Cliciwch yma i weld y poster maint llawn.
Archifau Categori: Newyddion
Teithio gyda’n gilydd
Mae ‘Travelling Together, daily devotions 2018’ CWM wedi’i gyhoeddi.
I’r rhai sydd â diddordeb, gellir ei lawrlwytho o’r fan hyn.
Adeg y Nadolig…
Y Pab Fransis – Luther arall!
Y Pab Ffransis – Luther arall!
Diwygio’r Eglwys Gatholig Rufeinig oedd bwriad Martin Luther 500 can mlynedd yn ôl. Ond bu’n fethiant, ac yn y diwedd fe’i hesgymunwyd gan gyfundrefn nad oedd yn barod i wrando a newid (methiant sylfaenol pob cyfundrefn grefyddol, wrth gwrs). Diwygio’r eglwys yw gobaith y Pab Ffransis hefyd ac y mae wedi cyhoeddi cyfres o ddogfennau i’r pwrpas hwnnw: ei obaith am eglwys i’r tlawd; eglwys gyda diwinyddiaeth amgylcheddol; eglwys yn edrych yn onest a chyda cydymdeimlad ar fywyd teuluol; ac eglwys â Thosturi yn ganolog ynddi. Ond mae ei ddogfen ar y teulu – Amoris Laetita – wedi creu anfodlonrwydd mawr ymhlith rhai, i’r graddau bod gwrthwynebiad gyhoeddus wedi codi yn erbyn Ffransis y diwygiwr, fel i Luther gynt. Ond tu ôl i’w ddatganiadau mae egwyddor arall sy’n sylfaenol yn y diwygio y mae Ffransis am ei weld, sef symud yr awdurdod o Gardinaliaid y Fatican i’r Esgobion rhanbarthol a hyd yn oed i’r lleygwyr yn y gwaith o gyflwyno’r Efengyl. Roedd y Pab Benedict yn erbyn unrhyw ddiwygio i symud awdurdod o’r canol yn y Fatican.
Rhai misoedd yn ôl anfonodd y Cardinal Raymond Burke a thri Cardinal arall wedi lythyr i Ffransis yn ofni ei fod yn dod â ‘syniadau Luther’ i’r eglwys. Erbyn hyn mae yna Grwp o 62 o offeiriaid, diwinyddion a darlithwyr wedi cyhoeddi datganiad yn cyhuddo y Pab, neb llai, o heresi yn ei awydd i ddiwygio’r eglwys a bygwth ei hawdurdod. Nid yw’r grwp hwn yn cynnwys unrhyw esgob nac Archesgob – hyd yma. Tybed â yw’r grwp hwn a nifer o rai eraill yn teimlo fod y Pab ei hun a llawer o esgobion ac offeiriad lleol (fel yn Nghaerdydd) yn llawer rhy barod i gofio , os nad dathlu, y 500 mlynedd ers i Luther gyflwyno yr egwyddor sy’n parhau yn allweddol i pob eglwys, sef bod diwygio yn ganolog i fywyd pob eglwys ac enwad Protestanaidd a Chatholig Rhufeinig?
Hans Kung, y diwinydd Catholig yn nhraddodiad Luther, ddywedodd am yr eglwys y ceisiodd Luther ei diwygio, ‘Daeth yr eglwys yn llawer rhy falch a haearnaidd yn ei chred a’i thraddodiad gan gredu mai ganddi hi yn unig roedd y gwir.’
PLlJ
William Williams yn y Senedd
300 mlwyddiant Williams Pantycelyn – dathliad yn y Senedd
Fe fydd digwyddiad i gofio cyfraniad William Williams Pantycelyn yn y Senedd ar 18ed Hydref, ac yna bydd arddangosfa sydd yn cynnwys gweithiau celf gan Ivor Davies a Wynne Melville Jones i’w gweld yno tan 5 Tachwedd.
Paderau ar y ffin
Arwyddion yr amserau?
Gweddio’r paderau ar y ffin
Protest anghyffredin a dadleuol – Sadwrn, 7 Hydref, pan oedd miloedd unwaith eto’n dangos eu lliwiau yn Catalonia a Sbaen – oedd gweithred Catholigion Gwlad Pwyl yn cynnal Protest Weddi’r Rosari ar hyd 2,000 o filltiroedd ar y ffin rhwng Pwyl a Gwlad Siec. Roedd 320 o eglwysi wedi creu 4,000 o ‘Ardaloedd Gweddi’, a hynny i geisio atal llif seciwlareiddio a lledaeniad Islam yn Ewrop. Gyda chefnogaeth cwmnïau yng Ngwlad Pwyl, roedd y digwyddiad nid yn unig yn cael ei gynnal ar Ŵyl Mair y Rosari ond hefyd yn cofio Bwydr Lepanto yn 1571 rhwng milwyr Cristnogol ar orchymyn y Pab a’r Ymerodraeth Otomanaidd. Dyma’r frwydr lle’r honnir bod byddin fechan y milwyr Catholig wedi gorchfygu’r fyddin fawr Islamaidd ac chadw Ewrop rhag Islam.
