E-fwletin Hydref 5,2015.

E-fwletin Cristnogaeth 21. Hydref 5,2015.

Yn y rhifyn cyfredol o Barn mae’r Athro Densil Morgan yn adolygu y gyfrol ‘Dilyn Ffordd tangnefedd : canmlwyddiant Cymdeithas y Cymod’ ( Golygydd D.Ben Rees ) . Er yn dweud mai ‘tipyn o potpouri’ yw’r gyfrol…’– sydd yn feirniadaeth ddigon teg oherwydd fod llawer,os nad gormod, wedi cyfrannu iddi – y mae gan yr adolygydd edmygedd mawr o heddychwyr y gorffennol. ( Er mai pasiffist yw ei air ef, gair anffodus a chamarweiniol, nad yw’r gyfrol yn ei ddefnyddio yn ôl a welaf ). ‘Ni ellir llai nag edmygu aberth llawer o’r rhai y crybwyllir eu henwau yma,’ meddai. Ond y mae yn feirniadol ‘nad oes yn y gyfrol ddadansoddiad deallusol o werth ac ysywaeth wendidau’r dehongliad pasiffistaidd o’r Efengyl Gristnogol.’ Nid yw hynny yn gwbwl deg o edrych ar y gyfrol drwyddi draw, oherwydd, o ganolbwyntio ar adrodd yr hanes, nid oedd lle i gynnwys penodau ar Sylfeini Beiblaidd/Diwinyddol y Gymdeithas. Mae’r Gymdeithas wedi cyhoeddi llawer am y sylfeini hynny ac y mae’r Lyfryddiaeth fanwl a gwerthfawr i’r gyfrol yn cyflwyno’r darllenwyr i gyfoeth o ddeunydd am sylfeini’r Gymdeithas yn yr Efengyl.

Ond mae’r gwir feiriadaeth yr adolygydd yn dod ar y diwedd. ‘Nid gwadu ond gofyn yn unig yr wyf ‘, meddai Densil Morgan. Ond gwadu beth ? ‘Bellach’, meddai, ‘nid perthyn i’r 20ed ganrif a wnawn fel y bobl wych yn y gyfrol hon, ond yr ydym yn rhan o fyd ôl-Gristnogol Islamyddiaeth waedlyd a milwriaethus. Mae’r byd wedi newid’. Neu, fel y clywn yn gyson gan wleidyddion, y sefydliad , y wasg dabloid , neu gynulleidfa Question Time o Gaerdyddd ( Hydref 1af ) you’ve got to live in the real world. Dyna’r feirniadaeth : nid yw heddychiaeth a’r egwyddor di-drais yn ateb gofynion yr oes hon. Ond, yn ymwybodol ei fod yn dweud rhywbeth sydd yn codi cwestiynau am Iesu ei hun, mae’r adolygydd yn prysuro i ddweud , ‘Nid gwadu ond gofyn yn unig yr wyf ‘. Ond y mae wedi gwneud mwy na gofyn.

Yr oedd Iesu yn byw yn y ‘real world’ ac y mae cefndir o derfysgaeth ac ymateb i derfysgaeth gan y dwrn dur Rhufeinig nid yn unig yn gefndir i fywyd Iesu ond hefyd yn gefndir gwaedlyd i’r rhai oedd yn ysgrifennu’r Efengylau ddegawdau yn ddiweddarach. Yn nyddiau geni Iesu, oni chroeshoeliwyd 2000 o Iddewon yng nghyffiniau Jerwsalem? Ac yn y degawdau a ddilynodd fe laddwyd, yn ôl Josephus, 1.1 miliwn o Iddewon. Byd o drais di-dostur yn wir. I gefndir felly – oedd mor waedlyd a threisgar a’r Dwyrain Canol heddiw – fe gyflwynodd yr Efengylwyr Feseia di-drais a gyhoeddodd deyrnas o gymod, maddeuant ac o hau hadau heddwch. Yr oedd ei neges yn glir, yn gwbwl wahanol ac yn radical.

Fe wyddom beth sydd wedi digwydd. Yn nyddiau Cystenyn fe aeth yr eglwys yn Borffor ( cyfoeth, awdurdod, grym, chwedl David Edwards ) yn sefydliad a gerddodd law yn llaw a’r awdurdodau gwleidyddol. Fe dorrwyd y berthynas rhwng yr eglwys a’i gwreiddiau yn Iesu. Hwn oedd y Cyfaddawdu a’r Glastwreiddio Mawr ar Iesu fel datguddiad o galon ac ewyllys Duw ei hun. Y Duw di-drais.Mae’n ddiwinyddiaeth sylfaenol ac yn ffordd o fyw wahanol.Nid yn addas i’r 21ain ganrif ? Gwell, efallai, yw credu Ysgrifennydd Tramor Prydain yn dweud y gellir ‘bomio meddylfryd y terfysgwyr allan ohonynt’. ( Hyd yn oes os yw’n golygu bomio ysbyty yn anfwriadol, creu mwy o arfau er mwyn lladd mwy ohonynt , yn ogystal a gwerthu mwy o arfau er mwyn iddynt ladd ei gilydd. ) A gwell yw ystyried arweinydd plaid na fyddai yn barod i bwyso’r botwm niwclear fel rhywun anghyfrifol a naîf nad yw’n byw yn y ‘real world’. Popeth yn iawn. Dyna’r drefn. Dyna ffordd y byd. Ond i’r Cristion mae cwestiwn y mae’n rhaid ei wynebu : beth wnawn ni o Iesu ? Efallai na ddylem roi gormod o sylw iddo mewn materion fel hyn na byd fel hwn. Roedd yn byw mewn oes wahanol iawn.

Ein cofion atoch. A chofiwch, fel y negeseuon sydd yn ein cadw i aros ar y ffôn, ‘mae eich sylwadau yn bwysig i ni !!’ Mae rhannu a thrafod yn goleuo ac yn adeiladu.