E-fwletin Sul y Pasg Bach

E-fwletin Sul y Pasg Bach


“Ni bu un awr heb ei nef,
Ni bu dydd heb ei ddioddef;
                 ..............
Llon a thrist fel llanw a thrai,
Bri a surni yw'n siwrnai.”

Felly y mae Gwynn ap Gwilym yn agor yr awdl a enillodd iddo Gadair Abergwaun yn 1986. ‘Cwmwl’ oedd y testun, a chanodd awdl goffa i’w dad a fu farw o’r clefyd creulon ‘Motor Neuron’

Ond y mae’r ddau gwpled yn crynhoi’r profiad dynol i’r dim. Fe wyddom i gyd am y copaon golau ac am y dyffrynnoedd pygddu. Chwedl J. C. Jones, Dinas Mawddwy, ‘Weithiau profi dyfroedd Mara, weithiau’r gwin pereiddia’i flas’. Mae i ninnau ein horiau euraid a’n horiau tywyll ym mhob agwedd o’n bywyd. Darllenais, yn rhywle, mai cydnabod hynny, y pegynnu rhwng uchelfannau a dyfnderoedd y bywyd ysbrydol, a barodd i rywrai o saint yr eglwys ddechrau galw’r Sul yma yn ‘Pasg Bach’. 

‘Low Sunday’ yw’r enw Saesneg ac, yn ôl un o ffynonellau Google, yn enw sy’n perthyn yn fwyaf neilltuol  i’r traddodiad Anglicanaidd. Gwell gen i’r enw Cymraeg. Mae yna ryw naws gwahanol i’r ‘Pasg Bach’ rhagor ‘Low Sunday’.

Sefyll ar y copa y buom Sul diwethaf, Sul Y Pasg. Y copa golau, disglair, gobeithiol, a rhannu’r hen, hen gyfarchiad sydd mor newydd a gwefreiddiol ag erioed, ‘Yr Arglwydd a gyfododd. Efe a gyfododd yn wir’. Yna daw profiad y disgyblion cyntaf i’n rhan ninnau, ‘ymhen wythnos, yr oedd y disgyblion unwaith eto yn y tŷ … y drysau wedi eu cloi,”  Yn y gwaelodion. Profiad anhygoel y Sul cynt  wedi pylu ac oeri dan draul a straen a her bywyd wythnos arall, a hwythau’n gwybod fwy am ofn a thywyllwch na dim arall.

Fe wyddom ninnau fel y gall amgylchiadau newid mewn moment. Gall trefn a phatrwm ein bywyd chwalu mewn eiliad. Gall ein holl gynlluniau a’n breuddwydion ddiflannu fel gwlith y bore.

Meddai William Barclay:  ‘Things happen to us and to others which baffle our understanding; life has its problems to which there seem to be no solutions and its questions to which there seem to be no answers. Life has its dark places where there seems nothing to do but despair’.

 Yna, pan oedden nhw yn y man isaf, ‘daeth yr Iesu’.  I ganol yr ofn a’r ansicrwydd, yr anobaith a’r digalondid. A dyma sylweddoli ei fod Ef gyda hwy o hyd, yn wyneb ac er gwaethaf yr amgylchiadau.

                 "Yr Arglwydd sydd yr un
                                  er maint derfysga'r byd;
                                er anwadalwch dyn
                                   yr un yw ef o hyd;" 

Yn oedfa hwyrol Sul y Blodau bendith fawr fu cael addoli dan arweiniad cyfaill a lwyddodd i ddod â golau newydd ar yr hanes cyfarwydd.  Byrdwn ei neges oedd bod angen i ni ‘weld’ yr Iesu ar ei ymdaith i ganol bywyd heddiw, ac i ddal ein gafael yn yr Iesu hwnnw sydd, fel erioed, yno ar ein cyfer ni i gyd. Yr Iesu sydd yr un ar y Pasg Bach fel ar Y Pasg. Iesu’r cariad anorchfygol sy’n drech na grym pob anobaith, digalondid a marwolaeth. Neges berthnasol iawn i eglwys yr Atgyfodiad a aeth yn eglwys y Pasg Bach.

Pasg Bach cysurlon a chalonogol i chi!