E-fwletin 14 Mehefin 2020

Oen Du

Cefais fy ngheryddu. Ond gan garennydd. A hynny ar fater o oen du oedd ar goll. Gwelwyd ei lun yng nghwmni ci defaid yr un mor ddu ar dudalen gweplyfr. Roedd tynnwr y llun am wybod pwy piau’r ddau. Fe fuon nhw’n crwydro’r pentref ers dyddiau yn hamddenol gyfeillgar yng nghwmni ei gilydd. Roedden nhw’n bartners.

Mentrais y sylw, rhwng difri a chwarae, bod yr oen gwlanddu mae’n siŵr wedi dod o bell. Doedd hynny ddim yn gwneud y tro. Dywedwyd wrthyf y gallai’r fath sylw gael ei ddehongli fel enghraifft o hiliaeth sefydliadol. Ni ddylwn awgrymu nad oedd y fath greadur anarferol mewn gwirionedd yn ei gynefin. Roeddwn yn dangos arlliw o ragfarn. A hynny ar adeg hynod sensitif.

Mae’r genhedlaeth iau yn meddu ar gydwybod effro. Doedd fyw i mi son am ganeuon diniwed ar gyfer plant sy’n cyfeirio at oen bach du. Doedd fyw i mi ddyfalu fod yr oen hwn wedi’i wrthod gan ei gymheiriaid gwlanwyn. P’un a oedd yn  swci neu beidio ni ddylid cyfeirio at liw ei got mewn modd a allai fod yn ddiraddiol. A hyn yng nghefn gwlad. Doedd yr un amddiffyniad yn cael ei dderbyn.

Ond mae’r carennydd yn treulio eu hamser ar dudalennau gweplyfr yn llyncu pob math o wybodaeth. Roedd hanes yr oen ym mhentref Mynachlog-ddu yr un mor gyfarwydd â hanes George Floyd yn Minneapolis iddyn nhw. A’r un mor fyw. Persbectif. Wrth i’r byd fynd yn llai mae’r gri i ganiatáu i bawb anadlu’n ddilyffethair yn mynd yn fwy.

Gwelais innau’r ben-glin wen yn gwasgu ar wddf du am wyth munud a phedwar deg chwe eiliad. Clywais y canu ysbrydoledig yn gyfuniad o ymdrech corff, enaid a chalon. Gwrandewais innau ar y Parch Al Sharpton yn cyfeirio at adnodau yn Llyfr y Pregethwr sy’n son bod yna amser priodol i bob dim. Mae’n amser nawr meddai i godi ei bobl o’u caethglud a symud y ben-glin orthrymus naill ochr unwaith ac am byth.

Afraid dweud na fyddai’r un ohonom yn cymeradwyo gweithred gŵr hysbys mewn siwt las a ddaliodd Feibl uwch ei ben ar gyfer camerâu’r byd yn hytrach nag agor ei gloriau a dyfynnu ohono. Afraid dweud na fyddem yn cymeradwyo ymddygiad sy’n annog rhaniadau yn hytrach na cheisio creu undod a chyfartaledd i bawb. A naw wfft i sylwadau cyfeiliornus.

Ond cofiais am bregeth bwerus Martin Luther King ar y testun “Pe bai un ohonoch yn mynd at gyfaill ganol nos a dweud wrtho, ‘Gyfaill rho fenthyg tair torth i mi, oherwydd y mae cyfaill i mi wedi cyrraedd acw ar ôl taith, ac nid oes gennyf ddim i’w osod o’i flaen”. Dadleuai bod ei bobl yn y 1970au ar daith barhaus ac yn disgwyl eu siâr o’r dorth pa bynnag adeg o’r dydd oedd hi.  Maen nhw’n dal i ddibynnu ar friwsion o ran cyfiawnder cymdeithasol a chyfiawnder cyfreithiol.

O ran yr oenig deallaf erbyn hyn mai ef mewn gwirionedd oedd yn bugeilio’r ast am ei bod yn oedrannus ac yn llesg.