E-fwletin 16 Rhagfyr, 2018

Tymor Ewyllys Da

Da o beth yw gweld nifer o’r banciau bwyd yn cael sylw gan y wasg a’r cyfryngau yn ystod y cyfnod hwn wrth iddyn nhw apelio am ragor o nwyddau yn barod ar gyfer y galw cynyddol a fydd dros y Nadolig. Ond nid cystal oedd gweld sawl aelod seneddol Ceidwadol yn ceisio manteisio ar hynny i ddenu cyhoeddusrwydd rhad, drwy gael tynnu eu lluniau yn cyfrannu eitemau i’w banc bwyd lleol. Yn wir, roedd gweld y cyfryngau cymdeithasol yn gwawdio rhagrith ambell i aelod yn chwa o awyr iach, yn enwedig pan gofiwn ni mai’r union bobl hyn a luniodd y polisïau a fu’n gyfrifol am greu’r angen am y banciau bwyd yn y lle cyntaf. Cyhoeddwyd cannoedd o negeseuon deifiol yn eu dychanu am ymostwng i’r fath weithred. Gwaeth byth oedd yr awgrym cryf mai ar gyfarwyddyd Swyddfa Ganolog y Ceidwadwyr y bu’r aelodau hyn yn heidio i gael tynnu eu lluniau o dan logo Ymddiriedolaeth Trussell, gan mai’r un fath, air am air, oedd neges y rhan fwyaf ohonyn nhw wrth glochdar am eu haelioni ar eu cyfrif trydar neu Gweplyfr.

Ond efallai nad nhw ydy’r unig rai sy’n euog o’r rhagrith tymhorol, arferol. Dyma’r cyfnod pan fyddwn ni, fel aelodau eglwysig, yn dotio at ein plant yn eu tinsel a’u llieiniau llestri yn sôn am dymor ewyllys da. Does ryfedd bod Cymorth Cristnogol yn cyhuddo llywodraeth Prydain o arddel safonau dwbl yn ei hymwneud â gwledydd fel Yr Yemen. Y ffigwr a gaiff ei ddyfynnu yw ein bod yn gwario £600 y pen bob blwyddyn ar arfau rhyfel, sef teirgwaith  y swm sy’n cael ei wario ar gymorth rhyngwladol. Tra bod nifer o wledydd yn Ewrop wedi atal gwerthu arfau i Saudi Arabia, mae llywodraeth Theresa May yn parhau i fod yn un o’r prif werthwyr arfau yn y byd i gyd.

Heddiw, mae ymron i 14 miliwn o bobl yn wynebu newyn a marwolaeth yn Yr Yemen. Gan fod ein llywodraeth ni, yn ein henw ni, yn cyfrannu’n sylweddol at y drychineb hon, tybed nad yw hi’n ddyletswydd ar bob eglwys a mudiad dyngarol i gysylltu â Jeremy Hunt, yr Ysgrifennydd Tramor, i’w atgoffa o wir ystyr tymor ewyllys da? Heb hynny, onid ydym ni yr un mor euog?

Ynghanol hyn i gyd, roedd yn wych o beth i glywed am gymuned ar gyrion Caerdydd sydd wedi ennill gwobr Dinas Noddfa a drefnir gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru, a hynny am estyn croeso i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Pan glywais y newyddion, roeddwn yn awyddus i wybod pa gapel neu eglwys yw hon sy’n agor ei breichiau led y pen i gofleidio pobl a brofodd uffern yn eu hymdrech i gyrraedd Cymru. Ond braf oedd deall mai Clwb Pêl-droed Tongwynlais gafodd eu cydnabod am eu gwaith dros y ddwy flynedd diwethaf yn croesawu ceiswyr lloches i fod yn rhan o’r tîm. Dyna ddangos nad oes gennym ni fel eglwysi unrhyw fonopoli ar ewyllys da.

Tybed sawl eglwys yng Nghymru heddiw fedr honni nad oes arlliw o ragrith yn ei bywyd wrth ddathlu tymor ewyllys da?