting that the media didn’t really understand the system and that Universal Credit was unfairly blamed for problems rooted in the old legacy system of benefits.

Fe glywodd yr Athro Alston dystiolaeth gan lu o fudiadau ac unigolion ar draws gwledydd Prydain yn ystod pythefnos prysur iawn. Fe gyfarfu â chynrychiolwyr o fudiadau eglwysig (gan gynnwys rhai yng Nghymru) a mudiadau elusennol eraill ar hyd a lled ein pedair cenedl. Roedd yn falch o’n gwaith, ond yn onest am y cyfyngiadau ar yr hyn y gallwn ni ei wneud:

The voluntary sector has done an admirable job of picking up the slack for those government functions that have been cut or de facto outsourced. One pastor told me that because the government has cut services to the bone, his church is providing meals paid for by church members. But that work is not an adequate substitute for the government’s obligations. Food banks cannot step in to do the government’s job, and teachers—who very well may be relying on food banks themselves—shouldn’t be responsible for ensuring their students have clean clothes and food to eat.

Fe gysylltodd brofiad y tlodion â pholisïau eraill y Llywodraeth:

The compassion and mutual concern that has long been part of the British tradition has been outsourced. At the same time many of the public places and institutions that previously brought communities together, such as libraries, community and recreation centers, and public parks, have been steadily dismantled or undermined. …

The experience of the United Kingdom, especially since 2010, underscores the conclusion that poverty is a political choice. Austerity could easily have spared the poor, if the political will had existed to do so. Resources were available to the Treasury at the last budget that could have transformed the situation of millions of people living in poverty, but the political choice was made to fund tax cuts for the wealthy instead.

Dewis gwleidyddol – dyna yw gadael i bobl gysgu ar y strydoedd, eu gadael heb ddigon o fwyd i’w plant, a gwario’r arian sydd ar gael ar swcro’r cyfoethog yn lle hynny. Mae gweinidogion y Llywodraeth, ar y llaw arall, yn awgrymu nad eu dewis nhw ond yn hytrach ddewis y tlodion eu hunain yw hyn. Dywedodd Amber Rudd, Aelod Seneddol Hastings a Rye (sy’n cynnwys rhai o wardiau tlotaf Lloegr), a benodwyd yn Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ar yr un diwrnod ag y cyhoeddodd Philip Alston ei adroddiad, hyn am bobl dlawd yn ei hetholaeth:

You get people who are on benefits, who prefer to be on benefits by the seaside. They’re not moving down here to get a job, they’re moving down here to have easier access to friends and drugs and drink. (Cyfweliad â’r Financial Times, 26 Ebrill 2013)

Sylwer nad yw’n condemnio o gwbl y bobl fwy cefnog sy’n symud i lan y môr i fyw ar eu pensiynau – a ariennir o’r un gyllideb adrannol â’r Credyd Cynhwysol. Nid oes hawl gan bobl dlawd i ddewis ymhle i fyw, meddai. Does ryfedd, felly, nad oedd Amber Rudd yn rhyw gefnogol iawn i adroddiad yr Athro Alston – er iddi yr un pryd gydnabod nad oedd y drefn Credyd Cynhwysol yn gweithio fel y dylai, ac addawodd fynd i’r afael â rhai o leiaf o’r problemau.

Mae sylwadau Ms Rudd bum mlynedd yn ôl yn dangos nad agwedd y Llywodraeth at y tlodion yn unig sydd ar fai, ond ei hagwedd at bobl gyfoethog hefyd. Fe gyhoeddodd yr Economist y diagram trawiadol hwn am y bwlch rhwng y rhanbarth tlotaf a’r rhanbarth cyfoethocaf ym mhrif wledydd Ewrop:

Dyw’r rhanbarth tlotaf ym Mhrydain ddim llawer gwaeth na rhanbarthau tebyg mewn gwledydd eraill. Yr hyn sy’n syfrdanol yw sut y mae rhanbarthau cyfoethog Prydain yn dal i ymgyfoethogi. Mae yna ddigon o gyfoeth yng ngwledydd Prydain i bawb gael byw yn gyfforddus – ond nid yw’r cyfoeth hwnnw wedi ei ddosbarthu yn deg, rhwng rhanbarthau na rhwng unigolion.

