E-fwletin, Mehefin 8fed, 2015

Beth bynnag yw’r gwahaniaethau rhyngddynt, mae gan Iesu, Muhamad a’r Bwda un peth enfawr a sylfaenol yn gyffredin: dychymyg crefyddol. Medrodd y tri, o’u diwylliannau cynhenid, ddychmygu ffurfiau amgen a newydd o fynegi yr hyn a alwn ni yn ‘yr ysbrydol’. Petai’r tri mewn meysydd eraill, – cerddoriaeth, dyweder, neu lenyddiaeth, – hwy fyddai Beethoven neu Tolstoi eu diwylliannau. (A wyf fi’n dweud mai cynnyrch y dychymyg yw’r crefyddol? Ydwyf, mae’n debyg. Y dychymyg ddaw gyntaf, wedyn y ‘duwiau’. Nid yw hynny o reidrwydd nac o gwbl yn golygu nad oes yna Bresenoldeb y tu allan i’r dychymyg. Ond ni allwn ni fyth wybod hynny.)

A hyn, debygaf fi, yw’r coll mawr yn ein cyfnod ni: diflaniad llwyr y dychymyg crefyddol. Nid ffwndamentaliaeth yw’r bwgan, nid seciwlariaeth ychwaith, yn sicr nid anffyddiaeth, ond y diffyg dychymyg crefyddol. Yr ydym wedi asio Cristnogaeth yn gyfan gwbl â’r mynegiant ohoni yn yr enwadau, fel na allwn weld dim erbyn hyn ond capeli ac eglwysi gweigion a’r ‘creisis’ parhaol.

Y cam cyntaf yw cydnabod fod y ffasiwn beth â ‘dychymyg crefyddol’ yn bod. Os oes gennych amheuaeth, yna darllenwch William Blake neu Forgan Llwyd. Yr ail gam – a hwn yw’r un mawr – yw ymryddhau Cristnogaeth oddi wrth enwadaeth. Fe ddaw tryblith o wneud hyn. Ond tryblith bob amser yw crud creadigrwydd. O’r tryblith yna y daw ymgais flêr ar ôl ymgais flêr i ‘ail-ysgrifennu’ Cristnogaeth.

Diolch am ddarllen. A dyma gyhoeddiad:

Fe addawyd rhagor o wybodaeth am Encil Trefeca, felly dyma’r manylion:

Coleg Trefeca : Encil Cristnogaeth 21

o 6.00p.m. (swper) nos Fawrth Medi 22ain hyd at 3.30p.m. (Te ysgafn) prynhawn Mercher Medi 23ain.  Yng nghwmni Manon Steffan Ros ac Aled Jones Williams.

Thema : Creadigrwydd ac ysbrydolrwydd.

Cost  £43.50 (i gynnwys swper nos Fawrth a phryd amser cinio ddydd Mercher)

Nifer yn gyfyngedig, felly cyntaf i’r felin. Rhowch wybod ar unwaith drwy’r wefan neu yn uniongyrchol i Pryderi Llwyd Jones (pryderi@btinternet.com). Yna fe gewch gadarnhad, yr amserlen yn llawn a chais am flaendal.