Archifau Categori: Newyddion

Chwilio am Help

Rydym yn chwilio am rywun i gynorthwyo gyda’r gwaith o gynnal y wefan, sef golygu’r cynnwys, gofalu am y diwyg, trefnu a dosbarthu’r e-fwletin, dylunio a chyhoeddi Agora a goruchwylio’r Bwrdd Clebran.

Os medrwch helpu, dewch i gysylltiad drwy glicio ar y ddolen isod. Mae hyfforddiant ar gael.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18

Os hoffech chi helpu gyda’r gwaith, cliciwch YMA

 

Colli Gethin

Colli Gethin

Gyda thristwch y clywsom am farwolaeth Gethin Abraham-Williams, un o gymwynaswyr mawr Cristnogaeth 21, a chyn-ysgrifennydd cyffredinol Cytûn. Roedd yn un o’n diwynyddion mwyaf craff, yn awdur pwysig ac yn gyfaill annwyl.  Rydym eisoes wedi cyhoeddi cyfeiriad ato yn adran Newyddion Agora, i’w weld YMA. Buom yn ddigon ffodus i dderbyn erthygl fer gan Gethin ychydig cyn ei farw, yn sôn am ymweliad Karen Armstrong â Chaerdydd.  Mae hi i’w gweld YMA. Fe welwch ein bod hefyd wedi ychwanegu teyrnged iddo gan Aled Edwards yn y rhifyn hwn o Agora. Mae hi i’w gweld YMA.

Joanna Penberthy darpar Esgob Tyddewi

Joanna Penberthy darpar Esgob Tyddewi

 

Nid yw Coleg Ethol yr Eglwys yng Nghymru yn enwog am weithredu’n sydyn yn ei benderfyniadau – corff gofalus ydyw. Ond yr oedd enw Joanna Penberthy yn codi’n gyson ymhlith y rhai oedd wrthi’n trafod yn yr wythnosau diwethaf cyn y penderfyniad.  “Mae hi hefyd,” meddai cyfaill bachog ei ymadrodd “yn caru Duw”.

Doedd dim amheuaeth chwaith am ei gallu, ei phersonoliaeth, ei chynhesrwydd a’i chryfder. Mae hi’n ddiwinydd praff ac yn offeiriad profiadol, ac mae hi wedi gweithio yn y dalaith ac ar bwyllgor y corff sy’n rheoli’r eglwys gadeiriol yn Nhyddewi (Y Chapter – Cabidwl) Y mae hi’n ferch sydd wedi cael profiad personol o’r anhawsterau a fu’n gymaint tramgwydd ac annhegwch i ferched drwy’r degawdau diweddar. Mae hi wedi magu teulu o bedwar o blant, wedi dal i weithio (yn aml heb gyflog – onid dyna ddyletswydd pob gwraig i offeiriad?) a gweithiodd mewn tîm o swyddogion datblygu yn y Bwrdd Cenhadu – ac mae Tyddewi’n llawen i’w chroesawu nôl. Mae ganddi, fel dysgwraig, sylfaen o Gymraeg graenus, a nawr bod rhaid iddi ei ddefnyddio, dïau y gwnaiff hi dyfu’n llawer iawn mwy rhugl.

Bydd hi’n gyfreithiol yn esgob ar ôl cyfarfod o’r Synod ar Dachwedd 30. Fe’i hordeinir gan yr Archesgob Barry yn eglwys gadeiriol Llandaf ar Ionawr 21 ac fe gymer feddiant o’i chadair, ei cathedra yn  Nhyddewi ar Chwefror 11. (Dyma a elwir yn wasanaeth gorseddu, os gwelwch yn dda.)

Mae gwreiddiau ffydd Joanna Penberthy yn y maes efengylaidd, ond mae hi’n arddel dylanwad y traddodiad Catholig – ac ar hyn o bryd yn ymddiddori’n fawr mewn  ffiseg quantum a’r dylanwad posibl ar iaith diwinyddiaeth.  Dydi hi ddim yn dehongli’r Ysgrythur yn llythrennol nac yn arddel Iawn Dirprwyol. Dyna’r pethau pennaf sy’n poeni cristnogaeth21!

Mae hi’n dod yn Esgob ar gyfnod tyngedfennol i’r eglwys, pan yw pob esgobaeth yn newid ei phatrwm hanesyddol o ofal offeiriad i bob plwyf. Mae hwnnw wedi dadfeilio ers degawdau ond bellach y mae’r plwyfi’n datblygu i weithio gyda’i gilydd mewn ardaloedd gweinidogaeth. Mae’r rhain yn ardaloedd lle y cysylltir sawl plwyf, lle y ceir un offeiriad llawn-amser yn llywio ac arolygu’r gwaith. Gan ddibynnu ar faint yr ardal anelir at gael offeiriaid eraill hefyd, yn cynorthwyo, ac offeiriaid rhan amser di-gyflog, a darllenwyr lleyg i sicrhau cysondeb gwasanaethau, gofal bugeiliol, a chydweithio cenhadol. Un elfen y mae pobl yn gofidio amdano yw’r bwriad i gael gweinidog ‘ffocws” ym mhob un cynulleidfa; lle bo rhywun sy’n barod i ymgymryd â hyfforddiant gallai weithio’n iawn; ond mater tra sensitif yw rhoi awdurdod i unigolion mewn grwpiau bach.

