E-fwletin Sul y Pasg

 

Chwyth ef…!

Canodd W. J. Gruffydd unwaith am y Bedol a Bethel, ac y mae’r ddau sefydliad erbyn hyn o dan fygythiad. Ym Methel WJG mae capel yr Annibynwyr newydd gau, a gweddillion y gynulleidfa wedi cael lloches dros dro yng nghapel bach y Wesleaid, tra bod y Bethel gwreiddiol yn dal ati i fyny’r ffordd. Yn y cyfamser, mae gŵr busnes nid anenwog wedi prynu’r Bedol i gadw’r achos i fynd yno, ac mae newydd gynnig gofod i’r pentre i agor siop yno gan fod siop y pentre newydd gau. Y bwriad yw rhedeg y siop ar sail gydweithredol.

Mae sawl enghraifft o dafarnau sydd wedi eu “hachub” gan y gymuned, a’u rhedeg yn gydweithredol. Dyna fu’r hanes yn Llithfaen a Chlawddnewydd ers blynyddoedd, ac yn fwy diweddar dyna’r hanes ym Mryngwran ym Mȏn a’r Dafarn Sinc yn Sir Benfro. Ac yn awr y mae gweithgarwch mawr ar droed i godi arian i brynu Tafarn y Plu yn Llanystumdwy a’r Heliwr yn Nefyn.  A’r hyn sy’n gyrru’r ymgyrchoedd hyn yw’r teimlad bod angen gwarchod adnodd cymunedol, lle gall pobol gymdeithasu a chynnal pob math o weithgareddau.

Yn y cyfamser, mae ein capeli yn cau un ar ôl y llall heb unrhyw ymdrech i’w hachub, er mai’r capeli hyn oedd  canolfannau cymunedol a diwylliannol ein magwraeth ni oll. Ond mae mor amlwg ȃ hoel ar bost os nad yden ni am weld pentrefi a threfi a chefn gwlad Cymru yn gwbwl ddi-gapel yn y dyfodol, rhaid i’r ateb godi o’r gymuned ei hun. Ofnaf fod yr awdurdodau enwadol wedi methu rhoi arweiniad, ac felly mae’r bȇl yn ein dwylo ni.

Gwn nad wyf yn dweud dim byd newydd, ond rhaid inni ei ddweud hyd nes y gallwn droi’r geiriau yn weithredu. Rhaid dyfalbarhau i uno cynulleidfaoedd, a gwneud penderfyniadau ymarferol a chall parthed ein hadeiladau. Os nad yw hi’n ymarferol i addasu un o gapeli’r ardal, yna rhaid edrych ar adeiladau eraill sydd ar gael i’r gymuned. Yn wir, mae manteision o rannu adeiladau gyda gweithgareddau gwahanol, gan fod gwir angen cydio gwaith Cristnogol wrth ymdrechion eraill yn ein cymunedau.  Nid rhywbeth ar wahân i waith y Cristion yw darparu cartrefi i’r digartref, neu ofal i’r henoed, neu roi cymorth i rai sy’n byw gyda dementia i fyw bywyd mor llawn ȃ phosib, neu gasglu bwyd i’r banc bwyd lleol, a chant a mil o ddyletswyddau eraill. Oni allwn ni brofi i’n pobol ifanc fod Cristnogaeth yn gwneud gwahaniaeth i’n cymdeithas yn ogystal ȃ diwallu ein hanghenion ysbrydol, ni welaf obaith adfywiad o unrhyw fath.

Tanlinellwyd y neges hon imi yn ddiweddar wrth i dair oedfa gael eu dileu, un am fod y capel wedi cau, a dwy am nad oedden nhw’n credu y byddai digon yn troi i mewn i gyfiawnhau fy siwrne. Ac yn yr un cyfnod, pobol ifanc (wel, ifanc yn nhermau cynulleidfaoedd ein capeli ta beth) yn llawn brwdfrydedd yn cysylltu yn gofyn am gymorth i godi arian i achub y dafarn leol am nad oedd gan y gymuned ganolfan arall at eu defnydd. O am brofi’r brwdfrydedd hwnnw dros gadw capel – neu dros adfywio capel.

Dwi ddim am orffen heb daro nodyn mwy cadarnhaol, achos wedi’r cyfan, efengyl y gobaith a’r posibiliadau mawr yw efengyl Iesu Grist. Y mae yna arwyddion gobaith, ond y mae’r hen hualau yn bygwth eu tagu; mae’r gyfundrefn yn bygwth llesteirio’r ysbryd. Boed felly i’r gwynt y galwodd Williams Parry arno ers talwm chwythu drwy’r synagog ar y ffordd i’r dafarn!