Archifau Categori: Erthyglau

Erthyglau

Beth ar y ddaear sy’n bod arnom ni?

Nid dim ond crefyddwyr sy’n holi “ Beth sy’n bod arnom ni? Pam ydyn ni mor chwannog i drais a chasineb?” Mae Cristnogion yn honni eu bod yn gwybod pam, ac yn defnyddio’r gair Pechod. Nid yw’r ffaith fod y gair hwnnw’n annerbyniol gan anffyddwyr yn golygu ei fod yn anghywir, ond y mae’n creu problem gyfathrebu sylweddol. A oes cysyniadau a geirfa ar gael a’i gwna’n bosibl i Gristnogion drafod problem trais a chasineb gydag anffyddwyr, heb fradychu eu ffydd trwy ei gwagio o’i chynnwys?Beth sy’n gyffredin i gredinwyr ac anffyddwyr pan geisiant ateb y cwestiwn ‘Pam ydyn ni mor chwannog i drais a chasineb? Dywed Freud mai mygu ein gwir ddymuniadau fel unigolion yw’r broblem. Mynnai Marx, mai strwythurau pŵer sy’n ystumio dymuniadau cymdeithas a’r unigolion ynddi. Dyna ddau feddyliwr a luniodd y drafodaeth gyhoeddus yn y ganrif ddiwethaf. Heddiw y mae hen ŵr, Ffrancwr, sydd yn ôl ei edmygwyr lawer, yn cynnig set o ddamcaniaethau ynghylch beth sy’n bod ar y ddynoliaeth, sy’n mynd llawer yn ddyfnach na Freud ac ymhellach na Marx – dweud go fawr.

Rene Girard

Treuliodd Rene Girard y rhan helaethaf o’i yrfa academaidd yn America, ac y mae’n dal ei gysylltiad â phrifysgol Stanford, yn Califfornia. Ym 1990 sefydlodd rhai cyfeillion a disgyblion iddo o ddisgyblaethau gwahanol, grŵp a elwir yn Colloquium on Violence and Religion i ymchwilio i mewn i’w ddamcaniaethau, ac i’w trafod. Mae ei ddamcaniaethau yn y maes hwn, sy’n perthyn i’w gilydd fel llechi ar do, yn egluro pam mae crefyddau mor aml yn ymddangos yn rhan o broblem trais yn hytrach nag yn ateb iddi, fel y carai credinwyr gredu.

Nôl yn 1972 bu ei gyfrol La Violence et le Sacré (Trais a’r Sanctaidd) yn destun trafod brwd yn Ffrainc am ei fod yn cynnig eglurhad ynddi o beth yw aberth. I anthropolegwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg ( James Frazer, Evans Pritchard ac eraill), yr oedd aberth (a chrefydd yn gyffredinol) yn perthyn i fyd cyntefig, ofergoelus nad oedd yn haeddu ystyriaeth resymol feddylgar. Ond mae aberthu, medd Girard, sef lladd creadur byw, yn ffenomenon byd-eang sydd i’w gael mewn diwylliannau cyntefig o bob math. Ac mae’r ffenomenon o erlid grwpiau o bobl, ffenomenon sy’n gysylltiedig, fel y cawn weld, a’r syniad o aberth, yn gweithredu mewn diwylliannau llawer mwy ‘gwareiddiedig’. Rhaid bod ystyr iddo, yn wir rhaid bod swyddogaeth iddo.

Y Pedair Elfen

Mae ‘na bedair elfen neu lechen, yn gorwedd yn dwt gyda’i gilydd, sy’n adlewyrchu taith bersonol meddwl ac ysbryd Girard ei hun.

1. Mimesis
Gair a ddefnyddia Girard ei hun yw mimesis, a’i ystyr ywefelychiad, neu ddynwarediad. Mae llawer o feddylwyr wedi sylwi ar bwysigrwydd dynwared mewn diwylliant. Eithr yr ydym yn dynwared ein gilydd, nid yn unig yn gyffredinol, yr ydym hefyd yn dynwared dyheadau ein gilydd. Os yw hi yn ffansïo’r llanc acw, rhaid bod rhywbeth amdano i beri i minnau ei lygadu! Dyna pam mae plant yn ymladd dros degan, dyna sut mae ffasiwn yn gafael, a sut mae hysbysebu’n gweithio. Byddwn yn chwennychu rhywbeth am fod rhywun arall yn gweld gwerth ynddo.

2. Cystadlu Mimetig
Y drafferth yw bod chwennych yr un peth yn golygu dwy law yn estyn am yr un peth, a dyna ddechrau cystadlu, a thrwy hynny ymryson, oherwydd gall dynwared cystadleuol ddwysau’n gyflym. Ond nid pethau da’n unig y byddwn yn eu dynwared. Dynwaredwn rywbeth sy’n sarhad neu’n fygythiad hefyd. Dywed y seicolegydd Anthony Storr, nad oes dim tebycach i ddyn wedi colli ei limpyn na dyn arall wedi colli ei limpyn! Felly wrth i bobl ddynwared ei gilydd mewn materion sy’n ymwneud a sarhau neu fygwth rhywun gall cymdeithas gyfan gael ei heintio gan drais. ‘Does dim ond angen edrych yn y papur newydd i weld hyn yn digwydd, yng Ngogledd Iwerddon, yn Gaza, neu mewn gwrthdaro rhwng Shia a Sunni, a gangiau llanciau yn ein dinasoedd.

3. Y Ddyfais Aberthu Dirprwyol
Dywed Girard bod proses felly wedi digwydd mewn diwylliannau gwahanol iawn i’w gilydd. Ei ddamcaniaeth ef yw mai’r peth sy’n peri arswyd i’r gymdeithas gyntefig heb gyfraith a threfn, yw dialedd. Felly pan fyddai cymdeithas yn dymchwel mewn pla o drais cystadleuol, byddai gelynion, rhag ofn i’r cwbl gael ei ddinistrio, yn troi o ymladd â’i gilydd, i ymladd a rhywun newydd, dieithr, od y gellid ei feio, ei fwrw allan. Mae ein gwreiddiau diwylliannol mewn lladd torfol. Geilw Girard y broses hon yn ddyfais aberthu dirprwyol(mimetic victimage mechanism, a dengys bod hynny’n ennill heddwch, dros dro beth bynnag – ond mae ailadrodd y trais gwreiddiol mewn defodau yn sicrhau parhad yr heddwch.

Ond trais yn unig a all roi terfyn ar drais – neu felly yr ymddengys. Eithr swyddogaeth gyntaf crefydd oedd cadw rheolaeth ar drais drwy wahardd cystadlu mimetig, a thrwy ddefodau. Yn y profiad o effeithiolrwydd aberth y genir y diwylliant aberthol sydd yn dibynnu ar ail-drodd mewn defod yr hyn a wnaed yn y lladd gwreiddiol. Y mae datblygu cyfundrefn grefyddol yn ateb y galw am ddyfais i gadw heddwch. Mae’r cysylltiad rhwng crefydd a thrais yn anochel felly. Dyma’r eglurhad anthropolegol a gynigiodd Girard, ac a barodd dramgwydd i’r anthropolegwyr sy’n gwrthod cydnabod bod ystyr i ddefodau crefyddol. Dyna seiliau anthropolegol Girard, a dyna oedd fframwaith ei feddwl pan aeth ati i edrych ar yr ysgrythurau Hebreig a Christnogol.

4. Goleuni newydd ar y Groes
Yr oedd anthropolegwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi mynnu bod Cristnogaeth a’r crefyddau paganaidd yn union yr un fath, yn delio â’r un ofnau am ffrwythlondeb ac ati. Aeth Girard ati felly i edrych ar y dystiolaeth Gristnogol. Cytunodd fod croeshoelio Crist mewn sawl ffordd yn cyfateb yn gywir iawn i’r aberthau paganaidd. Ond sylwodd ar un gwahaniaeth mawr, sef bod y crefyddau paganaidd yn ceisio cuddio’r trais ac yn dal i roi’r bai ar yr ysglyfaeth. Mae eu mythau hwy’n cyfiawnhau’r llofruddio ac yn adrodd yr hanes o safbwynt y llofruddwyr. Ond bwriad cwbl wahanol sydd gan yr ysgrythurau Iddewig a Christnogol, yn ôl Girard. Y mae’r ysgrythurau hyn ar ochr yr ysglyfaeth. Nid oes gwadu’r trais. Y mae Cain yn llofrudd.

Pan ddywed Iesu am y milwyr Rhufeinig “Ni wyddant beth y maent yn ei wneuthur “ yr hyn a olyga yw na wyddant eu bod yn cymryd rhan mewn gweithred lofruddiol aberthol, yn ôl Girard. Ond dywed fod Caiaphas, pan ddywed mai gwell yw i un farw na dinistrio cenedl gyfan, wedi deall. Y mae croeshoelio Iesu o Nasareth felly yn datguddio ‘pethau a fu’n guddiedig er seilio’r byd’, ac yn egluro pam y mae’r groes yn dangos ‘yr Oen a groeshoeliwyd cyn seiliad y byd.’ Y mae’r groes yn dangos trais cynhenid y ddynoliaeth.

