E-fwletin Mai 14eg, 2017

Yn ddiweddar roedd fy ngwraig a minnau ar ymweliad ag un o blastai moethus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Swydd Warwick, pan welsom ni rywun yn pwyntio at ddarlun o waith yr arlunydd Pieter Bruegel gan ddweud, “Dw i’n siŵr i mi weld y llun yna ar gerdyn Nadolig rywdro.”  Eglurodd y tywysydd nad oedd hynny’n debygol. Er bod sawl un o luniau’r arlunydd wedi eu defnyddio ar gardiau Nadolig yn y gorffennol, doedd hwn ddim yn eu plith. Ar yr olwg gyntaf, edrychai’n ddarlun digon prydferth, gyda phlanced o eira glân yn gorchuddio’r ddaear, ond o syllu’n fanylach arno, roedd yn amlwg nad oedd yn addas i fod ar gerdyn Nadolig.

Teitl y llun yw “Lladdfa’r Diniwed” ac mae’n darlunio’r olygfa a ddisgrifir yn Efengyl Mathew, lle mae’r Brenin Herod yn gorchymyn lladd pob bachgen o dan ddwy oed.  Ond, yn annisgwyl, nid byddin Herod sy’n cael ei phortreadu yn y darlun hwn gan Bruegel. Yn hytrach, lleolwyd y gyflafan mewn pentref yn yr Iseldiroedd yn y flwyddyn 1567, lle roedd lluoedd Sbaen yn cyflawni erchyllterau yn erbyn y trigolion lleol er mwyn adfer y ffydd Gatholig a cheisio difodi Protestaniaeth o’r tir. Milwyr Philip yr Ail sy’n gyfrifol am y creulondeb yn y darlun hwn, wrth i Bruegel droi’r stori Feiblaidd yn alegori am othrwm y Sbaenwyr ar ei bobl ef.

Roedd y darlun gwreiddiol yn erchyll yn ei fanylion gwaedlyd, yn gymaint felly nes i’r Ymerawdwr Rudolph yr Ail orchymyn ail baentio’r golygfeydd mwyaf eithafol i gelu’r creulondeb. Paentiwyd dros gyrff y plant i ddangos y milwyr yn lladd adar ac anifeiliaid yn lle hynny, ond er yr ymgais i wadu’r gwirionedd, fe erys cysgodion y plant bach ar yr eira ar lawr fel yn y fersiwn wreiddiol, ac mae adwaith eithafol yr oedolion yn gwbl ddisynnwyr oni bai ein bod yn gwybod mai rhieni yn galaru yn eu dychryn am eu plant ydyn nhw.

Dyma’r fersiwn wreiddiol gan Bruegel:

Gwnaeth ei fab, Pieter yr Ieuengaf, sawl copi o’r darlun hwn, ac un o’r rheiny a welsom ni yn y plasty yn Swydd Warwick. Ond mae yna hefyd ragor nag un copi ar gael o’r fersiwn a gafodd ei golygu, gan gynnwys un sy’n rhan o’r casgliad brenhinol yng nghastell Windsor. 

Fe ddywed rhai beirniaid celf fod lluniau Bruegel yn berthnasol i bob oes. Felly, pe bai’r arlunydd yn paentio’r darlun hwn o’r newydd heddiw, ymhle y byddai’n ei osod tybed? Yr Iseldiroedd oedd fwyaf addas yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ond tybed ai yn Syria neu Irac y byddai’r alegori wedi ei lleoli yn ein dyddiau ni? Ac onid oes rhai yn dal i geisio gwadu’r erchyllterau drwy baentio dros y gyflafan ym Mosul ac Aleppo?

Ond waeth faint o ymdrech a wneir i gelu’r gwirionedd, bydd cysgodion y plant bach diniwed yn dal yn amlwg ar yr eira gwyn.

Os hoffech chi ddarllen rhagor a gweld enghreifftiau o’r addasu a fu ar y llun gwreiddiol drwy gymharu’r naill a’r llall, cliciwch YMA