A dyna’r her i ni, ddarllenwyr Agora, yn ogystal â’r Llywodraeth. Ers cenhedlaeth fe ddaeth gwleidyddion i gredu ei bod yn wleidyddol amhosibl i godi trethi, yn enwedig trethi ar incwm. Mae pobl, fe gredir, “am gadw eu harian eu hunain”. Mae hyd yn oed y Blaid Lafur erbyn hyn yn dweud mai dim ond y 5% cyfoethocaf ddylai dalu mwy o dreth – sef yr union bobl sydd â chyfrifyddion yn gweithio iddynt all sicrhau nad ydynt yn gwneud dim o’r fath beth.

Mae cwmnïau ymgynghori ariannol o gwmpas fy nghartref i yn cystadlu â’i gilydd i gyflwyno dulliau i’r cyfoethog allu osgoi gorfod talu trethi, yn enwedig trethu etifeddiaeth ar ôl iddynt farw, a’r un pryd osgoi talu am eu gofal eu hunain pan fyddant yn hŷn, gan orfodi’r cyngor lleol i wneud hynny ar eu rhan. Bydd gan y bobl hynny gyfreithwyr all ymladd eu hachos, tra bydd eu cymdogion llai cefnog yn cael eu gwthio i gefn y ciw. Pan fûm i a’m teulu yn esbonio i ymgynghorydd ariannol a chyfreithiwr ein bod am dalu am ein gofal ein hunain, gan ein bod yn gallu fforddio gwneud hynny, roedd y ddau’n llygadrythu arnom fel pe baem yn gwbl wallgof. Dwn i ddim pa ymateb fyddem wedi ei gael pe baem wedi dweud ein bod yn fodlon talu mwy o dreth hefyd er mwyn sicrhau fod pawb yn gallu cael yr un gofal!

Rydym yn cael y Llywodraeth yr ydym yn pleidleisio drosti – ac yn ei haeddu. Mae yna rôl i’r eglwysi, ac i Gristnogion unigol, nid yn unig i gyfrannu’n hael at y banciau bwyd ac at gynlluniau dyngarol ein heglwysi, ond hefyd i fod yn barod i ddweud wrth wleidyddion y cânt fynd i’n pocedi ni i gael yr arian sydd ei angen i gynnal gwasanaethau cyhoeddus o safon. Oherwydd, os na ddywedwn hynny – a’i olygu – yna fe fydd gwleidyddion yn parhau i wneud yr hyn yr ydym wir ei eisiau, sef cadw cymaint â phosibl o’n harian i ni’n hunain a gadael i’r tlodion symud i Hastings (neu’r Rhyl) a’n gadael ni i fod.

Y Barnwr Oliver Wendell Holmes yr Ieuengaf ddywedodd yn 1902, ‘Trethi yw’r pris a dalwn am gymdeithas wâr.’ Mae’r dyfyniad bellach i’w weld uwchben drws pencadlys Gwasanaeth Cyllid Mewnol yr Unol Daleithiau yn Washington DC. Roedd Holmes yn Gristion o argyhoeddiad, fel ei dad o’r un enw (awdur yr emyn ‘Lord of all being, throned afar’). Fe ddeallai nad oes modd cynnal cymdeithas fodern wâr heb i bobl fod yn barod i dalu eu trethi, ac i’r Llywodraeth wedyn fod yn barod i’w gwario’n deg.

Clywais ambell un yn cwyno yn ystod y diwrnodau diwethaf iddynt dderbyn llythyron gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi yn tynnu eu sylw at y ffaith y bydd cyfran o’u treth incwm o Ebrill 2019 yn mynd i goffrau Llywodraeth Cymru. Sylwadau sinicaidd am sut y bydd yn cael ei gwario oedd ganddynt. Ond onid llawenhau y dylem? Mae Philip Alston yn tynnu sylw at ddiffyg adnoddau Llywodraeth Cymru i wella sefyllfa’r tlodion yma. Mae’r drefn newydd yn rhoi i ni’r cyfle i greu cymdeithas wâr o’n cwmpas. Ydyn ni’n barod i bwyso ar ein Llywodraeth ein hunain i wneud hynny? Ac ydyn ni’n barod i dalu’r pris?

Mae Gethin Rhys yn Swyddog Polisi i Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru). Barn bersonol a fynegir yn yr erthygl hon, a luniwyd ar 24 Tachwedd 2018.

Ydy newid hinsawdd yn newid popeth?

Ydy newid hinsawdd yn newid popeth?