Terfyn ar grefyddau aberthol

Wrth wneud hyn y mae Girard yn dangos bod y Groes yn rhoi terfyn ar fyd y crefyddau aberthol. Yn hyn y mae’n gosod allan y dystiolaeth (anthropolegol) i farn Karl Barth bod Cristnogaeth yn dod â chrefydd i ben. Gwna hyn yn y gyfrol “Things Hidden From the Foundation of the World” nas cyhoeddwyd yn Saesneg tan 1987. Erbyn hynny yr oedd Girard wedi hen fynd trwy dröedigaeth yn ôl i ffydd ei fagwraeth yn Eglwys Rufain, ac mewn trafodaethau gyda Raimund Schwager, Iesüwr o’r Almaen, gweithiodd ei ffordd drwy ddryswch yr iaith aberthol sydd yn y Testament Newydd a dehongliad yr Epistol at yr Hebreaid. Ond am fod y duedd at ladd aberthol yn rhan hanfodol o’r meddwl dynol y mae Cristnogion hwythau’n llithro’n fuan i newid Cristnogaeth nôl yn grefydd aberthol, ac nid yn gyfrwng i ddod â’r holl gyfundrefnau gwaedlyd i ben.

Gwêl Girard hanes alaethus yr Eglwys, a datblygiad llawer o’i diwinyddiaeth fel llithrigfa enbyd yn ôl i’r crefydda aberthol treisgar y mae Crist mewn gwirionedd yn ei ddinoethi. Mae goblygiadau amlwg yma ar gyfer Athrawiaeth yr Iawn, ac mae grŵp o ddiwinyddion yn dechrau defnyddio’r syniadau hyn.

Enid R Morgan

Cwestiynau

1. Ystyriwyd yn y gorffennol mai gwahaniaethau rhwng pobl sy’n achosi anghydfod. Ond pwyslais Girard yw mai awydd i ymdebygu, ac felly i ddymuno’r un pethau sy’n achosi anghydfod. A yw pwyslais Girard yn nes ati?

2. Beth yw goblygiadau’r hyn a ddywed Girard am aberth, i Athrawiaeth yr Iawn?

DARLLEN PELLACH
Dyma rai o weithiau pwysicaf Rene Girard:
Violence and the Sacred John Hopkins University Press 1977
Things Hidden since the Foundation of the World Stanford Unviersity Press 1987 (gyda Jean Michel Ougourlian a Guy Lefort)
The Scapegoat John Hopkins University Press 1986,
I see Satan Fall Like Lightening Maryknoll 2001
Job, The Victim of his People Stanford University Press 1987
A Theater of Envy, William Shakespeare St Augustine’s Press Indiana 1991

Cyflwyniad i’w waith
Discovering Girard gan Michael Kirwan Cambridge 2005

I rai a hoffai weld effaith y syniadau hyn ar Astudiaethau Beiblaidd a phregethu mae adnoddau diddorol ar y we trwy www.textweek.com ac ar www.girardianlectionary.net

Yr Ysgol Gristnogol?

Rhai ystyriaethau gan swyddog addysg mewn Awdurdod Addysg yn y De
Does dim mis yn pasio heb i’r cyswllt rhwng crefydd ac addysg fwrw’r newyddion.2009 – Gweinidog yn y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried eithrio disgyblion chweched dosbarth o wasanaethau crefyddol mewn ysgolion

2009 – Trafodaeth ar y teledu am foeseg cyflwyno addysg rhyw i blant oed cynradd – ac yn holi ai’r mudiad Americanaidd dros wyryfdod, ‘True Love Waits’ sydd yn cynnig y dull gorau o addysg ryw.

2009 – Trafodaeth yn y wasg am yr hawliau sydd gan noddwyr ysgolion dinesig yn Lloegr i ddylanwadu ar y cwricwlwm – gan gynnwys dysgu plant mai mewn 6 niwrnod y crëwyd y byd, a bod esblygiad yn ddamcaniaeth ‘di-sylfaen’ – yn unol â ffydd y noddwr.

Y ddadl Fictoraidd dros enaid addysg

Yn oes Fictoria, pan gymerwyd y camau mawr at addysg i bawb, cafwyd trafodaeth danbaid yng Nghymru (o fewn y sefydliadau enwadol anghydffurfiol) i geisio dod i benderfyniad ynglŷn â chyfrifoldeb yr eglwysi wrth ymwneud ag addysg. Wedi’r cwbl, dwy genhedlaeth yng nghynt, yr eglwysi Cristnogol sicrhaodd mai Cymru oedd y wlad fwya llythrennog yn y byd. Penllanw’r ddeialog Fictoraidd oedd i’r anghydffurfwyr benderfynu aros y tu allan i drefn addysg, gan adael darpariaeth addysgol i’r wladwriaeth a’r eglwys sefydledig.

Trasiedi cynta’r fath benderfyniad oedd i adael addysg ffurfiol i’r byd Saesneg ei iaith gan sicrhau bod yr Ysgol Sul yn Gymraeg. Beth fyddai cyflwr yr iaith Gymraeg heddiw petai’r enwadau grymus Cymraeg wedi penderfynu cymryd eu rhan yn llawn ym myd addysg ffurfiol diwedd y 19eg ganrif ac i mewn i’r 20fed ganrif? Mae’n debyg y byddai’r Gymru heddiw yn genedl gwbl a naturiol ddwy ieithog. Pe bai’r anghydffurfwyr wedi penderfynu arwain o fewn byd ysgolion tybed a fydden ni hefyd yn genedl gwbl a naturiol Gristnogol?

Anodd gwybod beth fyddai statws crefyddol Cymru heddiw – petai’r anghydffurfwyr wedi mynd ati i redeg 85% o ysgolion Cymru (yn unol â’u dylanwad dros 85% o’r boblogaeth). Y gwir amdani yw bod yr eglwys Gatholig a’r Eglwys yng Nghymru heddiw yn ei ffeindio hi’n anodd i gadw’r ifanc yn y ffydd Gristnogol…..er waetha’r ffaith bod miliynau o bunnoedd yn cael eu gwario ar eu hysgolion yn flynyddol.

Ydy Ysgol Gatholig neu Ysgol Anglicanaidd yn ‘Ysgol Gristnogol’?

Mae’n dibynnu. Mae gwahaniaeth sylweddol rhwng ysgol i Gristnogion ac ysgol Gristnogol. Mae polisïau mynediad ysgolion enwadol o reidrwydd yn golygu y rhoddir blaenoriaeth i blant o gartrefi enwadol – dyna’u raison d’etre. A’i ysgol Gristnogol yw ysgol sy’n rhoi blaenoriaeth i blant o gartrefi sy’n ymwneud ag eglwys? Mae’n dibynnu sut Feibl sydd gyda chi…….ond mi dybiaf i fod mwy i ysgol Gristnogol nag ysgol sy’n caniatáu i rai plant dethol yn unig i gael lle ynddi mewn marchnad gystadleuol.

Beth yw ysgol Gristnogol?

Yma mae dau air pwysig – ‘ysgol’ a ‘Cristnogol’. Oni bai bod yr ysgol yn deffro chwilfrydedd ymenyddol plentyn neu berson ifanc ac yn eu gadael yn rhydd i resymu, prin y gellir ei galw’n ysgol. Ble mae hyn yn gosod ysgol sydd o dan faner grefyddol sy’n dewis diystyru canrifoedd o ymchwil gwyddonol sy’n datgloi rhyfeddod y cread? A ydyw hi’n ‘ysgol’ os mai’r prif agenda yw gwthio dogma grefyddol ar blant? Nac ydy – carchar cenhadol yw’r fath sefydliad. Calondid mawr i bawb rwy’n siŵr yw bod ysgolion yr Eglwys yng Nghymru a’r Eglwys Gatholig yn codi uwchben y math yma o sefyllfa………. ond mae hyn yn dal i’n gadael gyda rhai sectau sy’n honni i ddarparu addysg – tra mewn gwirionedd yn pedlera juju canoloesol.

Beth am y dimensiwn Cristnogol? Cefais sgwrs ddiddorol yn ddiweddar gyda ffrind o brifathro. Mynegi tristwch y gwnaeth e fod rhieni efengylaidd yn rheolaidd yn mynegi eu siom nad yw e fel prifathro yn ‘pregethu’r efengyl’ mewn gwasanaethau ysgol – a fynte’n Gristion o argyhoeddiad. Troi wnaeth y drafodaeth i ddiffinio natur ‘ysgol Gristnogol’. Daethon ni i’r canfyddiad y byddai’n dda i ni sefydlu awdit o’r hyn yw ysgol Gristnogol. Penderfynwyd defnyddio meincnodau yn deillio o un o’r ychydig adnodau yn y Testament Newydd sy’n disgrifio Iesu mewn oed ysgol (a fyddai Mair wedi dewis iddo fynd i ysgol enwadol? Tybed).

Tyfodd Iesu’n fachgen doeth a chryf. Roedd ffafr Duw arno, ac roedd pobl yn hoff iawn ohono hefyd. – Luc 2: 52 o Beibl. net

Tyfodd Iesu mewn doethineb a maintioli ac mewn ffafr gyda Duw a dyn

Beth am bwyso a mesur Cristionoldeb eich ysgol leol wrth osod meini prawf amrywiol i’r 4 gwedd hon?

