E-fwletin Mai 21ain, 2017

 

E-fwletin Mai 21ain, 2017

Ddoe, cafodd tua 40 ohonom y fraint o wrando ar y gwyddonydd, y diwinydd a’r awdur o Awstralia, Dr Val Webb, yn traddodi dwy ddarlith yng nghynhadledd Cristnogaeth 21 yn Efail Isaf.

Cawsom ein hatgoffa ganddi nad peth newydd yw cwestiynu a mynegi amheuon wrth ymdrin â chrefydd, ac aeth ati i olrhain hanes yr eglwys drwy’r canrifoedd gan ddangos bod diwinyddiaeth yn newid yn gyson, a’r pendil yn gogwyddo o’r naill begwn i’r llall dro ar ôl tro. Mae sylweddoli hynny’n tanlinellu’r ffaith na fu’r fath beth â dim ond un gwirionedd erioed, ac mae meddwl mai dim ond un fersiwn o Gristnogaeth sy’n bodoli yn syniad cwbl gyfeiliornus. Cafodd athrawiaethau a wreiddiwyd yn niwylliant y Rhufeiniaid eu gwarchod a’u gwthio arnom drwy greu awyrgylch haearniadd, gaethiwus, nes peri i liaws o bobl ddewis diwinydda gyda’u traed, a throi cefn ar yr eglwys er eu bod yn parhau i chwilio am berthynas gyda’r dwyfol.

A hynny, wrth gwrs, a barodd i ni, sefydlwyr Cristnogaeth 21, ddod at ein gilydd yn y lle cyntaf. Braf felly yw cael cadarnhad o dro i dro fod pobl o gyffelyb anian i’w cael dros y byd i gyd, sef rhai sy’n awyddus i annog trafodaeth agored, onest, a rhoi lle i wyntyllu syniadau newydd, blaengar. Roedd Val Webb am bwysleisio nad ‘mudiad’ yw’r Gristnogaeth flaengar hon, ond yn hytrach, mae hi’n ffafrio disgrifiad ei chydwladwr, John Bodycomb, a soniodd am y ‘momentwm’ sydd fel afon o syniadau’n gorlifo dros y crindir, yn rhoi bywyd newydd i ambell i egin gwyrdd.

Does dim disgwyl cael cytundeb ynghylch y syniadau newydd a ddaw yn sgil yr ymchwilio, yr holi a’r stilio, gan y bydd gwahanol agweddau’n bwysig i wahanol bobl, a bydd grwpiau o gefndiroedd gwahanol yn dehongli pethau yn eu ffyrdd eu hunain. Y peth pwysig yw fod aelodau lleyg yn mynnu gofyn cwestiynau treiddgar am y traddodiad eglwysig er mwyn dehongli’r gwirioneddau ar gyfer ein hoes ni, gan gymryd i ystyriaeth beth ddywed crefyddau eraill am Dduw, a hwnnw’n Dduw real yn ein plith ni heddiw. I Val Webb, mae’r syniad o leygwyr yn creu diwinyddiaeth newydd, berthnasol, yn gyffrous am ei fod yn ein rhyddhau o’r hen hualau.

Fe soniodd sawl un o’r cynadleddwyr mor werthfawr y bu’r holi a’r ateb ar ddiwedd y ddwy ddarlith, lle bu’r siaradwraig yn ymateb o’r frest i nifer o gwestiynau craff. Pan ofynnwyd iddi beth oedd cnewyllyn Cristnogaeth iddi hi’n bersonol ar ddiwedd y broses o ddadansoddi credoau, datgymalu dadleuon diwinyddol a threiddio i grombil gwirioneddau clasurol y ffydd draddodiadol, ei hateb oedd mai’r hyn sy’n bwysig iddi hi yw byw a dilyn llwybr yr Iesu. Ac wrth ateb cwestiwn arall ar derfyn yr ail ddarlith, fe awgrymodd efallai y bydd y dehongli a’r deall yn haws i’r genhedlaeth ifanc, sydd heb gael eu boddi mewn môr o euogrwydd fel y cafodd y cynulleidfaoedd hŷn. Yn aml iawn ar ei theithiau, yr hyn mae hi’n ei weld yw cynulleidfaoedd sydd angen cael eu hadfer i deimlo cynhesrwydd diwinyddiaeth gariadus yn hytrach na’u bod yn dal i ddioddef effeithiau’r Gristnogaeth ddi-gwestiwn y magwyd hwy ynddi.

A dyna’n gobaith ninnau yn Cristnogaeth 21, ein bod yn medru creu trafodaeth a fydd yn ein hannog i “fyw a dilyn llwybr yr Iesu”.