A oedd Protest Weddi’r Rosari, ddydd Sadwrn, 7 Hydref, yn adlais o hen frwydrau a’r un pryd yn arwydd o’r hen frwydrau yn newydd yn Ewrop 2017? Arwyddion yr amserau?
Cyfarfod nesaf Cristnogaeth21
CYFARFOD NESAF CRISTNOGAETH21
‘Beth yw ystyr dysgu gan Iesu mewn byd sy ar ddymchwel?’
Dyna’r cwestiwn y bydd y diwinydd disglair James Alison yn ceisio’i ateb yng nghyfarfod nesaf cristnogaeth21 ddydd Mercher, 1 Tachwedd. Bydd y cyfarfod yn Llyfrgell Gladstone (Llyfrgell Deiniol gynt) ym Mhenarlâg, 10.30am – 4.30pm.
Yn ei ail ddarlith bydd James yn sôn am ei ffordd bersonol ef o ddwyn ynghyd feddwl amheugar y sceptig a thraddodiad eglwysig.
Dydd Mercher, 1 Tachwedd 2017, 10.30 – 4.30
Llyfrgell Gladstone Penarlâg
DIWRNOD GYDA DR JAMES ALISON
Rhaglen y Dydd:
10.30am – Croeso, coffi a chofrestru
11am : Sesiwn 1
What does it mean to be taught by Jesus
in the midst of a world in meltdown?
Cylchoedd Trafod
12.30pm Cinio
1.30pm Sesiwn 2:
The sceptical mind and Church tradition
– a personal approach.
Cylchoedd Trafod
3pm Sesiwn: Holi’r darlithydd
3.30pm Defosiwn
4.15pm Te ac Ymadael.
Pris: £45.00 am y darlithiau, coffi, cinio a the
Nifer cyfyngedig, felly gyrrwch air a siec o £20 i gadw lle at
Enid Morgan, Rhiwlas, Allt y Clogwyn, Aberystwyth SY23 2DN
01070624648 enid.morgan@gmail.com
Cynhadledd Pantycelyn 14 Hydref
Cynhadledd Pantycelyn, 14 Hydref

Llun: LlGC
Cynhelir y gynhadledd undydd eleni yn y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol ddydd Sadwrn 14 Hydref 2017. Y mae’n briodol iawn mai agweddau ar waith William Williams Pantycelyn a fydd dan sylw am ein bod yn dathlu tri chanmlwyddiant ei eni eleni. Bydd pum papur yn cael eu cyflwyno, a’r siaradwyr fydd yr Athro E. Wyn James, Dr Eryn M. White, Gwynn Matthews, yr Athro Densil Morgan a’r Athro Ceri Davies. Yn sesiwn olaf y diwrnod, bydd panel o dri (Dafydd Iwan, Gareth Bonello a Lleuwen Steffan) o dan gadeiryddiaeth Delyth Morgans Phillips yn sôn am ddylanwad emynau Pantycelyn arnynt hwy, ac am yr her o gyflwyno emynau’r Pêr Ganiedydd mewn cyd-destun cyfoes.
Trefnodd y Llyfrgell Genedlaethol arddangosfa arbennig ar Bantycelyn a bydd hon i’w gweld yn ystod y dydd yn Ystafell Summers. Yn ystod y dydd hefyd, bydd Cymdeithas Emynau Cymru yn lawnsio cyfrol o ysgrifau’r diweddar Glyn Tegai Hughes ar Bantycelyn.
Trefnir y digwyddiad gan Adran Diwylliant y 18-19 Ganrif, Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru, gyda chydweithrediad a chefnogaeth yr Adrannau Athroniaeth, Clasuron, Diwinyddiaeth, a Llên Gwerin ac Ethnoleg, ynghyd â Chymdeithas Emynau Cymru. Cafwyd cefnogaeth gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a chan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd hefyd. Noddir y digwyddiad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Bydd y diwrnod yn dechrau am 9.30 ac yn gorffen am 4.30. Bydd y tâl cofrestru yn £5 am y diwrnod a gofynnir i bob un gofrestru ymlaen llaw. Gellir cofrestru trwy anfon siec am £5 yn daladwy i ‘Prifysgol Cymru’ a’i hanfon i’r Ganolfan Uwchefrydiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH. Gellir cofrestru trwy anfon ebost at: canolfan@cymru.ac.uk. Rhif ffôn y Ganolfan yw: 01970.636543.
Bydd Caffi Pendinas yn y Llyfrgell ar agor yn ystod y dydd.
Arddangosfa William Salesbury 450
Fe fydd arddangosfa i ddathlu 450 mlynedd o’r Testament Newydd Cymraeg ar agor yn Byd Mary Jones ger y Bala, o ddydd Sadwrn 30 Medi tan 29 Hydref.
