E-fwletin Mai 29ain, 2017

Sul y Dyrchafael

Wythnos union ar ôl y gyflafan ym Manceinion, rydym yn dal i glywed straeon am ddewrder a charedigrwydd y bobl gyffredin hynny a fu’n ceisio helpu’r rhai a anafwyd, ac a fu’n rhoi lloches i unigolion a theuluoedd yn eu dychryn. Fedrwn ni ond edmygu’r meddygon, y nyrsys ac aelodau eraill o staff yr ysbytai oedd mor barod i fynd yr ail filltir i gynnig cysur ac ymgeledd. Gwelsom gymuned aml-ffydd yn tynnu at ei gilydd i rannu cariad a thosturi, er mwyn dangos bod y da yn drech na’r drwg.

Llun: BBC

Yn naturiol, roedd yr ofn a’r petruster yno o hyd ynghanol yr holl gymwynasau. Does dim dwywaith nad oedd rhai’n teimlo’n unig ac yn anghofiedig. Medrwn ddeall sut y gall erchylltra o’r fath fod yn ddigon i siglo ffydd ambell un wrth i’w byd chwalu’n chwilfriw o golli rhywun annwyl mewn modd mor greulon. Ond fedrwn ni byth ddeall yn iawn pa mor enbyd o boenus oedd y profiad hwn i’r rhai a ddaliwyd yn ei ganol.

Ddoe, a hithau’n Sul y Dyrchafael, clywsom am yr Iesu’n gadael ei ddisgyblion i esgyn i’r nefoedd ar ddeheulaw Duw. Mae hi’n ddelwedd bwerus, yn perthyn i oes pan oedd pobl yn credu mewn bydysawd tri llawr, gydag uffern oddi tanom a’r nefoedd uwch ein pennau. Ac wedi i’r Iesu eu gadael, bu’r disgyblion hwythau’n teimlo’n unig ac yn anghofiedig am rai dyddiau hyd nes iddyn nhw gael nerth i dystio amdano.  Go brin y medrwn ni ddeall yn iawn beth oedd maint y golled y bu iddyn nhw ei theimlo wrth i’r Iesu eu gadael.

Ond fe ddylem ni gofio, efallai, mai delwedd neu drosiad yw hanes yr esgyniad, ac nid bwletin newyddion. Nid cyflwyno ffaith hanesyddol am fywyd Iesu Grist yw bwriad awdur Llyfr yr Actau o gwbwl. Fel y dywedodd John Calfin ei hun, stori am swyddogaeth yw hi, ac nid am le, a’r swyddogaeth yn yr achos hwn yw arbenigrwydd Iesu Grist. Honni rhywbeth am ffydd y mae Luc, sef bod Iesu Grist yn fwy arbennig na neb arall welodd y byd erioed, a pha ffordd well i ddarlunio hynny na dweud ei fod wedi esgyn i’r nefoedd ar ddeheulaw Duw. O’r diwedd mae’r darnau yn cwympo i’w lle wrth i’r disgyblion ddeall gwir arwyddocâd gweinidogaeth yr Iesu a dod i’w adnabod am yr hyn ydyw mewn gwirionedd, sef yr un a ddatguddiodd gariad Duw ar gyfer y ddynoliaeth i gyd, yn ddi-wahân ac yn ddi-amod.

Wrth inni edrych yn ôl dros ddigwyddiadau wythnos mor alaethus yn ein hanes, fe ddaw cysur o neges Sul y Dyrchafael,  Bydd y gwerthoedd yr oedd yr Iesu’n eu harddel fyw am byth.  Bydd y cariad a’r tosturi a ddangoswyd ganddo yn cynnig gobaith i bobl hyd ddiwedd amser. Oherwydd y cariad hwnnw, bydd y daioni yng nghalonnau pobl dda Manceinion – o bob ffydd – yn drech nag unrhyw fygythiad i geisio hau hadau casineb yn ein plith.