Y Bitw Bach a’r Geiriau

Capel bitw bach yn y wlad yw Gideon ond ar ymyl ffordd arfordirol brysur. Mae’r tu fewn ar batrwm y Capel Salem hwnnw a baentiwyd gan Curnow Vosper. Corau cyfyng yn gorfodi’r hirgoes o leiaf i eistedd ar dro am y byddai’n siŵr o ddolurio ei bengliniau o’u gorfodi yn erbyn y pared blaen. Mae hanes i’w deimlo’n drwm yno. Yn y distawrwydd gellid yn hawdd dychmygu llais Endaf Emlyn yn canu am addolwyr y capel cyfatebol yng Nghwm Nantcol, Sir Feirionnydd. Mae’r ymdeimlad o ddoe yn hongian ar hyd y muriau. Cynhelir oedfaon achlysurol yno. Dyna ble’r oeddwn i ar fore Sul gwanwynol. Y gynulleidfa denau, henaidd, wedi’i gwasgaru fel cwrens mewn pancosen.
Cymrwyd at yr awenau gan deulu lleol. Y fam yn darllen yr efengyl. Y mab yn rhoi’r emynau mas. A’r tad yn gweddïo a chyhoeddi’r efengyl yn hyglod glir. Doedd yr un yn brin o hyder. Roedd y gwaith yn gyfarwydd iddyn nhw. Cafodd y tad ei hyfforddi i gymryd gofal o oedfaon gan ei gyn-weinidog pan oedd yntau’n wynebu ei lesgedd olaf. Mewn oes o brinder gweinidogion mynnai sicrhau aelodau cymwys i gyhoeddi’r Gair. Cyrhaeddodd y tad oed yr addewid ond parod yw i ddringo grisiau’r pulpud.
Bu’n pori yn Luc 23 gan ddelio â’r digwyddiade ar Y Groes. Dyfynnodd yn gyson o lyfrau’r Parch Maurice Loader, cyn-weinidog Capel Als, Llanelli. Cydiodd yn y cymal ‘heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys’. Fe’n tywysodd i ryfeddu ar y fath ddatganiad gan ŵr a oedd yn wynebu poenau dirdynnol marwolaeth. Ond dyna roedd yn ei gynnig i’r troseddwr a groeshoelid yn ei ymyl. Pwysleisiodd y tad fod edifeiriwch yn bosib hyd y funud olaf un. Roedd yr argyhoeddiad hwn yn ffrwyth myfyrdod.
Cyflwynwyd hen wirionedd o’r newydd gan deulu oedd yn gytûn yn ei ffydd. Doedd y ffaith fod y mab yn cael ei ddisgrifio fel person Syndrom Down ddim yn amharu ar ei allu i gyfrannu i’r oedfa. Cyfartal ydym yng ngolwg Duw. Arhosodd y posibilrwydd o fynediad i Baradwys gyda mi am yn hir.
Treuliais y p’nawn yng nghwmni pererinion oedd am ymweld â mangreoedd oedd yn gysylltiedig â’r Crynwr a’r heddychwr Waldo Williams. Teithiwyd o fan i fan mewn bws bitw fach. Rhaid oedd oedi yma a thraw i roi cyfle i un o’r criw lefaru rhai o gerddi’r gyfrol Dail Pren. Gwrando ar eiriau eto. A hynny yn yr awyr agored gan synhwyro’r mawredd a berthyn i dreigl amser. A chofio. Erys rhai pethau’n ddigyfnewid ym mhrofiad dyn.
Pysgotwr ar lan Afon Cleddau yn chwilfrydig. Am wybod beth oedd wedi’n hudo at y Dderwen Gam. Heb erioed glywed am Waldo heb sôn am ei arfer o werthfawrogi tangnefedd y cread yn yr union fan ar doriad gwawr. Medrai uniaethu â hynny. Fe’n sobrwyd ninnau.
Wrth swpera yng nghwmni ein gilydd mewn tafarn yng nghanol y Preselau doedd y sgwrsio ddim yn afieithus ond yn dawel a bodlon. Diwrnod heb glywed sŵn tonfeddi gorsafoedd radio masnachol na sgrechfeydd y rhaglenni cystadlu ar y sianelu teledu.
Weithiau mae’r bitw bach a’r geiriau trymlwythog eu hystyr yn fwy na digon i fwydo enaid dyn ar y Sabath.