Mae Sepp Blatter yn bersonoliaeth gymhleth iawn. ‘Diafol’ i’r byd Gorllewinol ond ‘sant’ i sawl un yn yr Affrig. Heb os, y mae ei ego yn enfawr. Dim mwy na dim llai, efallai, nag egotistiaeth sawl gwleidydd, arweinydd crefyddol ac yn aml myfi fy hun. Anian y dyn a ddaw i’r amlwg. O ba le y daw anian? Yn bennaf, mae’n siŵr, o’n blynyddoedd cynnar, ein magwrfa, sut y bu i ni gael ein dwyn i fyny. Geneteg hefyd, mae’n ddiau: y pethau a drosglwyddwyd o genhedlaeth i genhedlaeth gan ein cyndeidiau a’n cyn-neiniau. ‘Un fel’na oedd ei dad o.’
Pur anaml y clywn am anian yn chwarae ei ran yn ein dewis o grefydd a’n dull o grefydda. Pam fod ambell un yn glynu’n sdyfnig wrth safbwynt ffwndamentalaidd ac un arall yn glynu yr un mor styfnig wrth ddaliadau rhyddfrydol? Pam nad yw y diffyg tystiolaeth o fodolaeth ‘Duw’ yn mennu dim arnaf fi, tra i rywun arall y mae hynny yn andwyol i’w ffydd? Anian yw rhan o’r ateb. Y mae rhywbeth yn fy mhersonoliaeth i sydd yn ddiystyriol o sicrwydd. Ac felly gallaf fyw gyda’r pen-agored. Yn reddfol felly, byddwn i yn gogwyddo’n grefyddol tuag at safbwyntiau a eir wrth y gair ‘rhyddfrydol’. Wrth ‘ddadlau’ yn ddiwinyddol oni ddylem fod yn fwy effro i le anian yn ein hymwneud a’n gilydd. Ac nad oes a wnelo y peth-a’r-peth a ‘Duw’ o gwbl ond a fy anian i. Nid diwinyddiaeth sydd yna ‘n aml ond seicoleg.
Fe eill peidio ag ystyried anian credinwyr fod yn beryglus. Er enghraifft, yn y ‘ddadl’ ynglŷn â phobl a enwir yn ‘hoyw’. Tybed yn aml mai fy anian sydd yn methu derbyn gwahaniaethau rhywiol a fy mod yn canfod cadarnhad o hynny yn y math o grefydd y mae fy anian wedi ei ddewis i mi? Nid ‘gair Duw’ sydd yna mewn gwirionedd ond ‘gair fy anian’ i fy hun. Tybed mai anian ddaw gyntaf bob tro a wedyn y crefydda sy’n siwtio’r anian honno? Tybed?
A dyna chi faint ego Sebb Blatter: mae bellach nid yn unig yn FIFA ond ar wefan C21 yn ogystal. Ew! Anian pobol!

Diolch am ddarllen y neges: Dyma ragrybudd am Encil Cristnogaeth 21 yn Nhrefeca.
Bydd yn para o 6.00pm Ddydd Mawrth Medi 22ain tan 3.00 pm Ddydd Mercher Medi 23ain
yng nghwmni dau o awduron gorau Cymru.
Mwy o fanylion yr wythnos nesaf ac fe fyddwn yn derbyn enwau i’w cofrestru ar ôl hynny Nifer cyfyngedig o le. Cadwch lygad ar y Wefan