E-fwletin Mehefin 15fed, 2015

Mae sŵn cofio canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf wedi gostegu am dro wedi seremonïau cofio trychineb Gallipoli. Ond buan y daw yn ôl wrth i ganmlwyddiant brwydrau arbennig ymddangos ar ein calendrau.
Fe wyddom oll beth mor erchyll yw rhyfel. Lladd wrth y degau o filoedd; clwyfo corff a meddwl, ac effaith y clwyfau yn achosi anabledd i’r clwyfedig weddill eu hoes; achosi profedigaethau lawer i deuluoedd diniwed, distrywio bywyd teuluol, plant yn cael eu hamddifadu, a gwragedd yn weddwon yn eu hieuenctid; cartrefi , a’r cyflenwad bwyd ac angenrheidion eraill bywyd, yn cael eu distrywio.
Ond yn rhyfedd iawn, ar waethaf hyn i gyd, mae yna ymdeimlad ymhlith pobl yn gyffredin fod ymladd mewn rhyfel yn rhywbeth gogoneddus, anrhydeddus, yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo. Fe edrychir ar aelodau o’r lluoedd arfog gydag edmygedd, a’u cymeradwyo wrth iddyn’ nhw orymdeithio. Fe roddir rhyddfraint trefi a dinasoedd i gatrodau, gan roi’r hawl iddyn’ nhw roi bidogau ar flaenau eu drylliau – dau offeryn lladd am bris un!
Ddydd Iau diwethaf fe ddaeth y Frenhines, neb llai, i Gaerdydd i roi baneri newydd i’r Gatrawd Gymreig mewn seremoni rwysgfawr, a dydd Sadwrn ’roedd hi eto yn llywyddu dros seremoni arddangos baneri’r Gwarchodlu Cymreig. Wedi’u hargraffu ar y baneri hyn mae enwau’r brwydrau y bu’r catrodau yn ymladd (yn fuddugol?) ynddyn’ nhw – y battle honours bondigrybwyll! A’r gair a glywyd ar wefusau pawb a holwyd ar y teledu oedd “proud.”
Hyd yn oed yn seremonïau Sul y Cofio mae presenoldeb aelodau o’r lluoedd arfog yn amlwg. “Byth eto” ddylai neges y seremonïau hynny fod, ond mae eu presenoldeb yn gweiddi “Rydym yn barod i gyflawni’r un erchyllterau eto os oes raid.”
Y drasiedi yw fod yr agwedd hon yn gysur i’r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid mewn rhyfel, y teimlad eu bod wedi colli’u bywydau wrth wneud rhywbeth anrhydeddus. Mor aml y dywedir fod aelodau’r lluoedd arfog yn aberthu’u bywydau dros eu gwlad, eu brenhines, neu dros ryddid. Ond rhaid cofio nad ydyn’ nhw yn ymuno’n wirfoddol yn y lluoedd arfog er mwyn cael eu lladd; y gorau y gellir dweud yw eu bod yn fodlon cymryd y risg o gael eu lladd yn ystod y broses o ladd eraill, wedi’u cyflyru i feddwl bod gwneud hyn yn destun balchder
Pam fod y bri hwn ar ogoniant mewn rhyfel yn dal i fod? I’m tyb i y mae’n rhywbeth sy’n perthyn i’r hen oesoedd a’r oesoedd canol, pan oedd brenhinoedd a gwladwriaethau yn fwy parod i ryfela, a hynny’n aml er mwyn y gogoniant yn unig. Mi fyddwn i’n tybio ein bod ni gryn dipyn yn gallach erbyn hyn, yn enwedig pan fo’r teledu yn medru dwyn yr erchylltra yn fyw i’n cartrefi. Ond rywfodd mae’r ymdeimlad o ogoniant a balchder fel pe bai’n cyfiawnhau rhyfela, er bod pob ystyriaeth arall yn dweud na ddylid gwneud hynny.
Yn y gorffennol mae rhywrai wedi’u dwyn o flaen llysoedd rhyngwladol ar gyhuddiad o “droseddu yn erbyn dynoliaeth.” Onid yw pob rhyfel yn drosedd yn erbyn dynoliaeth? ‘Does yna ddim gogoniant, anrhydedd na balchder mewn rhyfel, a’n dyletswydd ni fel Cristnogion yw cyhoeddi hynny’n glir ac yn groch. Mae bywydau pobl yn rhy werthfawr i’w gwastraffu ar geisio setlo problemau gwleidyddol – a chrefyddol – trwy drais.
Nodyn am yr Encil:
Bu ymateb da iawn i’r encil, ac ychydig o lefydd sydd ar ôl bellach. Os oedd ‘cyntaf i’r felin’ yn wir wythnos yn ôl, mae’n llythrennol wir erbyn hyn. Peidiwch â cholli’r cyfle. Cofrestwch HEDDIW. Naill ai atebwch y neges hon NEU e-bostiwch Pryderi Llwyd Jones, sef pryderi@btinternet.com
I’ch atgoffa:
Coleg Trefeca : Encil Cristnogaeth 21
o 6.00p.m. (swper) nos Fawrth Medi 22ain hyd at 3.30p.m. (Tê ysgafn) prynhawn Mercher, Medi 23ain.
Yng nghwmni Manon Steffan Ros ac Aled Jones Williams.
Thema : “Creadigrwydd ac Ysbrydolrwydd”.
Cost £43.50 (i gynnwys swper nos Fawrth a phryd amser cinio ddydd Mercher)