Ydy’r ysgol yn helpu plant i fod yn ddoeth?
Ydy’r ysgol yn hybu chwilfrydedd ymenyddol?
Yn rhoi cyd-destun moesol i fywyd?
Ydy’r ysgol yn dysgu sgiliau meddwl annibynnol?
Ydy’r athrawon yn hoff o blant sy’n gallu meddwl yn annibynnol?
Sut mae’r ysgol yn agor meddyliau ei phlant a’r staff i sefyllfaoedd global?

Ydy’r ysgol yn helpu plant i fod yn gryf?
Ydy’r ysgol yn cymryd agwedd iachus at chwaraeon a hamdden?
Ydy’r awyr agored yn bwysig yn addysg y plant?
Ydy’r ysgol yn hyrwyddo cystadleuaeth mewn chwaraeon?
Ydy’r ysgol yn helpu i greu disgyblion hunan gynhaliol?

Ydy’r ysgol yn helpu plant i fod yn ysbrydol?
Ydy’r ysgol yn annog plant i fod yn werthfawrogol o’r ysbrydol?
Ydy’r ysgol yn cydnabod bod ysbryd plant yn bwysig h.y. yn rhoi cyfle i fynegiant o deimladau a gofod i blant adlewyrchu ar faterion ysbrydol?
Oes mwy i blant na chanlyniadau arholiad?
Oes cyfle i fynegiant personol iawn i blant pan fo oriau tywyll eu bywydau’n gwasgu?
Sut le mae’r ysgol yn cynnig i blant a staff o bob cefndir crefyddol ac anffyddwyr?
Sut mae’r ysgol yn manteisio ar weledigaeth grefyddol gwahanol grwpiau o fewn yr ysgol ac yn rhoi cyfle i wahanol grwpiau i fynegi eu gweledigaeth?
Oes gwerthfawrogiad o natur unigryw bob plentyn fel plentyn i Dduw – beth bynnag ei sefyllfa bersonol?
Ydy’r plant yn cael cyfle i fod yn yr amgylchedd naturiol i’w helpu i werthfawrogi eu lle yn y cread?

Ydy’r ysgol yn helpu plant i fod yn gymdeithasol ac yn hoffus?
Beth yw gweledigaeth yr ysgol am gyfraniad cymdeithasol plant?
Ydy elusen yn ganolog i feddylfryd yr ysgol?
Ydy’r ysgol yn cymysgu disgyblion o wahanol oedran er mwyn creu synnwyr o gyfrifoldeb mewn plant?
Ydy’r ysgol yn creu cyfleoedd i blant gymysgu gydag oedolion – yn enwedig yr henoed?
Ydy’r ysgol yn cyfrannu’n helaeth at gynhwysiant yr anabl?
Sut groeso mae’r ysgol yn rhoi i leiafrifoedd?
Ydy’r ysgol yn hyrwyddo chwaraeon a gweithgareddau eraill cydweithredol?
Ydy’r ysgol yn datblygu (yn fwriadol) lefelau llythrennedd emosiynol ei disgyblion?

Petai’r 4 maen prawf uchod yn cael eu diffinio’n effeithiol, byddai ffordd syml o wneud awdit o ‘beth yw ysgol Gristnogol?’. Rwy’n siŵr y byddai’r ysgolion enwadol yn gobeithio sgorio’n uchel…………….ond tybiaf fod nifer o ysgolion eraill a fyddai’n sgorio cystal neu well. Sut fyddai’r sector addysg Gymraeg yn ei wneud o ran y meini prawf yma?

Mae’r wasg wedi ein bombardio gyda gweledigaethau o beth yw ysgolion Cristnogol…..ysgolion sy’n trin damcaniaeth esblygiad fel clefyd, ysgolion sy’n sicrhau pregethu effeithiol o bulpud y prifathro ac ysgolion sy’n rhoi lle amlwg i’r offeiriad lleol. Beth am gredu bod mwy i ysgol Gristnogol – ac maen nhw i gyd yn bethau y gall pob ysgol anelu atyn nhw………..yn unol â ffordd gynhwysol y Meistr.

“Darwin”

O’r Grawys i’r Groes

Oni bai am y Pasg fyddem ni ddim yn gwybod am Iesu. Pe bai ei stori wedi gorffen gyda’r croeshoeliad, fe fyddai, yn ôl pob tebyg, wedi cael ei anghofio. Dyna fel mae Borg a Crossan yn agor pennod olaf eu llyfr ar yr Wythnos Fawr, The Last Week. Astudiaethyw’r llyfr yn seiliedig yn bennaf ar yr hyn sy’n cael ei gofnodi yn Efengyl Marc. Tydyn nhw ddim yn mynd ar ôl yr “hanes” fel y cyfryw ond yn edrych ar y defnydd mae Marc yn ei wneud o’r hyn mae’n ei gofnodi.
Mae’r llyfr yn dadlau bod gan Marc ddehongliad arbennig. Trwy fynd â ni o ddydd i ddydd trwy’r wythnos, o Sul y Blodau i Sul y Pasg mae Marc yn dangos beth yn union mae Iesu am ei gyflawni. Fel yn ei weinidogaeth ar ei hyd mae Iesu yng nghanol brwydr rhwng dwy deyrnas – teyrnas Dduw a’r deyrnas sy’n cael ei chynrychioli gan Rufain a’r Iddewon hynny oedd yn rhan o’r hyn mae’r awduron yn ei alw’n domination sustem.
Mae Iesu’n ildio’i fywyd fel protest yn erbyn y rhai sy’n gormesu’r gwan, y tlawd, y difreintiedig (gormesu’n wleidyddol, economaidd a chrefyddol.) Ac nid talu pridwerth (ransom – lutron) mae Iesu trwy ei farwolaeth ond dangos i’w ddisgyblion bod rhaid iddyn nhw fod â rhan yn ei farwolaeth. Nid substitution ond participation. Marwolaeth (y disgybl) yw’r ffordd i fywyd newydd yma’n awr.
Y syniad o “Iesu’n marw yn ein lle” yw hanfod Yr Iawn yn hanesyddol ac yn ffydd gyfoes llawer, os nad y mwyafrif, o gredinwyr. Ai dyma oedd Duw yn ei hawlio fel amod ein maddeuant? Mae Steve Chalke (The Lost Message of Jesus) ac eraill o’r un safbwynt diwinyddol wedi gofyn rhywbeth tebyg. Mae archif Ekklesia yn crynhoi’r ffrae a fu am penal susbstitution ar ôl cyhoeddi llyfr Chalke.
http://www.ekklesia.co.uk/content/news_ syndication/article_041115_4754.shtml

Pwrpas yr ychydig frawddegau hyn yw agor y drws i drafodaeth am y Pasg – beth ddigwyddodd a pham, a beth yw arwyddocâd hyn i ni heddiw?

Allan Pickard

Adolygiad Crefydd neu ysbrydolrwydd?

Mae Gethin Abraham Williams, cyn Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn, Ymgynghorwr Ecwmenaidd ac Ymgynghorydd i Gyngor Eglwysi’r Byd, newydd gyhoeddi cyfrol Saesneg Spirituality or Religion? Do we have to choose? Is deitl y gyfrol yw ‘A celtic tale with gospel meaning’.

Yma mae’r awdur yn dweud gair am ei gyfrol
Mae crefydd ac ysbrydolrwydd wedi bod ar wahân yn rhy hir! Mae’r gyfrol hon, nid yn unig yn pwysleisio fod yn rhaid iddynt glosio eto ond fod yn rhaid iddynt gymodi hefyd. Fel mae crefydd wedi datblygu yn fwy ac yn fwy mewnblyg ac ysbrydolrwydd wedi mynd yn fwy ac yn fwy arallfydol, mae’r ddau fel ei gilydd wedi methu cyflwyno gweledigaeth i genhedlaeth sy’n chwilio.

Gyda chrefydd ar drai, mae ysbrydolrwydd ar gynnydd. Mae ceisio deall pam fod nifer gynyddol yn dangos amharodrwydd i gydnabod eu bod yn grefyddol, ond eto yn fwy na pharod i arddel rhyw fath o ysbrydolrwydd, yn codi’r cwestiwn – Pam tybed?

A yw ysbrydolrwydd sydd yn colli cysylltiad â’i gwreiddiau crefyddol mewn perygl yn y diwedd o gynnig cymysgedd niwlog yn lle fframwaith trefnus, cyson ffydd ? Ac onid yw crefydd hefyd, pan mae’n amheus o ‘ysbrydolrwydd’ cyfoes , yn gwadu hanfod ffydd ac yn dirywio i fod mor arwynebol nes colli ei henaid ei hun ?

Dyna’r math o gwestiynau sy’n codi yn y gyfrol. Mae nifer o gwestiynau eraill yn dilyn. A oes, er enghraifft, gysylltiad rhwng dirywiad crefydd a’r methiant i warchod yr amgylchedd? Sut y gall diwylliant cyfan, (a chynnyrch, er enghraifft, gwareiddiad Cristnogol,) roi lle i ddrygioni ffynnu i’r fath raddau? A sut y mae crefydd , sydd wedi cael enw drwg am ei hagweddau hiliol, ar yr un pryd wedi bod yn ddylanwad i greu arwyr sydd wedi bod ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn hilyddiaeth?

