Y DEWIS
Pan safodd Samson rhwng colofnau’r deml yn Gasa nid oedd ganddo ond dau ddewis: naill ai pwyso ar y colofnau a’u cynnal; neu eu dymchwel, gan chwalu’r adeilad o’u cwmpas. Nid oedd trydydd dewis, sef dymchwel teml yn rhywle arall.
Mae Cristnogion Cymraeg wedi bod yn gobeithio ers blynyddoedd y byddai Samson newydd yn dymchwel capeli bach a oedd, ers talwm, yn cynnal addoliad bywiog a chymdeithas Gristnogol, ond sydd bellach yn demlau i “dduwiau” bach Traddodiad, Cysylltiadau Teuluol, Enwad Ni, Cadw Drws ar “agor” ac Arferiad. OND mae gennym UN amod pwysig ar gyfer y Samson hwn. Peidiwch â dymchwel ein capel ni. Peidiwch â dymchwel dim yn ein Gasa ni. Ewch i rywle arall i ddymchwel popeth. Dymchwelwch y capel i lawr y ffordd, neu yn y pentref nesaf. Ond nid yw’r rhain yn ddewisiadau i Samson nag i ninnau . Wrth gwrs fe allem ofyn i Cytûn neu’r enwadau i weithredu neu awgrymu uno capeli yn lleol. Rydym wedi gofyn yn aneffeithlon ers blynyddoedd ond ni fedrem, fel Cristnogion UNIGOL, weithredu ar y dewisiadau hyn. Dau ddewis sydd gennym ninnau, sef cynnal colofnau sy’n gwegian, neu eu tynnu i lawr.
Gallem gynnal colofnau sigledig mewn sawl ffordd.
A ydym yn dal i fynychu capel lle mae llond dwrn o addolwyr sy’n byw yn llythrennol ar gyfalaf y gorffennol, lle nad yw’r casgliad bellach yn ddigonol i ‘dalu’r pregethwyr’?
A ydym yn osgoi trafod a ddaeth hi’n amser cau ein capel ni, tra’n gobeithio y bydd capeli eraill yn cau er mwyn cryfhau ein capel ni?
A ydym yn dal i gefnogi gormod o bwyllgorau enwadol yn ein hardal oedd unwaith yn effeithiol ond sydd bellach yn sugno nerth yr ychydig sy’n “cadw pethau i fynd?”
A ydym yn dal i gyfrannu ysgrifau i bapurau enwadol sy’n gwrthod uno i greu un papur newydd ar gyfer Cristnogion Cymraeg?
A ydym yn trefnu ar gyfer y rhai sydd wedi ymddeol, heb ofyn beth yw anghenion cenhedlaeth iau?
A yw gweinidogion sydd wedi ymddeol a phregethwyr yn cynnal colofnau y dylid eu dymchwel trwy dderbyn gwahoddiadau i bregethu mewn addoldai ble mae’n amlwg nad oes dyfodol iddynt?
Mae pob sefyllfa yn wahanol. Mae yna gapeli sy’n ffynnu. Mae rhai capeli wedi uno. Yn y mannau hynny mae’r colofnau yn gymharol gryf ac nid oes rhaid gofyn rhai o’r cwestiynau uchod. Mewn ardaloedd eraill, yn enwedig yng nghefn gwlad, mae’n rhaid i Gristnogion holi eu hunain a ddylent gynnal colofnau simsan neu a ddylent eu dymchwel. Mae’n gwestiwn anodd, mewn sefyllfa unig, gan na all neb ei ateb trosom ni.
Credaf fod yr amser wedi cyrraedd pan ddylem ofyn i Dduw am y dewrder i ddymchwel y colofnau sigledig. Byddem yn cael ein clwyfo a’n beirniadu. Weithiau bydd unigrwydd yn llethol.
Rhaid gweddïo. A phan fydd y rwbel a’r llwch wedi dechrau diflannu gweddïwn y byddwn, gyda’n cyd-Gristnogion, yn cael, gan Dduw, batrwm addas a hyblyg i’n cyfnod ni. Rhan o waith Cristnogaeth 21 yw paratoi ar gyfer cyfnod felly.
Gyda’n cofion cynnes atoch yn y cyfnod anodd a phryderus hwn.