Enw llyfr dylanwadol Naomi Klein am newid hinsawdd yw This Changes Everything. Ei dadl yw mai pethau ymylol yw llawer o’r materion sy’n ein blino – lefelau trethi, y gwasanaethau iechyd a gofal, arfau neu ynni niwclear – a byddai’r un peth yn wir am faterion sydd wedi codi ers sgrifennu’r llyfr, megis Prymadael (Brexit) neu gamweddau Donald Trump. Os ydym am achub y blaned, meddai, rhaid inni newid ein ffordd o fyw yn sylfaenol. Mae is-deitl y llyfr yn awgrymu’r llwybr sydd ganddi mewn golwg – Capitalism vs the Climate.

Ni allaf lai nag argymell y llyfr. Mae’n ddadansoddiad cignoeth o sut fyd all wynebu ein plant a’n hwyrion os na weithredwn ni ar frys i atal newid hinsawdd. Gwn am nifer o fewn yr eglwysi sydd wedi ei ddarllen ac wedi dweud fod y llyfr wedi newid popeth – eu blaenoriaethau personol o ran gwario, teithio, gwyliau, pregethu ac ymgyrchu. Mae cread Duw ei hun yn cael ei beryglu bob dydd yr ydym yn parhau ar hyd ein llwybr presennol.

Y broblem wedyn yw sut i newid. Rydw i’n teimlo’n anesmwyth wrth weld arweinyddion y byd yn hedfan mewn awyrennau (sy’n newid yr hinsawdd) a modurgad o geir (sy’n newid yr hinsawdd) i ganolfan gynadledda i fwyta cig (sy’n newid yr hinsawdd) a thrafod y mater. Mae’r pwysau arnynt i gynnal y drefn fel ag y mae hyd yn oed wrth drafod sut i newid yn aruthrol. Yn wir, mae dadansoddiad Naomi Klein yn rhag-weld dyrchafu’r math o wleidyddiaeth mae Donald Trump yn ei nodweddu – mae e’n rhan o frwydro dros gyfalafiaeth yn erbyn lladmeryddion yr hinsawdd. Mae Klein wedi sgrifennu’n huawdl am hyn yn ei llyfr No is not Enough: Resisting the Shock Politics and Winning the World we Need.

Hawdd pwyntio bys at bobl bwerus neu at wledydd eraill. Ond beth am Gymru fach? Wrth i mi sgrifennu’r erthygl hon, rwy hefyd yn tynnu at ei gilydd ymateb eglwysi Cymru i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru Brexit a’n Tir: Cymorth i Ffermwyr Cymru ar ôl Brexit. Mae Gweithgor Cymru ac Ewrop Cytûn wedi bod yn gwrando yn arbennig ar lais ffermwyr a thrigolion cefn gwlad, trwy gyfarfod agored yn Llanbedr Pont Steffan, trwy’r Ymgynghorwyr Cefn Gwlad a gyflogir gan rai enwadau, trwy bapurau briffio a dderbyniwyd gennym, a thrwy gyfarfodydd enwadol. Gwyddom fod cryfder traddodiadol yr enwadau Cymraeg yn enwedig yn gorwedd yng nghefn gwlad Cymru.

Y llais ddaw drwy hyn oll yn gryfaf yw’r llais sy’n pryderu am ddyfodol hynny sydd ar ôl o gymdeithas draddodiadol cefn gwlad, ac yn credu mai magu da byw a defaid sy’n gefn i’r gymdeithas honno. Yn ystod ymgyrch y refferendwm addawyd gan ladermyddion gadael yr Undeb Ewropeaidd na fyddai dimai goch yn cael ei cholli gan ffermwyr trwy adael, ac yn wir y gallai amaeth Cymru fod ar ei ennill. Nid pob ffermwr gredodd yr addewid hwnnw ar y pryd, ond mae llawer ohonynt yn pwyso arno nawr.

Mae union ddyraniad taliadau ffermio’r Undeb Ewropeaidd wedi amrywio dros y blynyddoedd, ac nid dyma’r lle i geisio esbonio’r holl newidiadau. Bydd darllenwyr hŷn fel finnau yn cofio’r “mynydd menyn” a’r “llyn gwin” a grëwyd gan orgynhyrchu oherwydd y ffordd y pennwyd y taliadau. Cyflwynwyd cwotâu llaeth i gyfyngu ar gynhyrchu yn y maes hwnnw, a’u dileu drachefn yn 2005.

