E-fwletin 14eg o Fedi, 2015

Grym y Llun

Ar fore yr ail o Fedi 2015 tynnodd ffotograffydd o’r enw Nilufer Demir lun heddwas ar draeth yn Nhwrci yn cario corff bachgen bach a foddwyd. Roedd ei deulu yn ymdrechu i groesi’r môr i ynys Kos, a’u rhyddid. Aylan Kurdi oedd enw’r bychan. Go brin y cofir ei enw, fwy nag enw’r ffotograffydd, ond bydd pawb yn cofio’r llun. Fe welodd llawer tad y llun, ac fel brathiad yn ei galon fe welodd ei hun yn cario’i blentyn bach marw yn ei ddwylo. Fe welodd mamau’r byd y llun a phob un yn arswydo wrth weld ei bachgen bach hi yn gorff. Fe barodd y llun i arweinwyr gwledydd aildrefnu ar frys eu hymateb i argyfwng y ffoaduriaid. Dyna rym y llun.

Does fawr neb yn cofio enw Nick Ut, y ffotograffydd a dynnodd lun y ferch fach naw mlwydd oed yn Fietnam yn rhedeg gan sgrechian, a’r napalm wedi llosgi ei chorff hi. Phan Thi Kim Phuc oedd ei henw hi. Ond cofio’r llun a wnawn ni, nid yr enw, oherwydd mai’r llun hwnnw a newidiodd farn y byd am y rhyfel yn Vietnam. Bellach doethinebwyd yn helaeth yn y wasg am rym llun yn union fel petai’n nodwedd hollol fodern.

Fe wyddai Iesu’n dda mor rymus y gall llun fod. Yn ffodus i ni fe gadwyd albwm ohonynt ar gof ei ddilynwyr. Fe dynnodd lun heuwr yn mynd allan i hau. Bydd y llun hwnnw mae’n siwr yn cael ei dynnu allan o’r albwm ar gyfer y diolchgarwch y mis nesa, er nad oes ynddo fawr ddim i’w wneud â diolch. Ond y mae’r llun wedi cydio yn nychymyg myrddiynau o Gristnogion ar hyd yr oesau.

Aeth ati unwaith i dynnu llun dafad ar gyfeiliorn, a bugail yn ei hymgeleddu. Mae’r llun hwnnw wedi bod mor ddylanwadol nes iddo gael ei gopïo filoedd o weithiau gan blant a chan feistri. Mae pob copi wedi plannu’r neges yng nghalon rhywun.

Fe gofiodd Iesu fod y gwragedd hefyd yn hoffi lluniau, ac fe baentiodd lun gwraig yn sgubo llawr y tŷ yn chwilio am ddarn arian a aeth ar goll. Y tro hwnnw eto ni thrafferthodd roi enw i’r wraig. Fe allai’n hawdd fod wedi ei galw hi’n Martha. Ond fe wyddai Iesu mai’r llun oedd yn bwysig, gan mai yn y llun y byddai’r neges.

Yn yr un albwm mae gan Iesu lun teulu, yn dad a dau fab. Y gwahaniaeth gyda’r llun hwnnw yw ei fod yn gyfoethog o ran ei fanylion. Y tri dedwydd ar yr aelwyd i ddechrau. Yna’r mab ieuengaf yn ei obeithion llawen, a’r un mab druan wedyn yn ei garpiau. Yna wyneb gorfoleddus y tad, a wyneb sarrug y mab hynaf yn dod at y tŷ. Dyna gampwaith o lun cyflawn, ond y neges fu’n gofiadwy ar hyd yr oesoedd.

Credaf fod gan Iesu ran mewn llun arall hefyd. Llun heddwas o Samariad trugarog wedi gweld Aylan Kurdi bach, a lladron wedi dwyn ei einioes oddi arno tra oedd ar ei daith. Yn dyner mae’n ei ymgeleddu fel petai’n dal yn fyw. Mae’r heddwas fel y gweddill ohonom wedi clywed y neges a roddwyd o dan y llun gan Iesu: “Dos a gwna dithau yr un modd.”