E-fwletin Mai 25ain, 2015

Mae heddiw’n drannoeth Gŵyl y Pentecost Ond faint ohonom fu mewn oedfaon ddoe i ddathlu’r Pentecost? Faint o sylw gaiff yr Ŵyl yn eglwysi Cymru heddiw? A ydym ni o fewn ein heglwysi, yn aeddfed i dderbyn awel, heb sôn am wynt nerthol yr Ysbryd Glân?
Er codi’r cwestiynau hyn, ni honnir bod gennym yr atebion, ond diddorol ac arwyddocaol yw cymharu dathlu’r Pentecost â’r modd y dathlwn y Nadolig a’r Pasg.
Dathlu digwyddiad i Berson a wnawn yn y ddwy ŵyl o’i gymharu â dathlu dyfodiad yr Ysbryd Glân ar y Pentecost. Person dynol sy’n ganolog a gweladwy i ddathliadau’r Nadolig a’r Pasg, ond yr anweledig sy’n ganolog i’r Pentecost, a’r unig ffordd i ddisgrifio dyfodiad yr ysbryd yw trwy gymariaethau, “…fel gwynt grymus yn rhuthro…fel o dân…”
Ond wrth gysylltu’r gair ‘cymdeithas’ at yr Ysbryd Glân, cynhwysir yr elfen ddynol i’r profiad a gaiff pobl o dderbyn yr Ysbryd Glân, gan fod y gair Groeg ‘koinonia’ am gymdeithas yn cyfleu’r ystyr o bartneriaeth neu o rannu. Tybed, a fyddai pwysleisio’r elfen ddynol,“cymdeithas yr Ysbryd Glân” yn gwneud dathlu’r Pentecost yn fwy perthnasol a phriodol, wrth inni ddiolch i’n Tad nefol am rannu ei ysbryd gyda ni, disgyblion ei Fab heddiw?

O dderbyn y rhodd anhraethol hon, fe brofodd dilynwyr Iesu eu bod mewn partneriaeth â’i gilydd, gydag ysbryd Crist yn eu grymuso i gynhyrchu pŵer i’w nerthu i orchfygu ‘blinderau bywyd’. Dyna oedd angen y disgyblion a dyna roddwyd iddynt ar ddydd y Pentecost – grym ysbrydol i’w galluogi, mewn cymdeithas â’i gilydd i rannu eu profiadau ag eraill.
Wrth adrodd digwyddiad rhyfeddol y Pentecost, ni ddwedir bod neb wedi defnyddio’r profiad o dderbyn yr ysbryd yn un personol. I’r gwrthwyneb, maent yn ei rannu wrth gyfranogi o gymdeithas yr Ysbryd Glân – rhodd Duw o’i Ysbryd, megis dyfodiad Iesu,“…Duw gyda ni…”
Mewn un ystyr roedd profiad y Pentecost yn rhagori hyd yn oed ar ddigwyddiadau’r Nadolig cyntaf gan fod y baban Iesu yn gyfyngedig i le nac amser, ond roedd y rhodd o’r Ysbryd “..yn llond pob lle ac yn bresennol ymhob man…”

Yn ei gyfrol, “We Make The Road By Walking” mae’r awdur, Brian D. Mclaren, yn cyfeirio at y gwahaniaeth rhwng profiadau’r disgyblion cyntaf a ninnau, “…Medrent hwy weld Iesu ond nis medrwn ni…” meddai, gan ychwanegu, “..fe rydd hyn fantais inni wrth gofio geiriau’r Iesu…” fel yr ysgrifennwyd hwy gan Ioan,“Y mae’n fuddiol i chwi fy mod i’n mynd ymaith… fe ddaw’r Eiriolwr atoch (yr Ysbryd)…”
Cyhoeddiad pwysicaf pob oedfa yw bod Cymdeithas yr Ysbryd Glân ar ein cyfer bob amser. Felly dathlwn y Pentecost, nid yn flynyddol, ond yn feunyddiol, wrth inni weithredu ei effaith a’i ddylanwad yn ein perthynas â’n gilydd.
Myfyriwn yn y pethau hyn.