Cafodd y drefn effaith fawr ar dirwedd Cymru.[1] Does dim byd ‘naturiol’ am nifer presennol y defaid yng Nghymru. Dyblodd o fewn ychydig yn yr 1970au ar ôl i ni ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, o dan ddylanwad taliadau’r Polisi Amaeth Cyffredin. Roedd amaeth Cymru yn y gorffennol yn llawer mwy cytbwys rhwng anifeiliaid a chnydau. Mae Carwyn Graves newydd gyhoeddi llyfr hynod ddiddorol, Afalau Cymru, yn dangos sut y bu tyfu ffrwythau yn rhan bwysig o gynnyrch bwyd Cymru ymhell i’r ugeinfed ganrif. (Gyda llaw, mae’n dipyn o ddirgelwch i mi pam mae cynifer o ymgyrchwyr amgylcheddol mor bleidiol i’r Undeb Ewropeaidd, a pholisïau’r Undeb hwnnw wedi bod yn gyfrifol am gymaint o ddifrod. Diddorol nodi i’r Farwnes Jenny Jones, unig aelod y Blaid Werdd yn Nhŷ’r Arglwyddi, weld pethau braidd yn wahanol).

Erbyn hyn, mae amaeth yn cyfrannu tua 13% o allyriadau tŷ gwydr Cymru, y rhan helaethaf oherwydd ffermio anifeiliaid. Mae nwy’r gors (methane) a gynhyrchir yn naturiol gan yr anifeiliaid tuag 20 gwaith yn fwy grymus o ran cynhesu’r blaned na charbon deucosid. Os yw newid hinsawdd yn newid popeth, yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, dyma ein cyfle i newid hyn.

Awgrym Llywodraeth Cymru (a Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ran Lloegr) yw talu ffermwyr yn y dyfodol nid fesul anifail na hectar, ond i wneud pethau sydd er budd y cyhoedd, gan gynnwys trechu cynhesu byd-eang, megis gwarchod ac ehangu ‘pydewau carbon’ sy’n amsugno carbon o’r amgylchyd, tyfu cynydau ynni, plannu coed, creu trydan adnewyddol (gan ddefnyddio’r afonydd a nentydd yn ogystal â’r gwynt ar eu tir), a hefyd gynlluniau gwrth-lifogydd, a helpu bywyd gwyllt i addasu i bwysau newid hinsawdd.

Mae aelodau cefn gwlad ein heglwysi at ei gilydd yn cefnogi rhywfaint o symud i’r cyfeiriad hwnnw – ond yn gofidio na fydd “rheoli tir” yn cyflogi hanner cymaint o bobl ag amaethu da byw, a’u bod heb y sgiliau angenrheidiol i ymdopi â’r newid. Rhaid cofio hefyd fod deiliaid y diwydiant amaeth eisoes yn heneiddio – 60 yw cyfartaledd oedran perchennog ffarm yng Nghymru erbyn hyn – a gwyddom nad yw’r rhai ohonom sy’n hŷn yn ei chael hi mor rhwydd i wneud newidiadau mawr â’r rhai iau. Mae hi’n anodd dychmygu cefn gwlad heb ŵyn a gwartheg duon Cymreig, a heb y mart yn fan cyfarfod i’r ffermwyr a’r cyflenwyr. Onid tranc terfynol ein ffordd o fyw fyddai hynny?

Ond mae newid hinsawdd yn newid popeth, ac fe fydd yn gorfodi newid ar amaeth Cymru. Roedd ffermwyr llaeth yn cael problemau eleni yn ystod y cyfnod poeth a sych rhwng Ebrill a diwedd Gorffennaf. Mae’r gwyddonwyr wedi bod yn dweud ers tipyn fod hafau poeth iawn yn debygol o ddigwydd bob yn ail flwyddyn erbyn 2040. Tyfu glaswellt i fwydo anifeiliaid yw cryfder presennol ffermio Cymru, ond fe ddaw hynny’n anos. Yn ogystal â phroblemau newydd, mae hynny’n golygu cyfleoedd newydd. Gyda chynhesu yn yr hinsawdd fe all ffermio yng Nghymru fod yn ddiwydiant hyd yn oed yn fwy cynhyrchiol – ac yn sicr gellid ystyried adfer y tyfu a fu ar ffrwythau, llysiau a grawn yn y gorffennol a’i ehangu ymhellach. Fe allai ffermwyr barhau i gynhyrchu bwyd, ond mathau mwy amrywiol. Oni allai hynny olygu nid dinistrio diwylliant cefn gwlad ond adfer rhannau o’r diwylliant hwnnw a gollwyd yn yr ugeinfed ganrif? Meddylier am y mathau o afalau y mae Carwyn Graves wedi eu darganfod, ag enwau cynhenid Gymraeg, a aeth ar ddifancoll ond sydd erbyn hyn yn cael eu hadfer ym Mherllan yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne ac ym Mherllan Afal Cymru yn Aberystwyth.