Ymysg agweddau cadarnhaol eraill, mae’r gyfrol yn dadlau y gallwn fod yn agored i bobl o grefyddau eraill, heb wadu dilysrwydd a chyfanrwydd ein cred ein hunain; y gall gwrando ar sut y mae eraill yn meddwl am Dduw, ehangu ein deall ninnau o Dduw; a bod y gred mewn bywyd tragwyddol yn miniogi a dyfnhau’r ffordd yr ydym yn byw heddiw.

Y mae’r gyfrol yn trafod hyn i gyd (a mwy) yn y berthynas rhwng Iesu o Nasareth â Moses ac Elias ond hefyd yn y berthynas rhwng Branwen â Brân ac Efnisien. Fy ngobaith yw y bydd y ddwy enghraifft a’r ddwy stori fel ei gilydd yn gwasgu, yn miniogi ac yn ymestyn ein crebwyll a’n dirnadaeth o’r berthynas rhwng crefydd ac ysbrydolrwydd – ac na ddylem fod yn dewis rhwng y naill a’r llall.

Cyhoeddir Spirituality or religion? Gan O Books am £11.99
I brynu copi ewch i www.ekklesia.co.uk

Iesu

Ers blynyddoedd bellach, wrth bregethu ac wrth ddarlithio, byddaf yn teimlo rhyw barchedig ddychryn wrth drafod yr Arglwydd Iesu. A’r rheswm am hynny yw mod i yn gynyddol yn sylweddoli nad yw’r darlun sydd gen i ohono yn yr un ffrâm â’r darlun traddodiadol Gristnogol. Oherwydd hynny rwy fel Jwdas, fel y gwelai ef ddiwedd yr achos yn dod, yn teimlo fy mod yn bradychu’r Iesu. Ond, ar yr ochr arall, rwy’n dod yn fwy a mwy argyhoeddedig mai pedlerwyr uniongrededd yr eglwys Gristnogol ar hyd y canrifoedd sydd wedi gwneud cam difrifol a sylfaenol â’r Iesu.

Yn hynny o beth rwy wedi teimlo mod i mewn cytgord ag aelodau y Jesus Seminar a sefydlwyd ynghanol yr wythdegau gan Robert Funk a John Dominic Crossan. Wrth iddyn nhw atgyfodi’r hen ymchwil am Iesu hanes fe ddaeth hi’n gynyddol amlwg i mi fod cymhlethdod y dylanwadau crefyddol yn y ganrif gynta a’r ail ganrif wedi gosod y “Ffydd Gristnogol” ar lwybr hollol gyfeiliornus. Y mae mwyafrif y rhai a fu’n gysylltiedig â’r Jesus Seminar dros yr ugain mlynedd diwethaf yn gweld Iesu yn bererin arbennig o ddoeth a galluog. Nid dyn dwyfol a fu farw fel pridwerth dros bechaduriaid. nac ychwaith yn ail berson y Drindod a atgyfodwyd o farw’n fyw. Ond dyn a bregethodd efengyl rhyddhad cymdeithasol, a hynny mewn damhegion a gwirebau syfrdanol. Dywedodd bethau a fyddai’n dramgwydd i’w wrandawyr, nes bod rhai o’i syniadau yn cael eu galw weithiau yn “ymadroddion caled”. Mae’n ddyn a ddibynnai’n llwyr ar Dduw drwy ei weddïau, a byddai dro ar ôl tro yn portreadu Duw fel tad trugarog a chariadlon.

Gwelant yr efengylau fel gweithiau hanesyddol yn cynnwys rhai o union eiriau’r Iesu, a hanes llawer o’i weithredoedd, yn ogystal ag ychwanegiadau awduron, a chreadigaethau ac addurniadau’r gymuned Gristnogol gynnar. Nid ydynt yn parchu’r canon, gan weld er enghraifft yn Efengyl Thomas fwy o ddeunydd dilys nag yn Efengyl Ioan.

Arhoswch am eiliad meddech chi. Mae hyn yn tanseilio holl Ffydd Gristnogol yr ugain canrif hyn! A beth bynnag y mae yna rai lleisiau hereticaidd ar hyd y canrifoedd, o’r ganrif gynta i Undodwyr Allt y Blaca, wedi bod yn lleisio’r un amheuon am berson Iesu. Pwy yw rhyw ddau gant o ysgolheigion hunandybus yn niwedd yr ugeinfed ganrif i herio mawrion feddyliau athronwyr a diwinyddion y canrifoedd? Ydy’r ddau gant modern yna yn mynd i ddweud fod meddylwyr mawr yr eglwys wedi cael eu camarwain? Wel ydyn, yn union fel y gwnaeth Galileo herio corff y ddysgeidiaeth wyddonol a fu ar gyfeiliorn ymhell dros ddau fileniwm o’i flaen.

Y foment y cychwynnwyd ar daith athrawiaethol yr eglwys gan bobol megis yr Apostol Paul, fe aed ati i lunio’r canon, gan gynnwys y pentwr o ysgrythurau Iddewig yr oedd hyd yn oed Iesu ei hun wedi dangos eu bod yn anghyflawn ac yn aml yn gyfeiliornus. Wedi hynny rhoesant ryw gysegredigrwydd i’r “ysgrythur” yr oedd dynion wedi ei dethol fel na allai neb ei herio. Yna, ar sail yr “ysgrythur”, ac weithiau yn hollol annibynnol arni, aed ati i lunio gwe o ddogmâu a chredoau o gwmpas person a gwaith Iesu. O fewn i’r eglwys ar hyd y Canol Oesoedd datblygwyd syniadau astrus amdano. Roedd llawer ohonyn nhw, fel rhai yn gysylltiedig ag athrawiaeth yr Iawn, a’r syniadau am bridwerth dros bechod, yn gwbl wrthun ac absẃrd, mor absẃrd â theoreiddio ffansïol Karl Barth ar Athrawiaeth y Drindod yn yr ugeinfed ganrif.

Ar adegau fe sylweddolodd rhai pobol fod pethau wedi mynd dros ben llestri, fel y gwnaeth y Protestaniaid yn nechrau’r cyfnod modern. Ond lle y ceision nhw chwalu awdurdod delwaddoliaeth yr hen eglwys a’i defodau, fe aethon nhw ar eu pen i ddelwaddoliaeth arall sef delwaddoliaeth yr ysgrythur, gan greu eto ryw deml o athrawiaethau am Iesu a oedd yn eu golwg hwy yn gwbl hanfodol i iachawdwriaeth, a’r groes hyd yn oed yn bwysicach na Iesu. Y cam nesa wedyn oedd inni weld Cristnogaeth, fel llawer o grefyddau eraill, yn suddo i ofergoeliaeth ronc. Fel pan fu menyw, yn weithwraig gyflogedig ar awyren, yn mynnu fod cario rhyw drincet o groes arian am ei gwddf yn hanfodol i’w ffydd, gydag esgobion yn ei chefnogi. Pa obaith sydd gennym i argyhoeddi pobol o grefyddau eraill mor wrthun yw ofergoeliaeth felly. Fel pan welsom fam rhyw ferch, yn perthyn i ffydd arall, yn martsio i’r ysgol i ddweud fod gwisgo breichled yn hanfodol i’w ffydd hi. A hynny pan wyddom yn iawn fod Iesu wedi llefaru mor groyw yn erbyn y phylacterau a’r gwisgoedd llaes yn enw crefydd. Rydym yn sylweddoli fwy bob dydd mor bell mae’r eglwys wedi crwydro oddi wrth hanfodion neges Iesu.

Y mannau lle y deuthum gyntaf i gyffyrddiad â’r ysgol newydd hon o Americanwyr oedd drwy astudiaethau Robert Funk ar y damhegion. Roeddent yn dangos mor ddifrifol o gyfeiliornus oedd dehongliadau’r eglwys wedi bod o’r dechrau’n deg. Ac os gall yr eglwys ei cholli hi’n llwyr gyda phethau mor syml â damhegion, pa ryfedd ei bod hi wedi colli’r ffordd gydag enwadaeth a dogmâu ac athrawiaethau, ac yn sicir gyda pherson Iesu.

Mi glywa i chi’n gofyn: ble mae’r byd ysbrydol yn hyn i gyd? Fy ateb i yw mai yn ôl at Dduw y dylem ni i gyd droi. A pha arweinydd gwell y gallem ei gael na’r Iesu a oedd yn adnabod Duw yn fwy na neb y gwyddom amdano. Nid Iesu’r dogmâu a’r athrawiaethau a’r enwadaeth a’r ofergoeliaeth, nad ydyw hyd oed neiniau ein hieuenctid digapel yn eu deall nac yn credu ynddynt, ond yr Iesu hwnnw a gerddodd drwy Jwdea a Galilea gan ddysgu am Dduw, a gwneud daioni, gyda gweddi yn gonglfaen ei fywyd. Yr Iesu a ddangosodd fod y byd ysbrydol yn ein herio ni i garu yn y byd hwn nes ei chwyldroi.

