Amserau da, amserau gwael

AMSERAU DA,
                    AMSERAU GWAEL

Dyna, o’i gyfieithu i’r Saesneg, oedd teitl llyfr dadlennol gan Syr Harold Evans yn cloriannu ei brofiadau fel golygydd y Sunday Times rhwng 1967 a 1981. Yn ystod yr wythnos hon cyhoeddwyd teyrngedau lu iddo yn dilyn y newyddion am ei farwolaeth yn 92 mlwydd oed. Er mai yn Eccles ar bwys Manceinion y cafodd ei eni yn 1928, roedd ei daid, John Evans, yn hanu o Lanrhaeadr-ym-Mochnant. Disgrifiodd Harold ei rieni fel aelodau parchus o’r dosbarth gweithiol – ei dad, Frederick Evans, yn yrrwr trenau stêm a’i fam yn cadw siop yn ystafell ffrynt eu cartref. Er iddo fethu’r arholiad 11+ i sicrhau mynediad i’r ysgol ramadeg, fe lwyddodd Harold i ddilyn gyrfa lwyddiannus yn gweithio ar bapurau lleol a rhanbarthol yng ngogledd Lloegr cyn cael ei benodi’n olygydd y Sunday Times cyn iddo fod yn 40 oed.   

Caiff ei gydnabod bellach fel un o gewri’r byd newyddiadurol, a hynny ar sail ei gyfraniad arloesol ym maes newyddiaduraeth ymchwiliol (investigative journalism), fel lladmerydd cryf dros y gwirionedd, a’i ddewrder yn herio grymoedd y Sefydliad Prydeinig oedd yn awyddus i gelu’r gwirionedd ar faterion o bwys rhag y cyhoedd.

Ei lwyddiant mwyaf cofiadwy a phellgyrhaeddol, fodd bynnag, oedd yr un yn erbyn y cwmni fu’n gyfrifol am drychineb erchyll y cyffur Thalidomide. Dim ond wedi blynyddoedd o ymgyrchu gan y papur dan ei arweiniad ef y llwyddwyd i sicrhau iawndal teilwng i’r dioddefwyr a’u teuluoedd. Ond daeth ei ymgyrchu cyson yn erbyn polisïau llywodraeth y dydd i ben ar ddechrau’r 1980au wedi i Rupert Murdoch, perchennog newydd y Times a’r Sunday Times, a’r Prif Weinidog Margaret Thatcher, ffurfio clymblaid gyfrinachol i roi taw ar ei allu i’w beirniadu.

Erbyn heddiw, rhaid i’r newyddiadurwyr a phawb arall sy’n credu’n angerddol mewn sicrhau cyfiawnder a chyhoeddi’r gwirionedd ar faterion o bwys wynebu cystadleuaeth gan doreth o gyfryngau torfol newydd wrth geisio dylanwadu ar bolisïau llywodraethau’r byd.

Dyma pam ei bod mor bwysig bod ein heglwysi’n manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo cyfiawnder. Ceir enghraifft dda iawn o hyn ar waith yr wythnos hon mewn datganiad a luniwyd gan Gyngor Eglwysi’r Byd ar sefyllfa druenus ffoaduriaid yn Ewrop. Mae’r datganiad wedi ei seilio ar egwyddorion Cristnogol o estyn croeso i estroniaid, ac yn crefu ar i’r Undeb Ewropeaidd wrthod y disgwrs presennol a’r wleidyddiaeth o ofn, a chytuno i fabwysiadu safbwynt mwy tosturiol wedi ei seilio ar y gwerthoedd hynny oedd yn sail i sefydlu’r Undeb yn y lle cyntaf.

Gwilym Huws