Ac fe all y daw pwysau am newid o gyfeiriad gwahanol hefyd. Cyhoeddodd Michael Gove, yr Ysgrifennydd Amaeth yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, iddo benodi’r Arglwydd Bew i ystyried sut i ddosrannu arian ar gyfer amaeth rhwng cenhedloedd y Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Nid oes sôn yng nghyhoeddiad Gove am sicrhau “pob dimai goch” i Gymru yn y dyfodol.

Fe fydd ymateb Cytûn i Brexit a’n Tir, wrth gwrs, yn adlewyrchu yn gytbwys bryderon ein haelodau am yr hinsawdd ac am gefn gwlad. Rhyw eistedd ar y ffens fyddwn ni ar rai o’r pethau hyn, gan na allaf hawlio o gwbl fod eglwysi Cymru eto’n credu fod newid hinsawdd yn golygu newid popeth. Ond mae ein heglwysi yn dechrau ar y gwaith. Mae enwadau CWM (Cyngor y Genhadaeth Fyd-eang) yng Nghymru (Presbyteriaid, Annibynwyr, URC a’r Gynghrair Gynulleidfaol) wedi bod ynglŷn â chynllun i geisio pensaernïaeth newydd i economi a threfn ariannol y byd, i gwrdd â her yr hinsawdd yn ogystal â her tlodi byd-eang. Mae’r Annibynwyr yn paratoi pecyn amgylcheddol Cymraeg ar gyfer eu heglwysi – a fydd yn ddefnyddiol i eglwysi eraill hefyd, gobeithio. Mae nifer o enwadau yn bachu ar y syniad o Dymor y Cread, yn cwmpasu wythnosau’r cyrddau diolchgarwch ym Medi a Hydref, i ledu’r diolch am fwyd yn unig i’r cread cyfan a’n cyfrifoldeb amdano. Cyflwynwyd y syniad ar Yr Oedfa ar Radio Cymru hefyd.

I ddatrys problemau’r byd, rhaid dechrau wrth ein traed. Ond wrth ein traed mae ein tir, ein hetifeddiaeth a’n calonnau. Mae’n anodd. Ond os yw newid hinsawdd yn newid popeth, yna rhaid wrth yr hyn mae Naomi Klein yn ei alw’n Beautiful Solutions. Clywsom am rai o’r rheiny yn ein cyfarfod cyhoeddus, yn enwedig gan Grŵp Paramaethu Llanbedr Pont Steffan. Nid yw newid yn hawdd i ffermwyr Cymru nac i ni sy’n mwynhau bwyta cig, teithio mewn awyrennau a byw yn fras. Ond os yw newid hinsawdd yn newid popeth, rhaid iddo ein newid ninnau hefyd. Onid dyna calon y ffydd Gristnogol erioed?

Gethin Rhys yw Swyddog Polisi Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru). Barn bersonol a fynegir yn yr ysgrif hon, a ysgrifennwyd ar 27 Hydref 2018.

[1] Rwy’n ddiolchgar iawn i Huw Brodie am gyfrannu nifer o syniadau at y rhan o’r erthygl sy’n dilyn. Fy nghyfrifoldeb i yw’r defnydd a wnes o’i gyfraniad.

Eugene Peterson a Bono

Eugene Peterson a Bono

Bu farw Eugene Peterson, awdur The Message a chyfrolau eraill, ar Hydref 23ain yn 85 oed.  The Message yw cyfieithiad/aralleiriad o’r Beibl cyfan ac y mae o leiaf 17 miliwn o gopïau wedi eu gwerthu erbyn hyn.

Pan gysylltodd Bono (prif leisydd y band U2) ag Eugene Peterson i ddiolch iddo am ei aralleiriad o‘r Salmau – oedd i ymddangos yn nes ymlaen yn y Beibl cyfan (The Message) – doedd Peterson erioed wedi clywed amdano. Wedi gwrthryfela yn erbyn crefydda cul-ranedig Gogledd Iwerddon (ei dad yn Gatholig, ei fam yn Brotestant), bu darllen The Message yn garreg filltir ym mywyd Bono.

