E-fwletin Sul y Blodau

Newid ein perthynas

Dwi wedi mentro i mewn i’r ardd yr wythnos hon i dacluso ychydig ar dyfiant cynnar y gwanwyn a gwaredu pren marw’r gaeaf, er mwyn sicrhau bod y drain a’r chwyn yn cadw bant. Mae’r menig cryfion allan a pheiriant neu ddau i’m cynorthwyo gyda’r gwaith. Bydd yn dda paratoi ar gyfer medru mwynhau’r ardd yn yr haf a chael cyfle i dreulio amser yng nghanol natur ac i ffwrdd o dywyllwch ystafelloedd wedi’u cynhesu’n artiffisial. Awyr iach a haul cynnes, hyfryd…gobeithio.

Bydd yn braf cael cyfle i dreulio amser yn yr ardd dros y pythefnos nesaf gyda’r Pasg wedi cyrraedd a’r plant (a’r athrawon gobeithio) yn mwynhau saib cyn rhialtwch yr arholiadau.

Bydd hefyd yn braf cael cyfle i fynd i’r ardd am seibiant, i ffwrdd o wallgofrwydd gwleidyddiaeth y misoedd diwethaf ac ansicrwydd y misoedd i ddod.

Mae effaith trafodaethau Brecsit (ie, trafodaethau’n unig ar hyn o bryd) ar ein cymunedau lleol ni yn fy mhryderu’n fawr. Rwy’n gweld torri ar gyllidebau lleol yn dwyn gwasanaethau hanfodol i ben, ein gwasanaeth iechyd yn gwanychu’n ddyddiol, digartrefedd yn ein trefi a’n dinasoedd yn cynyddu a’r rhai sydd ar y ffin denau o fod yn ddigartref yn beryglus o uchel.

Ond y gwaethaf oll, yw’r atgasedd tawel ond gwenwynig sydd wedi codi ymysg ein cymdogion yn ein cymunedau tuag at fewnfudwyr ac at bobl sydd wedi cyfrannu ers degawdau i fecanwaith cymhleth ein cymunedau a’n gwasanaethau ac sydd wedi bod yn derbyn llythyron i adael ac i ddychwelyd i’w “gwledydd eu hunain”. Rydyn ni gyd wedi darllen eu hanesion.

Wrth baratoi ar gyfer gwasanaeth y Sul diwethaf a hefyd wrth ddilyn cwrs Grawys Beibl.net ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru (adnodd ardderchog gyda llaw), trawodd un adnod fi, yn fwy nag erioed o’r blaen. Yr adnod yw’r un sy’n sôn am eiriau Iesu wrth Mair ac Ioan wrth iddo gael ei groeshoelio…

“Pan welodd Iesu ei fam yn sefyll yno, a’r disgybl oedd Iesu’n ei garu yn sefyll gyda hi, meddai wrth ei fam, “Mam annwyl, cymer e fel mab i ti,” ac wrth y disgybl, “Gofala amdani hi fel petai’n fam i ti.” Felly o hynny ymlaen aeth mam Iesu i fyw gyda’r disgybl hwnnw.” (Ioan 19:26-27)

Dwi wedi ceisio rhoi fy hun wrth droed y Groes gyda Mair ac Ioan. Beth oedd yn mynd trwy feddyliau Mair ac Ioan wrth i Iesu ddweud hyn, wrth iddyn nhw weld ei mab a’i gyfaill yn marw ar y groes? Sylwch hefyd mai dweud mae Iesu ac nid gofyn.

Mae’r hyn a ddeallaf o’r adnod hon eleni’n wahanol i’r gorffennol. Mae wedi codi’r cwestiwn ynof ac yn fy ngweddïau i Dduw fy nghryfhau yn y diwrnodau gwallgof hyn. Y mae geiriau Iesu’n dweud wrthym am newid ein perthynas er mwyn addasu i ddigwyddiadau’r presennol a’r hyn sydd i ddod. Sut allwn ni wneud hyn yn 2019? Sut allwn ni newid ein perthynas â’n gilydd, yn ein cymunedau, yn ein heglwysi i adlewyrchu Cariad Iesu Grist y Pasg hwn?

Mae yna rywbeth ynof – yr wythnos yma ta beth,  sy’n gyndyn iawn i dynnu’r drain o’r ardd yn llwyr. Pob bendith i chi dros yr Wythnos Fawr.