E-fwletin Medi 21ain, 2015

Edrychais, gyda chryn ryfeddod ar lawrlwythiad diweddar o ffilm yn portreadu efeilliaid newydd eu geni yn cael eu hebrwng i’r byd. Oddi fewn i eiliadau’n unig i’w geni daeth hi’n amlwg nad oeddent yn gyffyrddus â bod ar wahân nac yn ddiddig â’u hystâd newydd, ddieithr. O dan ddwylo medrus bydwraig arbenigol crewyd amgylchedd croth – debyg iddynt drwy eu dal gyfochrog â’i gilydd mewn dŵr cynnes, symudol. Mewn dim o dro chwilient am ei gilydd â breichiau a choesau’r naill yn prysur ymdrechu i anwesu ac ymgeleddu’r llall. Cadarnhau wna’r ddelwedd uchod inni gael ein llunio i fod mewn perthynas â’n gilydd ac nad “da bod (y )dyn ar ei ben ei hun.” “ A buont byw yn hapus ‘da’i gilydd byth wedyn,” medd clo stori’r plentyn. Arall, rhan amlaf, yw eiddo’r oedolyn. Edrydd hwnnw’i stori yn newyddion y dydd a honno’n bradychu ei fethiant i fyw fel plentyn ym myd Duw.

Ni fu’r rhai a aned o’r Ysbryd yn rhydd bob amser o’r methiant hwn ac un o’r rhesymau dros hynny, efallai, yw’r pwyslais cwbl unigolyddol a roddwyd, nid yn unig ar ar yr enedigaeth oddi uchod, ond ar y bywyd newydd yn ei gyfanrwydd. Diddorol sylwi fod Iesu yn ei drafodaeth â Nicodemus yn pwysleisio natur gyfun yr enedigaeth. “ Y mae’n rhaid eich geni chwi o’r newydd. ” Diddorol sylwi, hefyd, i Iesu, wedi galw’r disgyblion i’w gwaith eu hieuo’n ddeuoedd ac nid bob amser ,fe ymddengys, yn gwbl gymharus. Meddylier, er enghraifft, am Mathew y casglwr trethi, dyn “balance sheets”, mater o ffaith ei feddwl, a Thomas yr efaill, fentrus, ymchwilgar, anghrediniol ar dro yn bartneriaid yn y gwaith o hebrwng eraill i’r byd y mae Duw Iesu Grist yn galon ac yn ganol iddo.

“ Our chief want,” meddai’r bardd Americanaidd Ralph Waldo Emerson, “ is someone who will inspire us to be what we know we could be.”

Gorau i gyd, o bosibl, pa mor annhebyg fydd y rhywun hwnnw i fi fy hunan. Mae hunan o’i adael i’r hunan yn gallu gwneud llawer o ddrwg. Nid yn lleiaf i’r hunan.