Bishop elect Jo & Canon Enid

Enid Morgan, Golygydd Agora, gyda Joanna Penberthy, darpar esgob Tyddewi

 

Dydd Sadwrn Tachwedd 5ed yr oedd MAECymru (Merched a’r Eglwys – Ministry and Equality) yn cynnal ei gyfarfod blynyddol cyntaf yn y Drenewydd. Cadeirydd MAECymru yw Golygydd AGORA, Enid Morgan, wnaeth gyflwyno tusw o flodau a charden llongyfarch i’w hen gyfaill Jo, cyd-weithiwr yn y Bwrdd Cenhadu  yn y 90au.

ADDOLI – PAM A SUT?

Dechrau Tachwedd 2il

 CRISTNOGAETH 21 

Cylch Morlan Aberystwyth

–  Tymor Hydref 2016     

Chwech nos Fercher: Tach 2 – Rhag 7ed 

7.30pm

ADDOLI  – PAM A SUT?

Beth ydyn ni’n chwilio amdano mewn 
gwasanaeth cyhoeddus? 
Beth yw ystyr ‘cael bendith”? 
Ydyn ni’n disgwyl ei gael? 
Yng ngoleuni ein profiadau personol 
fe fyddwn dros gyfnod o 6 wythnos 
yn ystyried yr angen am drefn a phatrwm: 
am ystwythder a defod:             
dysgu a rhyfeddu; gweddi a meddwl: 
cerdd a llygad; gair a llun: 
Beibl ac emyn: rhydd a chaeth:                                
defodol ac arweiniad yr ysbryd: 
pregeth - trafod. 
Fe ystyriwn ein gwahanol  draddodiadau, 
y gwahaniaeth rhwng defosiwn personol, 
cylch gweddi bychan preifat,
addoli mewn lle cyhoeddus, 
a’r peth prin hwnnw,
y gynulleidfa fawr! 
Awn ati i arbrofi a llunio patrymau
a sgriptiau 
ar gyfer gwahanol wasanaethau 
ac, ar ddiwedd
y cwrs, eu defnyddio.

YMUNWCH Â NI I DORRI TIR NEWYDD.

Brian McLaren yng Nghaerdydd

Brian McLaren yng Nghaerdydd

Cyfeirir yn aml at Brian McLaren fel un o arweinwyr Cristnogol mwyaf dylanwadol y Gorllewin. Bydd yn ymweld â Chaerdydd ar Hydref 10fed eleni, pan fydd yn annerch yn yr Eglwys Ddiwygiedig  i sôn am ei lyfr newydd:

‘‘The Great Spiritual Migration: Re-imagining a Faith that will Save Us’McLaren. 2 JPG

Cewch fanylion llawn y daith YMA 

neu ar wefan PCN www.pcnbritain.org.uk/news

Mae’r tocynnau ar gael nawr.

GOHIRIO DARLITH YR ESGOB JOHN SPONG

GOHIRIO DARLITH YR ESGOB JOHN SPONG

Mae’n siŵr y bydd llawer ohonoch wedi clywed erbyn hyn am salwch yr Esgob John Spong. Cafodd strôc fore Sadwrn diwethaf ac yntau ar fin annerch cyfarfod yn Marquette, Michigan. Dymunwn yn dda iddo yn ei waeledd, a byddwn yn ei gynnwys ef a’i deulu yn ein gweddïau. Yn amlwg, nid oes bwriad i fwrw ymlaen gyda’r ddarlith yng Nghaerdydd nos Lun, Hydref 24ain.

Yn ôl tudalen Facebook The Episcopal Diocese of Newark, sef ei hen esgobaeth, mae’r Esgob, sy’n 85 oed, yn gwella ac yn cryfhau, ac wedi bod yn siarad ar y ffôn gyda rhai o’i gyfeillion. Os daw rhagor o newyddion, byddwn yn siŵr o rannu unrhyw wybodaeth gyda chi.
Yn gywir iawn,

Manylion Newydd y Gynhadledd Flynyddol

Manylion Newydd

Y Gynhadledd Flynyddol

Dydd Sadwrn, Medi 24ain
Canolfan Morlan, Aberystwyth
10:00 a.m. – 3.30 p.m.

Thema: Eisiau Tyfu – Ofn Newid
Ysgogwyr:
Judith Morris
Bethan Wyn Jones
Owain Llŷr Evans

Cadeirydd y Sesiwn Grynhoi:
John Roberts (BBC)

Pris Mynediad: £20 yn cynnwys lluniaeth amser cinio. Gofynnir i bawb sy’n dod gofrestru ymlaen llaw gan ddefnyddio’r ffurflen sydd ar y wefan YMA:  Manylion Cofrestru Cynhadledd 2016 Aberystwyth

 

 

Yr Esgob John Spong yng Nghaerdydd
ar wahoddiad Cristnogaeth 21
Nos Lun, Hydref 24ain am 7:00p.m.
Capel Salem, Treganna
Bydd yn sgwrsio am y themâu yn ei lyfrau diweddar megis
Biblical Literalism – A Gentile HeresyBishop_John_Shelby_Spong_portrait_2006Mynediad: £10 y pen
Gellir archebu sedd drwy:
Anfon siec at:
Trysorydd C21, 44 Vaughan Avenue, Llandaf, Caerdydd CF5 2HS
Anfon arian dros y we at Fanc y Co-op:
Rhif Didoli:  08-90-03  

Rhif Cyfrif: 68205339
(Enw’r Cyfrif: Cristnogaeth 21)
Am ragor o wybodaeth:
E-Bost: cristnogaeth21@gmail.com
Gwefan:  www.cristnogaeth21.cymru

Gwefan yr Esgob Spong:  http//www.johnshelby