Mae’n siŵr mai’r argyfwng presennol, o weld ein heglwysi wedi colli eu gafael ar o leiaf un, os nad dwy, genhedlaeth gyfan o Gymry ifanc, a ysgogodd yr ymateb hwn ynom. O adnabod aelodau presennol ein heglwysi gwelaf nad yw yr athrawiaethau a’r dogmâu traddodiadol am Iesu yn ddealladwy iddynt nac yn berthnasol i’w bywyd, heb sôn am gredu ynddynt mewn “cyffes ffydd”. Ond fe wyddant am eiriau heriol a gweithredoedd iachusol a thrugarog Iesu, gan deimlo anwyldeb tuag at ei berson. Felly yr hyn y buaswn i yn ei annog ar addolwyr a hyfforddwyr ein heglwysi heddiw yw gadael i Iesu ei hun unwaith eto siarad â ni fel y siaradodd a phechaduriaid ei oes ei hun. Nid drymio athrawiaeth yr Ymwacâd, athrawiaeth y Geni Gwyrthiol, athrawiaeth y Drindod, athrawiaeth yr Iawn neu athrawiaeth y Purdan i mewn i bennau ein cyd-Gristnogion, ond gadael i’r Iesu ein herio â’i neges chwyldroadol a’n cysuro â’i neges am faddeuant Duw. Gadael iddo ein harwain gydag ef i fyd gweddi, a’i ddibyniaeth lwyr ar Dduw. Gadael i’r Iesu hwnnw gerdded unwaith eto ar hyd llwybrau bywydau’r ddynoliaeth, a gadael i ddisgyblion cenhadol Iesu gerdded i’r byd heb y baggage.

John Gwilym Jones

Darllener: Iesu’r Iddew, Pryderi Llwyd Jones a Iesu, drama ysgytwol Aled Jones Williams.
Fel enghraifft o waith y Jesus Seminar gellid darllen The Resurrection, Geza Vermes.

Yr Adfent – Straeon y Nadolig, Straeon I Blant?

Mae’r Nadolig yn ymyl. Cyn hir gwelwn luniau o’r straeon ynghylch geni Iesu ar gardiau, a gwelwn blant yn eu hactio mewn capel ac eglwys. I lawer, straeon plant yw’r rhain. Digon tebyg fu barn ysgolheigion Beiblaidd yn y gorffennol. Yn wir, ofnent drafod y straeon hyn rhag iddynt golli eu henw da wrth ysgrifennu am bethau ‘anniwinyddol’ fel angylion a seren a doethion o’r Dwyrain.

Dadlennu Eu Cyfoeth.

Yna, ym 1977, ysgrifennodd Pabydd, Raymond Brown, lyfr, The Birth of the Messiah, yn dadlennu’r cyfoeth hynod ynddynt. Llyfr o 594 tudalen (!) ar bedair pennod yn unig – oherwydd ceir straeon y Nadolig i gyd yn nwy bennod gyntaf Efengylau Mathew a Luc.

Pam Mewn Dwy Efengyl Yn Unig?

Hanes yn mynd tuag yn ôl yw deall y Cristnogion cynnar o pryd yn hollol y cafodd Iesu ei arddel gan Dduw fel Mab iddo. Yn ôl pregethau cyntaf yr Eglwys (Actau 5.30-31), pan atgyfodwyd ef y digwyddodd hynny. Ond gydag amser daeth Cristnogion i gredu bod Duw wedi ei gydnabod yn Fab iddo cyn hynny mae’n rhaid, o ddechrau ei weinidogaeth gyhoeddus o leiaf. Felly dechreuodd yr efengyl gyntaf i gael ei hysgrifennu, Efengyl Marc, a’i fedydd gan Ioan Fedyddiwr, pan ddisgynnodd colomen o’r nef a dweud ‘Hwn yw fy annwyl Fab…’ Erbyn ysgrifennu’r efengylau nesaf, Mathew a Luc, credai Cristnogion fod Duw wedi arddel Iesu fel Mab iddo o’i eni, a dechreuant hwy eu hefengylau felly â dwy bennod yr un yn ymwneud â geni Iesu. (Erbyn ysgrifennu Efengyl Ioan, credai Cristnogion bod Duw wedi arddel Iesu mewn modd unigryw hyd yn oed cyn ei eni, felly adnod gyntaf Ioan yw – ‘Yn y dechreuad yr oedd y Gair…a’r Gair a wnaed yn gnawd.’)

‘Efengylau Bach’

Mae’r straeon am eni Iesu’n orlawn o gyfeiriadau at yr efengylau sy’n eu dilyn. Er enghraifft, yn rhestr achau Iesu ar ddechrau Efengyl Mathew, caiff pedair menyw eu henwi, ac nid Iddewon oedd tair ohonynt – y pedair ohonynt efallai. Hoffai Iddewon restru eu hachau, ond ni fyddent byth yn cyfrif menywod yn eu hachau, nac unrhyw un nad oedd yn Iddew! Ond rhagfynegi’r lle a gaiff menywod a rhai nad ydynt yn Iddewon yng ngweddill ei efengyl y mae Mathew. Mae cymaint o gyfeiriadau ym mhenodau cyntaf Mathew a Luc at yr efengylau sy’n eu dilyn, fel i Raymond Brown alw’r penodau hyn yn ‘mini-gospels.’

Amcanion Y Straeon

Bwriadai Mathew a Luc wneud sawl peth yn eu straeon. Er enghraifft, erbyn iddynt hwy ysgrifennu eu hefengylau, yr oedd Cristnogion yn gofyn, ble cafodd Iesu ei eni, felly dywed Mathew a Luc ble. Gofynnai rhai, ai cychwyn newydd oedd ‘yr efengyl’, a dengys Mathew a Luc y gwrthwyneb, fod Iesu’n ail-fyw hanes ei bobl. Er enghraifft, fel yr oedd Joseff y siaced fraith – mab Jacob, yn yr Hen Destament, yn freuddwydiwr a aeth i waered i’r Aifft, felly hefyd mae Joseff tad Iesu’n cael breuddwydion, ac yn mynd a’i deulu bychan i’r Aifft.

Ffynonellau Mathew a Luc

Yr oedd ganddynt nifer o ffynonellau, ambell atgof gan Mair efallai – ‘roedd hi’n aelod o’r Eglwys Fore (Actau 1.14). Rhai ffeithiau hanesyddol hefyd – ‘yn nyddiau Herod frenin‘. A chwedlau a ymgasglodd o gwmpas hanes y geni, fel stori’r doethion. (Gan ei fod yn ysgrifennu pan oedd y Cenhedloedd – pobl nad oeddent yn Iddewon – yn dechrau llifo i mewn i’r Eglwys, defnyddiai Mathew stori’r doethion o wlad bell i ddangos bod y Cenhedloedd hefyd yn rhan o gynllun Duw o’r dechreuad.) Ond ffynhonnell bwysicaf Mathew a Luc o ddigon oedd yr Hen Destament.

Geni Iesu

Prif amcan y straeon, wrth gwrs, oedd dangos fod Duw wedi arddel Iesu mewn modd unigryw ar hyd ei fywyd, hyd yn oed yn ei eni felly. Gwelsai’r disgyblion ac eraill fedydd Iesu, a’i groeshoeliad, a’i ymddangosiadau wedi iddo atgyfodi, ond ni welsai neb ei eni. Sut oedd ysgrifennu am ei eni felly?

Pan fynnai’r Hen Destament bod dyn wedi bod o bwys mawr yng ngolwg Duw, dywedai bod ei eni wedi ei gyhoeddi ymlaen llaw, a bod rhywbeth anghyffredin ynghylch ei eni. Dywedodd Duw wrth Abraham y cai ei wraig fab, er bod Sara’n rhy hen i gael plant, (Genesis 18), a ganed Isaac iddi. Daeth angel at wraig Manoa, a oedd ‘yn ddi-blant’, a dweud wrthi ‘byddi’n beichiogi’ (Barnwyr 13) – a ganed Samson iddi. Yr un fel am eni Samuel (I Samuel 1).

Gan ddilyn arfer yr Hen Destament, dywedodd Mathew a Luc fod geni Iesu hefyd wedi ei gyhoeddi ymlaen llaw gan angel, a bod rhywbeth anghyffredin ynghylch ei eni yntau. Ond yr oedd arnynt hwy eisiau dangos bod geni Iesu’n fwy anghyffredin na phob geni arall – yn arbennig geni Ioan Fedyddiwr, oherwydd credai rhai bod Ioan yn gydradd â Iesu, os nad yn bwysicach. Rhydd Luc hanes geni Ioan yn union o flaen hanes geni Iesu felly, i bobl gael gweld y gwahaniaeth (Luc 1.5-25).

Arbenigrwydd Geni (Cenhedlu) Iesu

Sut allai geni Iesu fod yn wahanol i bob geni arall? Yr oedd genedigaethau i famau rhy hen i gael plant, ac i famau na allai gael plant, wedi digwydd yn barod. Ond yr oedd y genedigaethau hynny i gyd yn naturiol, yn yr ystyr bod gŵr yn rhan o’r proses. Eithr byddai geni Iesu yn wahanol, yn wahanol i eni Ioan Fedyddiwr hyd yn oed. Byddai Mair yn geni plentyn, medd Mathew a Luc, heb ‘gael cyfathrach a gŵr’. ‘Daw’r Ysbryd Glân arnat’, meddai’r angel Gabriel wrthi.

