E-fwletin 9 Rhagfyr, 2018

EMANIWEL 24/7

Sefyll tu allan i un o siopau prysura’r ddinas oeddwn i gan siarad efo pâr canol oed. “Sut mae’r plant”? gofynnais, a chlywed fod y tri ohonyn nhw yn dal yn y siop gerllaw ac yn edrych mewn rhyfeddod ar yr holl addurniadau Nadoligaidd oedd yno. Ar y gair, rhuthrodd dau o’r tri allan a dyma’r ieuengaf yn gafael yn fy llaw gan feddwl ei fod yn gafael yn llaw ei dad.

Syndod oedd y teimlad gefais i; syndod at yr ymddiriedaeth oedd yng nghynhesrwydd y llaw fach. Ond buan y trodd y syndod yn siom wrth i’r bychan synhwyro nad llaw ei dad oedd hon a bu’n rhaid gollwng gafael. Mae ffydd ac ymddiriedaeth o’r fath yn cyffwrdd rhywun, yn llythrennol felly, dan yr amodau cywir.

 Ond fe all amgylchiadau droi’n beryglus pan fydd ymddiriedaeth wedi ei blannu yn y dwylo anghywir.

Beth sy’n digwydd pan fo arfau yn meddiant y dwylo anghywir; pan fo pŵer yn y dwylo anghywir a phan fo cyfrinachau yn disgyn i’r dwylo anghywir? Arwain at argyfwng mae hynny.      

Mae hwn yn dymor i ddatgelu beth hoffem ni ei gael yn anrheg Nadolig. Does dim hosan allai gynnwys dyheadau rhai – tangnefedd ar y ddaear, cymod rhwng dyn a dyn, heddwch rhwng gwledydd a fu’n elynion anghymodlon, dealltwriaeth rhwng cenhedloedd; rhyddid i’r unigolyn, cyfiawnder i bawb beth bynnag fo’u cred a’u rhyw; parch at gyd-ddyn beth bynnag fo ei [h]amgylchiadau. Ond yn y dwylo anghywir … â’n gwaredo.

“Cadw fi, O Dduw, canys ynot yr ymddiriedaf.” [Salm 16:1] Pa mor angerddol neu pa mor danbaid a brwdfrydig yw’n hymwybyddiaeth o bresenoldeb Emaniwel, “y Duw sydd gyda ni” sy’n fater o ddibyniaeth ar pa mor dda yr yde ni’n ei adnabod a pha mor ddwfn yw’n gwerthfawrogiad o’r hyn y mae’n ei wneud trosom ni. Dyma’r Duw y mae ei ddyfodiad yn dod yn nes ac yn nes.

Tyde ni, oedolion, ddim mor barod i afael y llaw y Tad. A fedr neb wneud hynny ar ein rhan:

“Yn nheyrnas diniweidrwydd –
Gwae hwnnw, wrth y pyrth;   
Rhy hen i brofi’r syndod,    
Rhy gall i weld y wyrth !” 
  (Rhydwen Williams ‘Yn Nheyrnas Diniweidrwydd’)    

Dyma gyfle, eto fyth, i ystyried yr hyn a dioddefodd Iesu er mwyn i ni adnabod yn well yr Emaniwel sy’n dyfod: wedi gadael perffeithrwydd ac ardderchowgrwydd y nefoedd yn ei holl ogoniant fe’i genir i dlodi; i fyw fel ffoadur ac i fyw dan reolaeth byddin estron. Fe wyddai beth oedd newyn, galar, caledi a themtasiwn. Bu’n ddigartref ac heb sicrwydd incwm. Fe’i bradychwyd gan un o’i ffrindiau. Fe’i gwadwyd gan ffrind arall. Cafodd ei boenydio, ei ddilorni a’i ddifrïo.

Fydd hynny dim yn amlwg yn y ddrama flynyddol yn y festri lle mae’r bugeiliaid a’r angylion “yn dod i gadw oed.” A pham y dylai fod? Wedi’r cyfan nid y plant â’i bradychodd.

Yr Emaniwel 25/12 sydd yn y crud. Yr Emaniwel 24/7 yw’r un y dylem ni fod yn paratoi ar ei gyfer.