Mae’r oriau agor a chostau ymweld i’w canfod yma
Cynhadledd Meithrin a Chynnal Ysbrydolrwydd
MEITHRIN A CHYNNAL YSBRYDOLRWYDD
Cynhelir cynhadledd arloesol i weinidogion ac aelodau o’r holl enwadau yng Nghymru ddydd Mercher, 18fed Hydref 2017 yng Nghapel Berea Newydd, Rhodfa Dewi Sant, Ffordd Penrhos, Bangor, LL57 2AX, rhwng 09.30 a 16.30. Bydd y gynhadledd, MEITHRIN A CHYNNAL YSBRYDOLRWYDD, yn rhad ac am ddim, a sicrhawyd siaradwyr hynod ac amrywiol o wahanol enwadau Cristnogol yng Nghymru gan gynnwys Elfed ap Nefydd Roberts, Aled Jones Williams, Karen Owen, Trystan Owen Hughes, Eluned Williams, Enid Morgan, Judith Morris, Eleri Edwards, D. Densil Morgan ac R Alun Evans.
Y materion dan sylw fydd yr elfennau hynny sy’n adlewyrchu ysbrydolrwydd yn ei amryfal ffyrdd a sut i drin heriau ysbrydol bywyd bydol:
- Byw’n briodol o dan amrywiaeth eang o amodau
- Cynnal agwedd gadarnhaol, adeiladol, emosiynol gyfrifol mewn bywyd
- Ystyried popeth â dogn helaeth o wrthrychedd a hiwmor
- Byw gyda ffydd ac ymddiried yn nuw
- Cynnal ewyllys da a bwriadau da tuag at ein cyd-ddyn.
Bydd y Gynhadledd yn ystyried Y SIALENS I’R EGLWYSI gyda chwestiynau megis:
- Beth yw’r allwedd i ysbrydolrwydd?
- A pha fath o ysbrydolrwydd?
- Sut all yr egwysi gynnig ysbrydolrwydd ac agweddau ysbrydol megis cariad, cymod a maddeuant i oes sydd wedi troi cefn ar grefydd?
- A yw’n gyfle i’r eglwysi ymateb i rai sy’n chwilio am ateb i broblem ysbrydol?
- Sut all yr eglwysi gyflawni hyn yn ymarferol?
Dywedodd Wynford Ellis Owen, sylfaenydd a chyn brif weithredwr Stafell Fyw Caerdydd, a threfnydd y gynhadledd, “Mae nifer o bobl yn chwilfrydig ynglŷn â sut mae mynychwyr y Stafell Fyw – nifer ohonynt erioed wedi mynychu na chapel nag eglwys na choleddu unrhyw ffydd – yn gallu cael profiadau ysbrydol dwys sydd yn newid eu bywydau yn gyfan gwbl. Mae sawl math o ysbrydolrwydd wrth gwrs. Ysbrydolrwydd yr Amherffaith sydd wrth wraidd gweithgareddau’r Stafell Fyw. Ond nid ysbrydolrwydd yn yr ystyr crefyddol yw hwn. Mae hwn yn wahanol: ysbrydolrwydd yr amherffaith, ysbrydolrwydd y gwan a’r toredig, y tlawd a’r gwylaidd.
Yn ôl yr awdur Gabor Maté, ysbrydolrwydd y bobl sydd ag angerdd mawr a chryf, gorffennol problemus a dyfodol ansicr. Ysbrydolrwydd hynafol ydyw, yn ôl yr awduron Ernest Kurtz a Katherine Ketcham, a ailddarganfuwyd gan griw o feddwon anobeithiol oedd yn chwilio am ateb i gyflwr nad oedd meddygon na neb arall yn gwybod yr ateb iddo na sut i’w drin. Gan ddysgu o brofiadau aflwyddiannus eraill ac athroniaeth William James yn ei lyfr The Varieties of Religious Experience, a Carl Jung, y seiciatrydd enwog, aethant ati i greu ffordd o fyw fyddai’n caniatáu iddynt fyw gyda’u ‘cyflwr anobeithiol’, gyda’u hamherffeithrwydd sylfaenol.
“Yn y gynhadledd hon cawn gyfle i edrych ar y mathau eraill o ysbrydolrwydd hefyd – ac, yn arbennig, sut i’w meithrin a’u cynnal.
Ydych chi’n barod i gyfrannu o’ch profiadau a’ch mewnwelediadau chi?”
Sut i feithrin a chynnal ysbrydolrwydd? Bydd y Gynhadledd yn rhoi cyfle i wrando, trafod, cwestiynu ac anghydweld – a chyfrannu o’ch profiadau personol chi.
Dylai unrhyw un sy’n dymuno mynychu’r gynhadledd gysylltu â Stafell Fyw Caerdydd ar 029 2049 3895 i gofrestru neu ebostiwch carol.hardy@cais.org.uk Darperir bwffe a bydd gwasanaeth cyfieithu ar-y-pryd ar gael. Gallwch ganfod mwy o wybodaeth am y Stafell Fyw neu Cynnal, y gwasanaeth cwnsela i glerigwyr, gweinidogion yr efengyl a’u teuluoedd, drwy fynd i: Stafell Fyw Caerdydd neu Cynnal.