Daeth yn Fai 18fed unwaith eto – Dydd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd. Ar y dyddiad hwn yn 1899 y cynhaliwyd y Gynhadledd Heddwch gyntaf yn yr Hag ac o’r herwydd mae ieuenctid Cymru yn danfon Neges Heddwch ac Ewyllys Da i bedwar ban byd ar y dyddiad hwn bob blwyddyn. Yn 50au y ganrif ddiwethaf trosglwyddwyd y cyfrifoldeb i’r Urdd i barhau gyda gweledigaeth wreiddiol y Parchg. Gwilym Davies.
Diolchwn i ddisgyblion Ysgol Gyfun Cwm Rhymni am lunio’r neges eleni, ar thema Ymfudo ac am godi cwestiynau pwysig megis, “…A hawliwn ein rhyddid heb ddwyn rhyddid eraill?”
Trwy gyd-ddigwyddiad medrwn gysylltu’r cwestiynau yn y Neges â digwyddiad a gynhelir yr wythnos hon yn Sir Benfro. Nos Iau nesaf dadorchuddir plac ar wal ‘Elm Cottage’, Llandysilio, i ddynodi mai’r tŷ hwn fu’n gartref i’r heddychwr a’r bardd Waldo Williams.
I gyfeiriad y gorllewin o ffenestr llofft y tŷ, dywed Waldo y medrai weld dau bigyn ar y gorwel a chyfeiria at hyn yn ei gywydd, ‘Y Tŵr a’r Graig’. Mae’n cymryd y naill, Tŵr Castell Roch, yn arwydd am ormes – cymdeithasol a militariaeth, a’r pigyn arall, Plumstone, y garn sy’n codi’n naturiol o’r ddaear. Ond yn wahanol i’r castell nid rhywbeth gwneud ydyw, gan fod y garn yn arwydd o ddyfalbarhad y werin arwrol.
Wrth i’r ieuenctid ofyn yn y Neges “… A hawliwn ein rhyddid heb ddwyn rhyddid eraill?” cawn ein hatgoffa fel y mae gwladwriaethau yn gormesu ar y di-rym a’r di-lais.
Yn ogystal â chyfansoddi cerddi yn erbyn hyn, safodd y bardd o sir Benfro yn gadarn yn erbyn y fath anfadwaith.
Gofynnir cwestiwn arall hefyd yn y Neges, “…A allwn gyd fyw a pharchu’n gilydd…?” gan ein galw i arddel daliadau a syniadau pobl o ddiwylliant a chrefyddau gwahanol i’n heiddo ni os am fyw’n heddychlon mewn hyn o fyd.
Mewn cerdd a chred bu bywyd Waldo ar ei hyd yn fynegiant di-ildio yn erbyn grymoedd milwrol ac o blaid hawliau dynol fel y mynega yn ei gywydd, “Y Tŵr a’r Graig” a cherddi eraill o’i eiddo oherwydd fel y dywed yn y cywydd hwn,
“…Yr un yw baich gwerin byd,
Un hawlfraint ac un delfryd…”
Croesawn yn galonnog gonsyrn yr ifanc wrth iddynt ein herio yn eu Neges, er hynny cywilyddiwn mai o gyfeiriad yr ifanc y daw’r anogaeth, tra bod y mwyafrif ohonom yn ein heglwysi’n dawedog a di-asgwrn-cefn i wrthwynebu militariaeth a hefyd y dulliau annynol a ddefnyddir o boenydio.
Pam fod cyn-lleied o aelodau’n heglwysi yn cefnogi mudiadau fel, Cymdeithas y Cymod ac Amnest Rhyngwladol?
A dyna’r meddyliau ddaeth i mi wrth ystyried Neges Heddwch ac Ewyllys Da eleni ac argyhoeddiadau Waldo yn ei gywydd,“Y Tŵr a’r Graig”.
Pob hwyl wrth gnoi cil dros y pwnc pwysig hwn!