Cliciwch yma i fynd at safle apêl storm Idai
CRISTNOGAETH 21
Y COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL
URDD GRADDEDIGION PRIFYSGOL CYMRU
Cynhadledd Dechrau o’r Newydd
29–30 Mawrth 2019
Festri Capel Seion a Chanolfan Merched y Wawr, Aberystwyth
A’r capeli a’r eglwysi ar drai, a llawer yn wynebu difancoll, mae angen ailystyried cyfraniad Cristnogaeth i’n cymdeithas mewn ffordd sylfaenol. Dyna farn y rhai sydd wedi trefnu cynhadledd arbennig, Cynhadledd Dechrau o’r Newydd, i’w chynnal yn Aberystwyth 29–30 Mawrth. Mae’r gynhadledd yn cael ei noddi gan Cristnogaeth 21, Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Rhai o’r cwestiynau sydd wedi ysgogi’r gynhadledd yw:
Rhaglen
Nos Wener (yn festri Capel Seion, Stryd y Popty)
7.00 Bregus, sef cyflwyniad/perfformiad am fenywod yn y capel yng ngofal Rhiannon Williams a Lowri Davies
Sadwrn (yng nghanolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail, SY23 1JH)
Cadeirydd: y Canon Enid Morgan, cadeirydd Cristnogaeth 21
9.30 Cofrestru a Choffi
10.00 Cynog Dafis: Croeso a chyflwyniad: Pam ŷn ni yma?
10.15 Arwel Jones: Achos i faddau, achos i feddwl: pererindod bersonol
11.00 Seibiant
11.15 Catrin Williams: Agweddau ar ‘Ffydd’ a ‘Chredu’
12.00 Gareth Wyn Jones: Mytholeg Feiblaidd ac Esblygiad ein Hymddygiad
12.45 Cinio
1.15 Huw Williams: Dechrau newydd i ddyneiddwyr: troi ’nôl at grefydd?
2.00 Cynog Dafis: Crynhoi’r trafodaethau
2.30 Bord Gron
3.15 Beth Nesaf (os rhywbeth)?
Tâl cofrestru: £15 i’w dalu ar y dydd. I gofrestru cysyllter â Cynog Dafis: cdafis@me.com neu 07977093110
Nodyn am y cyfranwyr
Arwel Jones, blaenor yng Nghapel y Morfa (EBC)
Catrin Williams, arbenigydd ar y Testament Newydd
Gareth Wyn Jones, gwyddonydd
Huw Williams, athronydd a dyneiddydd
Cynog Dafis, un o drefnwyr y gynhadledd
CRISTNOGAETH 21
Y COLEG CENEDLAETHOL CYMRAEG
URDD GRADDEDIGION PRIFYSGOL CYMRU
Cynhadledd Dechrau o’r Newydd
Mawrth 29-30 2019
Festri Capel Seion a Chanolfan Merched y Wawr Aberystwyth
Beth yw ystyr bod yn Gristion yng Nghymru’r 21fed ganrif? Sut mae cysoni credo crefyddol â byd-olwg gwyddonol? Ai yn nhermau myth y mae deall crefydd, a’r stori Gristnogol yn benodol? Beth o’n treftadaeth a’n defodau cyfarwydd y mae’n bwysig ei gadw ac i ba raddau mae rhaid dechrau o’r newydd?
Dyma rai o’r cwestiynau a ysgogodd gynnull y Gynhadledd hon
Rhaglen Ddrafft
Nos Wener (yn festri Capel Seion, Stryd y Popty)
6.30 Bregus, sef cyflwyniad/perfformiad am fenywod yn y capel yng ngofal Rhannon Williams a Lowri Davies
Sadwrn (yng nghanolfan Merched y Wawr)
Cadeirydd; y Canon Enid Morgan, cadeirydd Cristnogaeth 21
9.30 Cofrestru a Choffi
10.00 Cynog Dafis: Croeso a chyflwyniad: Pam ÿn ni yma?
10.15 Arwel Jones: Achos i faddau, achos i feddwl: pererindod bersonol
11.00 Seibiant
11.15 Catrin Williams: Agweddau ar ‘Ffydd’ a ‘Chredu’
12.00 Gareth Wyn Jones: Mytholeg Feiblaidd ac Esblygiad ein Hymddygiad
12.45 Cinio
1.15 Huw Williams: Dechrau newydd i ddyneiddwyr: troi nôl at grefydd?
2.00 Cynog Dafis: Crynhoi’r trafodaethau
2.30 Bord Gron
3.15 Beth Nesaf (os rhywbeth)?
Tâl cofrestru £15 i’w dalu ar y dydd. I gofrestru cysyllter â Cynog Dafis: cdafis@me.com neu 07977093110
Taith ‘Gwn glân, beibl budr’ yn y capeli, Lleuwen Steffan.
14 Chwefror: Capel Goffa Williams Pantycelyn, Llanymddyfri, gyda Eddie Ladd
16 Chwefror: Capel Salem, Canton, gyda Carol Hardy
17 Chwefror: Capel y Morfa, Aberystwyth, gyda Hywel Griffiths
18 Chwefror: Capel y Groes, Penygroes, gyda Karen Owen
GRADDEDIGION PRIFYSGOL CYMRU
CANGEN BANGOR
‘Dal i Gredu – Golwg ar y Myth Cristnogol’
gan Cynog Dafis
(Awdur ar y cyd ag Aled Jones Williams, Duw yw’r Broblem)
Nos Wener, 19 Hydref 2018, am 6.00 p.m.