Daeth y gred am enedigaeth wyryfol Iesu (‘cenhedlu gwyryfol’ a bod yn fanwl) yn rhan o ffydd yr eglwys. I rai a fyn bod y Beibl yn llythrennol wir, ac efallai i aelodau eglwysi a wna derbyn y gred yn y cenhedlu gwyryfol yn llythrennol, yn amod aelodaeth ynddynt, mae’r hanes am wyryfdod Mair i’w gredu air am air. Bu gwyryfdod Mair mor bwysig i rai Cristnogion fel iddynt fynnu ei bod yn wyryf yn dragywydd – er i hynny olygu ystyried brodyr a chwiorydd Iesu (Marc 3.32) yn gefndryd a chyfnitherod iddo! I eraill, mae ei genhedlu o wyryf yn rhan o ‘berffeithrwydd’ Iesu.

Ond o bob rhan o’r Beibl, straeon y geni yn Mathew a Luc yw’r rhai lleiaf agored o ran eu naws i gael eu deall yn llythrennol. Ni wyddai Mathew a Luc ddim am ein dadleuon modern ni ynghylch gwyryfdod Mair. Nid oedd hyd yn oed y fath syniad a ‘deddfau natur’ yn bod yn eu byd hwy. Felly nid ‘gynaecological feat’ gan Dduw, ys dywed un diwinydd, oedd geni Iesu iddynt. Amcan Mathew a Luc oedd gwau eu ffynonellau at ei gilydd yn wledd greadigol o dystiolaeth i’w argyhoeddiad bod perthynas Duw a Iesu hyd yn oed yn ei genhedlu, yn un na allai iaith gyffredin ei mynegi, bod galw felly am ddatganiad symbolaidd fel cenhedlu gwyryfol. Nid oedd son am genhedlu gwyryfol yn ddieithr yn yr hen fyd chwaith.

Llwyddiant Mathew a Luc

Ni chaeodd Mathew a Luc ben pob mwdwl yn eu straeon: mae anghysonderau ynddynt. Yn ôl Mathew (2.14-16), ffôdd y teulu bychan o Fethlehem i’r Aifft – pan oedd Iesu o gwmpas dwy flwydd oed? – ond yn ôl Luc (2.39), wedi geni Iesu ym Methlehem, a ‘chyflawni popeth yn unol â Chyfraith yr Arglwydd’, aeth y teulu yn ôl i Nasareth. Eithr nid rhoi hanes manwl a chywir oedd eu hamcan, ond ceisio cyflwyno rhyfeddod y ffaith nad oedd y byd wedi gweld dim erioed fel dyfodiad Iesu i’n daear ni. A barnu oddi wrth yr effaith a gafodd eu straeon ar Gristnogion lawr drwy’r canrifoedd, mewn llên a cherdd a’r celfyddydau cain, heblaw ar ddychymyg Cristnogion cyffredin o bob gradd – mwy nag a gafodd yr un wedd o fywyd Iesu ond ei ddioddefaint – pwy a wâd nad ydynt wedi llwyddo yn eu hamcan.

Gwahoddiad i Ryfeddu

A’r Nadolig hwn eto, gwahodda eu straeon ni i ymateb i’w neges â’r un rhyfeddod. Yn ôl un bardd, dwy dalent sylfaenol sydd gennym, y dalent i ddatrys problemau, a’r dalent i gael ein cyffroi gan ddigwyddiadau mawr. Gwaith addysg yw ein dysgu i ddatrys problemau. Ond gwaith yr Eglwys yw ein cynorthwyo i ddatblygu ac ymarfer y dalent ynom i gael ein cyffroi gan ddigwyddiadau mawr, drwy osod digwyddiadau mawr ger ein bron. A pha ddigwyddiad mwy na’r un y sonia straeon y Nadolig wrthym amdano, dyfodiad Iesu ‘tywysog ein hedd’ i’n daear ni.

Vivian Jones

Llyfrau.

The Birth Of The Messiah (Raymond E. Brown, 1977,Geoffrey Chapman, London) .
Y Nadolig Cyntaf, (Vivian Jones, 2006, Tŷ John Penri, Abertawe.)

Athrawiaeth y Drindod

Mewn llythyr yn Y Cymro pa ddydd, holodd rhywun a oedd rhai ohonom ni a sefydlodd y wefan hon, Cristnogaeth 21, yn Sosiniaid. Eidalwyr oedd Lelio Sozzini (1525–1562), a’i nai Faustio, a gredai mai dyn oedd Iesu. Y cwestiwn felly yw, hyd y gwelaf, a yw rhai ohonom ni, sefydlwyr Cristnogaeth 21, yn gwadu Athrawiaeth y Drindod, sy’n rhoi Iesu yn y Duwdod. Mae mater y Drindod wedi codi hefyd mewn cyfraniadau i’r Bwrdd Clebran ar y wefan.

(Ni allaf siarad dros neb arall. Nid gwthio unrhyw safbwynt yw amcan y wefan, chwaith, ond agor man trafod i bob barn, mewn ymateb i’r unffurfiaeth meddyliol brawychus sy’n llesteirio Cristnogaeth Cymru ar hyn o bryd.)

BRASLUN
Athrawiaeth y Drindod oedd yr Athrawiaeth gyntaf i gael ei llunio gan Gyngor Eglwysig. Dechreuwyd ei llunio hi yn Nicea (Iznik yn Nhwrci nawr), yn 328, mewn Cyngor a alwyd gan yr Ymherawdr Rhufeinig, Cystennin, i setlo dadl rhwng Cristnogion a oedd yn rhannu ei Ymerodraeth. Gwahoddodd tua 1800 o esgobion, ond tua 300 a ddaeth (mae’r ffigurau’n ansicr), y mwyafrif ohonynt o Ddwyrain yr Ymerodraeth

Nid yw’r Athrawiaeth, na’r gair ‘trindod’, yn y Beibl. Mae ‘personau’ yr athrawiaeth ynddo, y Tad, y Mab, a’r Ysbryd, ond nid oes disgrifiad cyson o’u perthynas ynddo Yn Efengyl Luc, er enghraifft, mae’r Ysbryd yn danfon y Mab, ond yn Efengyl Ioan y Mab sy’n danfon yr Ysbryd. Cafwyd disgrifiad ‘swyddogol’ o leiaf, o berthynas y Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd, pan dderbyniwyd Athrawiaeth y Drindod yn derfynol yng Nghyngor Caergystennin yn 381 – Theodosius oedd yr Ymherawdr erbyn hynny.

Ond bu dadl ynglŷn â pha bryd y dechreuodd Duw fod yn ‘dri’. A yw’n ‘dri’ yn ei anian, yn ‘dri’ erioed, cyn cychwyn amser, neu ai dod yn ‘dri’ a wnaeth Ef, er mwyn ein hiachawdwriaeth ni, pan ddanfonodd Iesu i’n hachub, a’r Ysbryd i’n cynnal. Cytunwyd iddo fod yn ‘dri’ yn ei anian! Ond oherwydd hynny, collodd yr Athrawiaeth ei chyswllt â’n hiachawdwriaeth, ac aeth yn osodiad ynghylch bywyd mewnol Duw. Wedi i ddiwinyddion sgolastaidd manwl yr Oesoedd Canol weithio arni, aeth yn Athrawiaeth gwbl ddirgel, annealladwy ac amherthnasol.

Pan ddaeth yr Oes Olau yn y ddeunawfed ganrif, a’i phwyslais ar fesur pob dim gan resymeg glir, ystyriwyd Athrawiaeth y Drindod yn ddiystyr a dibwrpas, ac yng ngolwg llawer hyd yn oed o Gristnogion, peidiodd Duw a bod yn ‘dri’, aeth yn ‘un’. (Dyma’r ‘Duw’ y sonia rhai fel Dawkins a Hitchens amdano.)

Credodd rhai yn Athrawiaeth y Drindod, wrth gwrs, heb ymholi nac amau. Iddynt hwy, mae’n un o Athrawiaethau’r Eglwys, a dyna ni. Eithr yr oedd Duw nad oedd yn Drindod yn broblem i lawer o Gristnogion a oedd bob Sul wrth addoli yn adrodd credoau’n dweud bod Duw yn ‘dri’. Araf iawn y cafwyd unrhyw ymateb i hynny, oherwydd cafodd Athrawiaethau’r bedwaredd a’r bumed ganrif barch rhyfedd erioed. Heriodd Martin Luther nifer o athrawiaethau eglwysig, ond dim un o’r cyfnod hwnnw. Ond ers amser nawr bu llawer iawn, iawn o feddwl ac ysgrifennu ynghylch y Drindod, ac mae llawer o broblemau ynghylch yr Athrawiaeth wedi eu hwynebu.

Sylweddolwyd bod y berthynas rhwng y Tad a’r Mab a’r Ysbryd, oherwydd y son, er enghraifft, yn y Testament Newydd am Iesu’n ‘ufudd’ i’w Dad, wedi cyfleu darlun o berthynas hierarchaidd yn y Duwdod. Ac yn waeth, am fod bob un o ‘bersonau’ y Drindod yn wrywaidd, hierarchaeth batriarchaidd oedd hi! Yr oedd hyn oll, wrth gwrs, yn gwbl groes i feddylfryd yr ugeinfed ganrif.

