E-fwletin Mehefin 22ain, 2015

Mae’n siwr y byddai selogion Cristnogaeth21 yn dweud fod gweddi yn sylfaenol i’w crefydd. Yn y crefyddau monotheistig mae hyn yn golygu siarad â Duw, Duw sy’n ymyrryd yn y byd ac ym mywydau pobl; erfyn arno, neu orchymyn iddo, wneud hyn neu beidio gwneud y peth arall.

Yn ddiweddar fe ddywedodd pregethwr yn ein capel ni mai peth anodd yw gweddïo, a hawdd gennyf ddeall hynny. Beth mae dyn i’w wneud os yw’n teimlo ei fod yn gweddïo ar wacter mawr, neu ar wal frics?

Mi ‘rydw i newydd orffen ail-ddarllen llyfrau Gretta Vosper, sy’n weinidog ar un o eglwysi Eglwys Unedig Canada yn Nhoronto, ac yn lladmerydd huawdl dros y Gristnogaeth Flaengar (Progressive Christianity). Mae’r ail gyfrol, Amen, yn ymwneud yn gyfangwbl â gweddi.

Yn 2001 fe draddododd hi bregeth yn ei heglwys yn dweud na fedrai bellach dderbyn y Gristnogaeth theistaidd, ddogmataidd, ac amlinellu oblygiadau hynny. ‘Roedd hi’n disgwyl y byddai raid iddi ymddiswyddo o’i gofalaeth, ond nid felly y bu. Fe dderbyniodd y gynulleidfa ei neges gyda chryn gydymdeimlad, a phenderfynu bwrw ymlaen gyda’i gilydd i chwilio am ffordd newydd, am Gristnogaeth a fyddai’n fwy cydnaws â’u profiad a’u dyheadau.

‘Roedd angen newid tipyn ar gynnwys y gwasanaethau, ac un peth a wnaethon’ nhw oedd hepgor Gweddi’r Arglwydd. Meddai Vosper “Our children were reciting a prayer about a God that almost none of their parents could relate to and most certainly did not want to hand down.” Yn ei lle fe aethant ati i addasu Gweddi Sant Ffransis (nad oes a wnelo hi ddim â’r sant hwnnw, gyda llaw) gan dynnu allan unrhyw gyfeiriadau ymyraethol. Fe gofiwch, mae’n siwr, fod pwyslais y weddi hon ar fyw a gweithredu yn hytrach na gofyn ac erfyn. Wedi hir drafod fe gytunwyd ar ffurf derfynol, a bellach mae’r weddi hon ar gof pawb o’r gynulleidfa. Ym mhob oedfa bydd un o’r plant yn ei ledio.

Mewn dau o’i lyfrau mae’r esgob Spong yn cyfeirio at ei arfer o dreulio dwyawr gyntaf pob dydd, o 6 i 8 bob bore, mewn gweddi, myfyrdod a darllen, fel paratoad at waith y dydd. Ond fe ddaeth i sylweddoli mai ei waith yn ystod y dydd oedd ei weddi; wrth fyw, caru, bod, cwrdd, wynebu, ymdrechu dros gyfiawnder y mae’n gweddïo. Mae Duw bellach i’w gael yn hwrli-bwrli bywyd prysur a thrafferthus . “God was found not in the stable rocks but in the rushing rapids.” Mae’n dal i dreulio’r ddwyawr foreol yn ei stydi, ond oriau paratoad ydyn’ nhw.

Ai dim ond un ffordd o weddïo sydd yna, plygu pen a chau llygaid, penlinio a phlethu dwylo efallai, a siarad yn dawel neu yn uchel? Os yw hyn yn ystyrlon ac yn fuddiol i lu mawr o bobl popeth yn iawn. Ond oni all byw ein bywyd fel Cristnogion ymhlith ein cyd-ddynion hefyd fod yn weddi?