Neuadd William Mathias, Yr Ysgol Gerdd, Prifysgol Bangor
CROESO CYNNES I BAWB
Cynhelir Drydedd Gynhadledd Cynnal – (Cynnal yw’r gwasanaeth cwnsela i glerigwyr a gweinidogion yr efengyl a’u teuluoedd) – yn Eglwys Christ Church, 28 Lake Road North, Caerdydd CF23 5QN, ar y 24ain o Hydref rhwng 09.00 a 13.00. Bydd nifer o siaradwyr amlwg, gan gynnwys Archesgob Cymru, y Parchedicaf John Davies, Karen Owen, y Parchd Ddr R Alun Evans, Dr Iolo ap Gwynn ac eraill, yn trafod y testun ‘Beth mae’n golygu i fyw bywyd yn ei holl gyflawnder?’ Bydd adnoddau cyfieithu ar y pryd ar gael yn ogystal â lluniaeth ysgafn. Mae’r mynediad am ddim a bydd digon o lefydd parcio ar gael.
SEITHFED SUL ADFERIAD CYMRU
Bydd dydd Sul 28ain o Hydref, 2018, yn garreg filltir arall yn hanes y frwydr yn erbyn dibyniaeth ar alcohol, cyffuriau ac ymddygiadau niweidiol eraill yng Nghymru.
Unwaith eto eleni, nodwyd Sul fel Sul Adferiad i annog eglwysi nid yn unig i ystyried sefyllfa’r rhai sy’n dioddef o ddibyniaeth o ryw fath, i ddysgu mwy am eu sefyllfa, eu hangen a’r help sydd ar gael trwy ymdrechion mudiadau megis y Stafell Fyw, ond hefyd i weithredu yn ymarferol i estyn cymorth. Gall y cymorth olygu cyfraniad ariannol tuag at y gwaith i rai, tra y bydd eraill yn cymryd sylw newydd o’r anogaeth sydd yn Hebreaid 13, 3 “Daliwch ati i gofio’r rheiny sy’n y carchar, gan feddwl sut brofiad fyddai hi i fod yn y carchar eich hunain!” Efallai mai carchar llythrennol sydd dan sylw awdur y llythyr at yr Hebreaid, ond ar Sul Adferiad cofiwn fod caethiwed dibyniaeth ar alcohol, cyffuriau, bwyd, rhyw, gamblo a mwy, yn garchar i gymaint o bobl heddiw
Paratowyd y gwasanaeth gan y Parchedig Margaret Le Grice a chyfieithwyd gan y Parchedig Denzil I John (ar wahân i’r rhannau o Wasanaethau’r Eglwys yng Nghymru). Mae’r gwasanaeth yn seiliedig ar 12 Cam yr Alcoholigion Anhysbys.
Ceir manylion y gwasanaeth a phoster YMA
Nodiadau am y gwasanaeth
1 Mae’r gwasanaeth mewn isadrannau gyda chyflwyniad a diweddglo. Mae pob adran yn cynnwys myfyrdod fel cyflwyniad, darlleniad o’r Beibl, amser tawel, gweddi ac emyn neu siant Taize. Nid oes pregeth.
2 Mae’n bosibl y bydd eglwysi na all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ar 28 Hydref am ba bynnag reswm. Gellir defnyddio un o’r adrannau neu’r eiriolaeth mewn cyd-destunau eraill, e.e. grŵp gweddi, astudiaeth Feiblaidd neu gyfnod defosiynol byr mewn math arall o gyfarfod. Byddai’n briodol gwneud hyn ar unrhyw adeg yn ystod y deng niwrnod o 18 Hydref i 28 Hydref. Diwrnod y Sant Luc yw 18 Hydref pan fyddwn yn gweddïo dros weinidogaeth iacháu ym mhob ffurf.
3 Mae’r gwasanaeth yn fyfyrdodol. Cofiwch ei arwain yn araf ac yn fyfyriol. Argymhellir munud ar gyfer yr amser tawel. Mae’n amhosibl brasamcan hyd cyfnod o dawelwch ond pa beth bynnag fyddwch chi’n ei ddefnyddio fel amserydd, cofiwch na fydd yn cadw sŵn!
4 Cofiwch roi darn o bapur a phensil i bawb yn y gynulleidfa.
5 Mae’r rhifau wrth ochr yr emynau Cymraeg o Ganeuon Ffydd. Gellir cael y gerddoriaeth ar gyfer y siantau Taize ar www.taize.fr/en_article10308.html.
Encil 2018
Encil Blynyddol C21
Sadwrn Medi 22ain 10.00 – 3.30
Eglwys Clynnog Fawr yn Arfon.
Duw’r Creawdwr
yng nghwmni
Dr Hefin Jones, Y Tad Deiniol,
Parch Mererid Mair, Lloyd Jones a Gwawr Maelor
Cost £25.00 (i gynnwys cinio)
I gofrestu cysylltwch â Catrin Evans
cyn Medi 12ed.
catrin.evans@phonecoop.coop
01248 680858