Ar ôl diolch iddo, yr oedd Bono yn awyddus i’w gyfarfod ac fe gysylltodd eto yn ei wahodd i ginio. Gwrthod wnaeth Peterson oherwydd bod ganddo ddedlein cyhoeddi a phan wfftiodd rhai o’i fyfyrwyr iddo wrthod cyfarfod Bono, o bawb, ateb Peterson oedd, ‘Ond roeddwn efo Eseia ar y pryd.’ Ond yn nes ymlaen fe gawsant ginio gyda’i gilydd ac fe fu’n ‘ginio tair awr’- a dechrau cyfeillgarwch.

Bu Peterson yng ngafael dementia yn ystod y blynyddoedd olaf, ond yn 2015, cyn i’r clefyd ei gaethiwo yn llwyr, trefnodd Coleg Diwinyddol Fuller yng Nghaliffornia i ffilmio sgwrs fer rhwng Peterson a Bono yng nghartref Peterson ar lan Llyn Flathead yn Montana.

Mae’n berl o sgwrs (fe’i gwelwch ar YouTube) rhwng dau adnabyddus a llwyddiannus, â’r gwrando gostyngedig rhyngddynt yn allweddol. Mae’n seiat fugeiliol a diwinyddol (a Jan, priod Peterson, yn y cefndir yn gofalu amdano). Y Salmau yw’r prif bwnc ac yr oedd Peterson yn gwybod erbyn hynny fod U2 yn gorffen llawer o’u cyngherddau i’r miloedd gyda Salm 40 a’r cwestiwn o Salm 6, ‘Pa hyd, Arglwydd, pa hyd?’ Mae Peterson yn gweld y ddau fel ‘cyd-deithwyr ffydd’ ac yn cytuno nad oes digon o onestrwydd yn ein Cristnogaeth. Dyna gyfoeth fersiwn Peterson o’r Salmau a gydiodd yn Bono – y ‘brutal honesty’, ‘deep sorrow and confusion’, ‘explosive joy’ – y gân gignoeth, y brotest rymus, yr herio a’r cwestiynu. Mae’r ddau yn rhannu yr un cariad at farddoniaeth fel iaith ffydd, iaith metaffor a symbol. Mae’r ddau hefyd yn cytuno bod llawer o drais yn y salmau a’r Beibl, ond mae hynny yn adlewyrchu’r trais sydd yn ein byd. Yn ôl Peterson, ymateb Duw i’r trais hwn yw croeshoeliad Crist.

Eiliadau cysegredig yw gweld Bono yn canu’r pennill cyntaf o ‘The Lord’s my shepherd’ a Peterson yn gwrando gyda gwên dawel ac yn gwybod yn iawn fod Bono, wrth ganu, yn bugeilio hen ŵr gyda dementia. Er na ddaeth hyn i’r golwg yn y seiat, bod yn ‘fugail’ oedd galwad fawr Peterson a chafodd ei adnabod fel ‘bugail i’r bugeiliaid‘. Gadawodd swydd academaidd er mwyn rhoi mwy o’i amser yn Fugail. Bu’n weinidog ar yr un eglwys (Bresbyteraidd) am dros 30ain o flynyddoedd, heb droi cefn ar ei waith fel ysgolhaig ac awdur yn ogystal â chyfrannu i addysg darpar weinidogion. Mae’r ‘uniongrededd hael’ a welwyd ynddo yn tarddu, yn ôl un deyrnged iddo, o Peterson y Bugail.

Daw’r ffilm i ben gyda gweddi gan Eugene Peterson, ‘Bydd gyda ni wrth i ni barhau i’th wasanaethu Di trwy gelfyddyd, barddoniaeth a chân, gan ddarganfod ffyrdd newydd o ddeall beth yr wyt Ti yn ei wneud yn ein byd a’n bywyd. Diolch am heddiw, rho dy fendith i ni.’

Ar ddechrau’r ffilm mae Bono yn dweud yn dyner wrth Peterson, gan gofio ei lafur maith, ‘Take a rest now, won’t you?’

Geiriau mwy nag addas wrth i ni gofio ffydd a chyfraniad Eugene Peterson, fu farw ar Hydref 23ain.

Pryderi Llwyd Jones