Trafod
Erbyn heddiw disgrifia diwinyddion trindodaidd berthynas fewnol y Drindod fel un gydradd, a dywedant mai’r hyn sy’n llywio’r berthynas honno yw, nid hierarchaeth, ond pregethu Iesu am y Deyrnas, a’i bwyslais ar barch cydradd i bawb. Benthyciodd diwinyddiaeth y Gorllewin air oddi wrth ddiwinyddiaeth y Dwyrain, sef y gair Groeg ‘perichoresis’, gair sy’n golygu troi fel olwyn, i ddisgrifio perthynas ‘personau’ y Drindod,. Nid oes hierarchaeth yn y Drindod meddent, troi o gwmpas ei gilydd fel petai y mae’r ‘tri’. Defnyddiwyd y cysylltiad rhwng y gair hwnnw a ‘coreograffi’ hefyd i awgrymu nad perthynas statig sydd rhwng ‘personau’ y Drindod, ond perthynas fel mewn dawns – sy’n awgrymu bywyd a llawenydd hefyd. Rhydd y darlun newydd hwn y neges mai perthynas yw Duw yn ei hanfod, a honno’n berthynas gydradd, fywiol, lawen!

O ran gwrywdod ‘personau’ y Drindod, tynnodd rai sylw at y ffaith bod y Beibl weithiau’n disgrifio Duw mewn termau di-ryw, fel golau, a thân, a dŵr. Yn yr unfed ganrif ar ddeg, disgrifiodd Hildegarde o Bingen y Drindod fel disgleirdeb, a fflachio, a thân, ac yn y ganrif ddiwethaf disgrifiodd Dorothy L.Sayers y Drindod fel llyfr wedi ei ddychmygu, wedi ei ysgrifennu, ac wedi ei ddarllen! Aeth rhai ymhellach drwy ddefnyddio termau benywaidd am y Drindod. Soniodd Jurgen Moltmann a Leonardo Boff am dad mamol, am Iesu o blaid y tlawd, ac am Ysbryd mewn cytgord a’r symbolau Beiblaidd a benywaidd, Doethineb, a Shekinah (gair Hebraeg yn golygu presenoldeb Duw).

Dylai pob Cristion lawenhau yn y ffaith bod diwinyddion a lleygwyr Cristnogol ‘uniongred’ ein cyfnod ni wedi teimlo’n rhydd i adolygu Athrawiaeth mor hen a chanolog a ‘chysegredig’ ag un y Drindod! A llawenhau bod Athrawiaeth y cysylltir Cristnogion i gyd a hi yng ngolwg pobl eraill, yn fwy ystyrlon nag y bu, ac yn llai o anghysur i rai sy’n ei hadrodd bob Sul. Ond erys cwestiynau ymarferol.

Cwestiynau

Yn gyntaf. Un o ganlyniadau Athrawiaeth y Drindod yw dyrchafu Iesu i’r Duwdod. Yn ôl Cyngor Calcedon (451) mae’r Iesu hwnnw yn ogystal â bod yn ‘wir Dduw’, hefyd yn ‘wir ddyn’. Ond cafodd Athrawiaeth y Drindod lawer mwy o sylw nag Athrawiaeth Person Crist, a thuedd Athrawiaeth y Drindod fu pwysleisio duwdod Iesu ar draul ei ddyndod. (Cafodd ei ddyndod ei anghofio’n llwyr yn fynych ar hyd y canrifoedd – gan Drindodwyr!)

I rai a gredodd bod Iesu wedi marw’n aberth drostynt ar Galfaria, bu’r duedd honno’n naturiol, oherwydd iddynt hwy ei dduwdod sydd bwysicaf, gan mai hynny a wna’r ‘aberth’ drostynt yn bosibl, yn weithredol. Rhaid i’r Oen fod yn ‘ddi-fai’! Ond i’r rhai ohonom sy’n credu mai dehongliad diwylliannol o’r gorffennol yw’r syniad o farw Iesu fel aberth drosom, dehongliad sy’n niweidiol erbyn hyn, nid yw pwysleisio duwdod Iesu’n wasgfa ddiwinyddol arnom, yr ydym yn fwy rhydd wedyn efallai i gymryd dyndod Iesu fwy o ddifrif hefyd!

Yn ail, fe’m magwyd i mewn traddodiad a gred y gall athrawiaethau ein helpu, ond nad yw’n credu y dylid eu gwneud yn amod aelodaeth mewn eglwys. Yn fy enwad i, yr Annibynwyr, sail aelodaeth eglwysig yw’r hyn a gredwn ni yw sylfaen pobl Dduw yn y Beibl, sef cyfamod a Duw ac a chyfamodwyr eraill. Y berthynas gyfamodol sy’n sylfaenol, nid credo. Mae pethau yn y traddodiad Annibynnol yr wyf wedi ei hamau, ond nid wyf wedi amau hwn erioed.

I mi felly, nid yw’n iawn gadael i Athrawiaeth y Drindod – nac un Athrawiaeth anFeiblaidd arall – gadw pobl allan o’r Eglwys. Ni fynnwn i i’r Athrawiaeth hon felly fod yn fodd cadw Byddin yr Iachawdwriaeth, er enghraifft, na’r Undodiaid hyd yn oed, allan o deulu Iesu. Yr wyf fi’n bersonol felly’n hapus i adrodd Athrawiaeth y Drindod, er nad yn or-aml – mae hyd yn oed yr Annibynwyr yn gorddefnyddio’r ‘Weddi Apostolaidd’ – ond nid wyf yn hapus pan ddefnyddir hi i wahanu cyfeillion Iesu.

Soniodd un diwinydd am Athrawiaeth y Drindod fel model i ni o berthynas sy’n barchus o eraill. A chan fod Iesu, a bwysleisiodd pobl ymylol yn ei bregethu, yn y Drindod, mae’r pwyslais ar yr ymylol, meddai, ymhlyg yn y berthynas hefyd. Dyma fi felly’n gorffen yr ysgrif fer hon drwy dynnu sylw at ddisgrifiad un grŵp anrhydeddus iawn o Gristnogion ‘ymylol’, y Crynwyr, o ddiffinio manwl y tu hwnt i ryw bwynt, fel yn Athrawiaeth y Drindod o’u safbwynt hwy – ‘a conceptual stretch’. Mae eu safbwynt o leiaf yn ganllaw i Gristnogion ei gadw mewn cof weithiau.

Vivian Jones

DUW NEWYDD

Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006, a’r rhyfel trasig rhwng Israel a Hesbolah ar dir Libanus yn ei anterth, lluniodd tîm Beirdd y Byd englyn a ddyfarnwyd yn englyn gorau’r wythnos yn y Babell Lên:

Corwynt
Nid duw bach meddal ei galon – na duw
Ofn dial ar ddynion
Yw duw blin yr heldrin hon:
Hen dduw yw Duw’r Iddewon.

Y mae ‘hen dduw’ yn y llinell olaf yn awgrymu bod rhai cysyniadau am Dduw yn annerbyniol, bellach, a bod ar ein byd angen dybryd am Dduw ‘newydd’. Fe gofiwn anogaeth y Salmydd: “Cenwch i’r Arglwydd gân newydd”(149: 1). Yng ngoleuni hyn, dyma drafod dau gwestiwn:

1 Bodolaeth Duw.

Ai syniad, damcaniaeth neu ddelfryd ym meddwl dyn yn unig yw Duw? Ai Duw a greodd ddyn, ynteu dyn a greodd Dduw? Bu’n arfer ceisio lleoli Duw, a’i bortreadu fel bod goruwchnaturiol yn eistedd ar ei orsedd i fyny fry yn y nefoedd, rhywle uwchben y cymylau. Mewn cyfnod pan gredid, mewn anwybod-aeth, mewn bydysawd gwastad, trillawr (y nefoedd uchod; y ddaear isod; a Sheol oddi tanodd – a’r cyfan yn cael ei gynnal gan golofnau enfawr yn nofio ar fôr diwaelod) dichon i hyn fod yn bosibl. Yn rhyfedd iawn, mae’n arferiad gennym o hyd wrth sôn am Dduw (hyd yn oed gan y pregethwr yn ei bulpud!) i bwyntio bys i fyny i’r awyr. At bwy yn union y cyfeiriwn? A’n gwybodaeth am ffurf y bydysawd erbyn hyn yn gywirach (a’n dyled yn fawr i arloeswyr megis Copernicus a Galileo, a’u safiad dewr yn erbyn eglwys a fynnai lynu’n ystyfnig wrth y gosmoleg draddodiadol, gyfeiliornus), mae’n amlwg nad yw’r hen syniadau confensiynol am Dduw yn gwneud y tro.

Yn ei chlasur, A History of God, y mae Karen Armstrong yn dadlau fod a wnelo Duw:
(i) “â dyfnder yn fwy nag uchder.” Fe gofiwn i Paul Tillich ddiffinio Duw fel ‘gwreiddyn bod’, ac y dylid meddwl amdano nid fel ‘bod’ ond fel bodolaeth ei hun. I Tillich, nid gwrthrych yw Duw, ond dyfnder bodolaeth ei hun.
(ii) “â’r dychymyg yn hytrach na dogma.” Yn ôl Armstrong, y dychymyg yw un o’r cyneddfau ysbrydol pwysicaf. Cymharer gosodiad Aled Jones Williams: “Telyneg yw duw, nid traethawd. Ffynhonnell crefydd yw’r dychymyg.” (Oerfel Gaeaf Duw, t. 32)
(iii) “â ffydd yn hytrach na phrawf.” Ofer yw ceisio prawf empiraidd am fodolaeth Duw. (“Ni welodd neb Dduw erioed”…) Nid yw credu yn Nuw yn gyfystyr â derbyn cyfres o fformiwlâu anffaeledig, ond yn hytrach ag ymrwymiad ac ymroddiad, tebyg i’r hyn a geir oddi mewn i’r cyfamod priodas.

