E-fwletin 7 Mehefin

Gwehyddu

Yn nechrau’r saithdegau’r ganrif ddiwethaf, pan o’n i’n ddyn ifanc 20 oed, mi fues i am gyfnod yn gwehyddu. Roeddwn yn gweithio wrth y wŷdd mewn ffatri ym mhentref bychan Cwm-pen-graig, sydd ar gyrion Dre-fach Felindre, am bum niwrnod yr wythnos o wyth y bore hyd bump y prynhawn ac yn cael cryn hwyl yn gwneud hynny.

Am ganrifoedd, roedd yna gymunedau eraill yn y cyffiniau a oedd yn ddibynnol iawn ar y diwydiant gwlân, gwehyddu a gweu – llefydd megis Drefelin, Cwmhiraeth, Waungilwen a Phentre-cwrt. Roedd y rhain i gyd naill ai ar lan yr afon Teifi neu ar lannau afonydd llai oedd yn llifo i’r afon honno. Cawsant eu hystyried yn ganolfannau pwysig yn oes aur y ffatrïoedd gwlân yn Nyffryn Teifi. Mi roedd y trigolion yn ddibynnol ar bŵer a grym y dyfroedd wrth i ffrydiau’r cyflenwadau dŵr sy’n bwydo’r Teifi gael eu cyfeirio a’u harneisio i yrru’r peiriannau gwahanol yn y ffatrïoedd gwehyddu.

Roedd y diwydiant gwlân gyda’r pwysicaf ac yn ddylanwad aruthrol mewn ardaloedd gwledig. Yn ei lyfr, Melinau Gwlân – Crynodeb o Hanes y Diwydiant Gwlân yng Nghymru (Gwasg Carreg Gwalch, 2005), dywed y diweddar Dr Geraint Jenkins mai’r diwydiant gwlân yw, “Y pwysicaf o’n diwydiannau o’r Oesoedd Canol hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg…”

Gweu carthenni a chwiltiau tapestri o’n i’n ei wneud fwyaf. A ‘gweu’ fydden ni’n dweud ar lafar, nid y ‘gwehyddu’ llenyddol. Gwaith pleserus. Ond ar adegau mi roedd yn gallu bod braidd yn undonog, yn enwedig wrth weu darn o ddefnydd unlliw, heb yr un patrwm o gwbl arno. A dyna deimlad braf oedd hi pan roedd yna gyfle i weu carthenni â phatrymau gwahanol arnyn nhw. Byddwn i’n gosod edafedd o liwiau gwahanol yn y wŷdd i greu darnau brethyn lliwgar a phatrymog.

Ond teimlad cynhesach fyth oedd gweld y gwaith gorffenedig. Braf oedd cael y cyfle i’w ddal i’r golau a sylwi fel roedd y lliwiau a’r patrymau, a oedd mor wahanol a chyferbyniol, eto’n asio a blendio wrth gymysgu i’w gilydd. Roedd y lliwiau gwahanol yn rhoi bywyd i’r brethyn.

Ar 25 Mai eleni fe lofruddiwyd George Floyd tra roedd yng ngofal yr heddlu yn Minneapolis. Arweiniodd hynny at lu o brotestiadau ledled America ac ar draws y byd, gan gynnwys Caerdydd ac Aberystwyth. Nid dim ond yn America mae hyn yn fater dadleuol. Yn nes adref mae yna ddrwgdybiaeth am y modd mae’r heddlu yma trin a thrafod pobl dduon, gan wahaniaethu yn eu herbyn ar sail hil.

Os am gyfoethogi ein bywydau a chael profiadau gwerthfawr onid oes rhaid bod yn barod i groesi ffiniau a chydnabod ystod eang y potensial dynol? Onid oes rhaid cydnabod ehangder, derbyn amrywiaethau a’r amrediad cyferbyniol sydd mewn bywyd?

Awn i weu ffabrig cymdeithasol sy’n rhoi lle i bawb, gan beidio rhagfarnu yn erbyn neb. Rhaid bod yn barod i’w dal yn ein dwylo a’u dangos i’r golau.

O sôn am weu, gobeithio fod gyda chi rhywbeth o werth ar y gweill y penwythnos yma i’ch diddori a’ch cadw’n brysur?