Sul yr Adfent
Mae hi’n Sul yr Adfent. Tybed sawl un o ddarllenwyr y Bwletin fydd mewn capel neu eglwys sy’n defnyddio Efengyl swyddogol y Sul hwn – Luc 21.25-36, lle mae Iesu yn sôn am ddiwedd y byd. Fe fu eglwysi rhyddfrydol yn awyddus iawn i ddarganfod rhesymau dros wyro oddi ar y darlleniadur yn y tymor hwn er mwyn osgoi’r ysgrythurau hyn.
Fy marn i yw bod hynny yn gamgymeriad. Mae Naomi Klein, yn ei llyfr dylanwadol The Shock Doctrine yn dangos sut y mae grymoedd yn ein byd sy’n awyddus i weld y math o drychinebau y mae Iesu yn sôn amdanynt yn digwydd er mwyn manteisio arnynt. Enghraifft drawiadol yw sut y defnyddiwyd Corwynt Katrina a’i ddinistr i breifateiddio addysg yn New Orleans yn sgîl y drychineb. Yn dilyn bomiau Paris yn 2015, fe gyhoeddodd Francois Hollande stad o argyfwng a barodd am bron dwy flynedd, gan rwystro pob gwrthdystiad gwleidyddol yn y brifddinas (p’un ai oedd a wnelo nhw unrhyw beth o gwbl â bomwyr Paris ai peidio).
Os nad oes digwyddiadau naturiol neu bobl ddieflig yn creu’r sioc, yna fe fydd y grymoedd hyn yn mynd ati i greu eu sioc eu hunain. Hyd y gwela’ i, dyna’r esboniad dros frwdfrydedd rhai ar asgell dde y Blaid Geidwadol i ni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn ddigytundeb. Fe glywsom sôn yn barod am stad o argyfwng gyda milwyr ar y strydoedd i helpu gyda chyflenwi bwyd a meddyginiaethau. Cam bychan fyddai gofyn i’r milwyr hyn rwystro unrhyw wrthdystio gwleidyddol ar yr un pryd.
Mae sicrhau fod gwleidyddiaeth ddemocrataidd i’w gweld yn methu yn dacteg gyffredin ymhlith yr asgell dde. Pan fethodd Gweriniaeth Weimar yn Almaen y 1930au ag ateb problemau’r bobl, fe fanteisiodd y Natsïaid. Yna fe ddaeth tân y Reichstag â’r esgus berffaith i gwblhau’r dasg drwy garcharu holl aelodau’r Blaid Gomiwnyddol gref, codi ofn ar bob gwrthblaid arall, a chreu gwlad unbenaethol. Gwnaeth Llywodraeth Sbaen yr un peth â llywodraeth Catalunya ar ôl creu anhrefn o gwmpas y refferendwm annibyniaeth yn 2017. Mae yna arwyddion clir fod anhrefn llywodraeth Donald Trump yn gwbl fwriadol. Nid trwy ddamwain y mae’n newid ei feddwl mor fympwyol, ond gan wybod fod ymddygiad oriog o’r fath yn helpu tanseilio’r union ddemocratiaeth y mae e’n awyddus i’w mygu.
At ei gilydd, fe fu traddodiad cymodlon gwleidyddiaeth Brydeinig yn ddigon i wrthsefyll y tueddiadau hyn. Methiant fu ymgais Oswald Moseley i greu anhrefn yn y 1930au; pan geisiodd llywodraeth ddatganoledig Gogledd Iwerddon ymateb mewn ffordd debyg i brotestiadau hawliau sifil heddychlon ym 1972 fe wnaeth Edward Heath ddileu’r llywodraeth honno. Nid yw’r DUP wedi anghofio’r profiad hwnnw, ac maent yn benderfynol o lwyddo creu anhrefn y tro hwn, mae’n ymddangos.
Felly, gwrandewch yn ofalus ar eiriau Iesu heddiw – neu darllenwch nhw drosoch eich hunain. Gwyliwch eich hunain … neu bydd y diwrnod hwnnw yn eich dal chi’n annisgwyl. Cadwch eich llygaid yn agored! Efallai na fydd Brexit yn ddiwedd y byd – ond mae yna bobl ddieflig fydd yn gobeithio fel arall.