E-fwletin 27 Medi, 2020

Cip wrth fynd heibio.

Mae gen i un o gerfluniau bychan John Meirion Morris (fu farw wythnos yn ôl) a gefais yn rhodd. A heddiw, nid yn unig oherwydd marwolaeth y cerflunydd, ond oherwydd ein bod yn parhau yng nghanol y pandemig, rwy’n gwerthfawrogi’r cip dyddiol ar y cerflun. Yn rhyfedd iawn, er nad oedd y rhoddwr hael yn siŵr o deitl y cerflun (“Tri, efallai,”  meddai, “ond dydw i ddim yn siŵr.”) nid wyf yn poeni am hynny.

Tra roedd diwinyddion a chrefyddwyr yn trafod beth yw’r gwahaniaeth rhwng ‘ysbrydolrwydd’ a ‘chrefydd’ roedd  John Meirion  yn creu delweddau o’r ysbrydolrwydd sydd yn ein clymu ni’n un â’n gilydd ac â’r cread. Wrth edrych ar y tri yn y cerflun  fe wyddom fod yna berthynas fywiol  rhyngddynt. Nid oes dim i ddweud o ba wlad, diwylliant na chrefydd y maent ond mae lle imi, yn dawel, ymuno â hwy. Ac o unigrwydd cornel fy hunan ynysu, rwy’n cael fy nenu atynt. ‘Mawr ei ddynoliaeth, mawr ei ddyngarwch’ meddai Aled am John Meirion.

Mae  llonyddwch a thawelwch yn y cerflun. Mae gan John gerflun arall, ‘Tu hwnt i eiriau’, wedi ei osod ar dair hen gyfrol a’r isaf ohonynt yn hen Feibl. Mae ysbrydolrwydd tu hwnt i eiriau, ac fe all crefydda naill ai darfu arno neu bod yn gyfrwng iddo. Un fendith o gau addoldai tros y pandemig oedd bod y pulpud a’r bregeth wedi rhoi lle i gymundeb dawel. Fe all ysbrydolrwydd eglwys wag fod yn  ddyfnach nag eglwys lawn. Tybed a  ddenwyd John at y Crynwyr ? Dyna yw ysbrydolrwydd – ‘yr hyn o Dduw ynom’ – crefydd ai peidio.

Ond pob tro y byddaf yn cael cip ar y cerflun daw eicon enwog Andrew Rublev i’m meddwl (1425 ). Fe wyddom fod Trioedd yn elfen bwysig mewn hen gelfyddyd Geltaidd (gw. Cyfrol John Meirion Morris ‘Y Weledigaeth Geltaidd’ ) ond ni allaf beidio gweld yr eicon lliwgar yn y cerflun bychan. I Rublev mae ymweliad tair merch (angylion) ag Abraham a Sara ger y goeden dderwen  ym Mamre, a’r croeso y maent yn ei dderbyn, yn arwydd o’r berthynas o fewn y Drindod. Nid fformiwla yw’r Drindod ond tri wyneb, yn un mewn perthynas Mae’r dderwen i’w gweld yn eicon Rublev. Ond, er nad oes ganddynt wynebau, mae undod cyfriniol rhwng y tair yng ngherflun John ac y mae coeden – coeden bywyd – yn bwysig iddo ef, fel i ddiwylliannau o Gana, Affrica i’r Mabinogi. Merch  a choeden yn un yw ei gerflun ‘Lleu a Modron’. Ond wrth edrych ar y cerflun bychan, heb liwiau hardd Rublev, mae yna symlrwydd sylfaenol yn cyfleu undod pob peth – eneidiau â’i gilydd, ysbrydolrwydd ein dynoliaeth yn un ag ysbrydolrwydd y cread a chelfyddyd yn ogystal â hen grefyddau, waeth pa mor  ‘gyntefig’. Os yw’r pandemig yn ein huno yn ein meidroldeb, mae rhywbeth dyfnach yn gwneud yr ‘hen deulu yn un.’

Wrth gael cip dyddiol ar gerflun John Morris  amhosibl yw peidio diolch am ysbrydolrwydd celfyddyd sydd yn cyfoethogi ein hetifeddiaeth ysbrydol ac yn ein rhybuddio rhag ceisio cyfyngu ar Dduw yr Ysbryd yn nyddiau Abraham a Rublev… a John Meirion Morris.