E-fwletin Medi 28ain, 2015

Cafwyd encil llwyddiannus iawn yn Nhrefeca yn ystod yr wythnos, ac fe drodd pawb am adref yn teimlo’n llawen a gobeithiol. Diolch o galon i Pryderi a Tecwyn am y trefniadau.
Yn ystod y drafodaeth ar y cynlluniau i’r dyfodol, penderfynwyd y bydd tri digwyddiad yn ystod 2016, sef (a) Encil yn y gwanwyn rywle yng Ngogledd Cymru (b) Cynhadledd undydd ym mis Mehefin 2016 yn Aberystwyth (c) Darlith gan yr Esgob John Spong yng Nghaerdydd ar Hydref 23ain, 2016.
Gwnaed penderfyniad cyffrous iawn ynglŷn â’n presenoldeb ar y we hefyd: bydd y wefan bresennol yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn, ond byddwn yn lansio cylchgrawn digidol Cymraeg newydd sbon. Bydd yr e-fwletin wythnosol yn parhau, a gellir ymateb iddo, a chyfnewid unrhyw negeseuon eraill ar y dudalen Facebook. Credwn fod y datblygiad hwn yn adlewyrchu’r brwdfrydedd sy’n gyrru Cristnogaeth 21 ar hyn o bryd, a gobeithio y cewch flas ar y ddarpariaeth newydd pan ddaw i fod.
Bwriadwn wahodd cyfraniadau ariannol i gynnal y cylchgrawn newydd, a chewch wybodaeth am hynny yn y man.
Cofiwch fod ein tudalen Facebook yn weithredol ar hyn o bryd, a chroeso i chi ymuno â’r grŵp. Hefyd, os gwyddoch am unrhyw rai a hoffai dderbyn yr e-fwletin wythnosol, anfonwch eu henw(au) a’u e-gyfeiriad atom drwy ateb y neges hon.
Yn y cyfamser dyma e-fwletin yr wythnos hon:
Tystia cynnwys y silffoedd mewn unrhyw siop lyfrau i’r diddordeb cynyddol a geir mewn garddio a choginio. Beth bynnag yw’r holl resymau dros y tueddiad diweddar hwn, rhaid ystyried y posibilrwydd fod yma arwydd o ddymuniad pobl, nad oes rhaid iddynt wrth ardd i godi bwyd, na chegin a llawer mwy na phopty ping ynddi i’w baratoi, i ail ddarganfod eu cyswllt â byw a bod yn ei fan mwyaf elfennol. “Un rheswm sydd gen i dros ysgrifennu llyfrau coginio,” meddai un awdur, “rwy’n gyson newynog.”
Faint o ddefnydd gwirioneddol a wneir o’r llyfrau hyn sydd gwestiwn arall. Dyw pori’r papur ddim yn gwarantu pryd i’w fwyta, ddim mwy na bod prynu pâl yn sicrhau gardd wedi ei throi. Yn y pendraw dyw pobi bara, palu’r ardd, bwydo’r ci neu goginio i ddieithryn ddim yn gofyn am gyfarwyddiadau cymhleth. Y pennaf angen yw’r parodrwydd i blygu a chwysu, i dorri ac i droi a darganfod, mewn gweithgaredd cwbl syml, bleser a boddhad nad oes fesur arno.
Mewn byd lle mae Cristnogaeth yn cael ei ystyried fel ffordd o feddwl, gall ymarferion corfforol ein hatgoffa mai ffordd o fyw ydyw. Ar ei noson olaf cyflwynodd Iesu ddau beth i’w ddisgyblion wneud er cof amdano. Torri bara a rhannu gwin – yr oedd rhywun wedi eu paratoi ymlaen llaw, wrth gwrs. Ymddengys bod y person cyfoes yn tybio bod rhywbeth creiddiol i fywyd mewn tylino toes a thocio gwinwydden, ac oni chadarnheir hynny gan weinidogaeth Iesu? Pan fo’r un sy’n pobi dorth yn barod i’w rhannu wedyn, try hynny yn sacrament siŵr o fod.