Ceisia Dawkins, Dennet a Hitchens, a’u cydwrthgrefyddwyr, ein hargyhoeddi bod y cysyniad o Dduw nid yn unig yn gamarweiniol ond hefyd yn ddianghenraid, gan fod Darwiniaeth yn cynnig esboniad cyflawn o’r modd y datblygodd bywyd ar wyneb y blaned Daear – heb Dduw. Prin y gellir amau proses esblygiad (er gwaeth-af protest y creadyddion), ond o ystyried fod bywyd ei hun yn ffenomen mor syfrdanol; fod y bydysawd, o ran ei faint, ei fanylder a’i gymhlethdod, mor rhyfeddol; a’r ffaith ein bod yma o gwbl (pam fod rhywbeth yn hytrach na dim?) mae’n anodd iawn gwadu bodolaeth realiti llawer uwch na dyn. Ar ôl holi ynghylch Darwiniaeth, “In what sense does this principle explain the emergence of complex conscious life-forms from much simpler unconscious organisms?”, â Keith Ward yn ei flaen i ddadlau bod bodolaeth Crëwr yn ei gwneud hi’n llawer mwy tebygol fod un gell greiddiol wedi esblygu, ymhen amser, i mewn i fod dynol, moesol, cymhleth na phe na bai Crëwr yn bod (God, Chance and Necessity, t. 66). Yr anhawster a’n hwyneba, wrth gwrs, yw sut y gall iaith ddynol, feidrol, ffaeledig ddisgrifio’r hyn sy’n anfeidrol, y tu hwnt i amgyffrediad dyn? Dyma’r cwestiwn a drafodir yn ddeheuig ac yn feistrolgar gan John Macquarrie yn God-Talk.

2 Cymeriad Duw.

Ochr yn ochr â’r ddadl ynghylch bodolaeth Duw y mae cwestiwn cymeriad Duw. O gredu mewn Duw, pa fath o Dduw yw’r hwn y credir ynddo? Yn ôl Beirdd y Byd fe’i gwelir gan ryfelwyr ffwndamentalaidd y Dwyrain Canol yn nhermau duw dialgar, a fyn ymyrryd o blaid ei bobl etholedig er mwyn sicrhau buddugoliaeth iddynt ar faes y gad, a difa eu gelynion. Dyma’r duw na fu’n edifar ganddo weld boddi’r Eifftiaid yn nyfroedd y Môr Coch; a yrrodd allan “y Cananeeid, Hethiaid, Hefiaid, Peresiaid, Girgasiaid, Amoriaid a Jebusiaid” allan o wlad Canaan er mwyn i’r Hebreaid feddiannu’r tir (Josua 3: 10 – un o’r enghreifftiau cynharaf o lanhau ethnig); a roes orchymyn i lwyr ddinistrio’r Amaleciaid am iddynt rwystro’r Hebreaid ar eu taith i fyny o’r Aifft (1 Samuel 15: 2) – ac a ffromodd wrth Saul am iddo arbed Agag, brenin Amalec, ynghyd â “phopeth o werth” a berthynai i’w bobl . Dyma Arglwydd y Lluoedd, “yr Arglwydd cadarn mewn rhyfel” (24: 8), a’i fryd ar ddifetha’r anghyfiawn a’r pechadurus. Mae’n rhyfedd meddwl, o gofio am y cyffyrddiadau tyner a thadol a geir mewn cynifer o’r Salmau, y ceir ynddynt hefyd, mewn llawer man, ddisgrifiadau o Dduw sy’n ei ddarostwng i fod yn ddim mwy na theyrn didostur. Oni fyddwn yn gwingo wrth ddarllen adnodau clo Salm 137, lle mae’r awdur yn annog Duw Israel i ddial ar Fabilon am alltudio ei bobl, ac i gipio ei phlant a’u “dryllio yn erbyn y graig”?

Na fyddwn or-awyddus i feirniadau’r Iddew eithafol-genedlgarol, a’i Ysgrythurau, oherwydd y mae gan y Cristion hefyd le i edifarhau. Onid yw’r syniad am Iawn cosbol, a Duw (megis Shylock barus) yn mynnu bod ei Fab yn cael ei arteithio ar arw groes er mwyn bodloni amodau ei gyfiawnder, yn hollol wrthun a grotesque? Mae’n rhyfedd sut y byddwn yn dal i ganu gydag afiaith,”A’r Tad yn gwaeddu ‘Bodlon’/Yn yr Iawn”. A fyddwn yn ystyried ymhlygiadau yr hyn a genir? A beth am y modd y defnyddiodd Gwledydd Cred “dduw” ar hyd y canrifoedd (nid yw’r Croesgadau ond un enghraifft) er cyfiawnhau eu polisïau rhyfelgar, imperialaidd? Dyma ddyfynnu englyn arall – y tro hwn o waith Dafydd Wyn, Aberangell – a’r ymosodiad ar Irac yn gefndir amlwg iddo:

Duw, cariad yw
Ai gwir fod Duw sy’n gariad – wedi bod
I Bush yn ysgogiad
A’i annog i fynd i’r gad?
A yw’n siwr pwy sy’n siarad?

Wrth adolygu cyfrol Sam Harris, Letter to a Christian Nation: A Challenge to Faith, medd Rod Liddle: “No other developed nation can match America for her piety. away from the coasts God holds dominion – and He is not a terribly pleasant God, either, but one consumed with an obsessive vengeance and prone to acts of despotic violence”. Ysywaeth, nid yn America yn unig yr arddelir syniadau o’r fath.

Yn bersonol, wrth ystyried y ddau gwestiwn uchod, fe’m cynorthwyir yn fawr gan y tri diffiniad o Dduw a geir yn llên Ioan yn y Testament Newydd, sef:

3 Goleuni yw Duw.

Fel goleuni y mae’n ffynhonnell bywyd a daioni. Ac y mae goleuni yn symbol o’r dirgelwch a berthyn, yn anorfod, i’r duwdod.

4 Ysbryd yw Duw.

Felly, y mae sôn amdano mewn termau corfforol, ffisegol yn hollol gamarweiniol, e.e. y mae darlunio Iesu yn esgyn yn gorfforol i’r nef yn gysyniad abswrd. Oni ddywed y Beibl ei hun na fedr cig a gwaed etifeddu teyrnas nefoedd? Nid mewn ystyr gofodol y defnyddir y termau “esgyn” a “dyrchafu” yn y cyswllt hwn, ond mewn modd ansoddol, i ddynodi bod Iesu yn un â Duw. Mae’n bwysig cofio nad o’r nef y daeth corff Iesu yn wreiddiol, ond o groth Mair. Y Gair a ddaeth o’r nef, nid y corff.

5 Cariad yw Duw.

Dyma’r gosodiad sylfaenol, a chalon y datguddiad o Dduw yn
Iesu. Y mae pob gwedd arall ar ymwneud Duw â dynion – ei sancteiddrwydd, ei gyfiawnder, ei ofynion moesol a’i farn – yn deillio o’i gariad, a’i awydd i ddwyn dyn, yn wir y greadigaeth oll, i gymod ag ef ei hun. Sut, felly, y gall y Duw hwn, Duw a Thad ein Harglwydd Iesu sydd â’i gariad yn “anchwiliadwy” (yn ôl yr emynyddes Mary Owen), dynghedu yr un o’i blant i gosb dragwyddol, ac i fflamau uffern? Y ffaith amdani yw nad ydym, hyd yma, wedi dechrau amgyffred hyd a lled, uchder a dyfnder cariad Duw; yn wir, yr ydym ymhell o sylweddoli beth yw ymhlygiadau’r cariad hwn i fywyd dyn ar y ddaear, ac i’n hymwneud â’n gilydd fel unigolion ac fel cenhedloedd.

Y Duw hwn sydd â’i gariad hollgynhwysol yn amgylchynu’r holl fyd, yw’r unig Dduw sydd yn ddigon mawr i gyfarfod ag angen dyn heddiw. Dyma’r Duw newydd, nad yw mewn gwirionedd ond Duw fel ag y bu erioed, ond iddo gael ei gamddehongli yn drychinebus gan ddynion a chenhedloedd fel y’i gilydd yn ystod cwrs hanes. Dyma’r Duw – Duw cariad, gras, tosturi a chymod, y Duw dioddefus sy’n ei uniaethu ei hun yn llwyr â phoen a gwewyr y byd (onid dyma wir ystyr y Groes?) – y mae o’r pwys mwyaf ein bod yn ei ddarganfod o’r newydd yn ein dydd a’n hoes. Dyma Dduw fel y gwelwyd ef yn Iesu.

Desmond Davies

Llyfrau:
Karen Armstrong, A History of God (Vintage Books, London, 1999)
Karen Armstrong, The Battle for God (Harper Collins, London, 2001)
Francis S. Collins, The Language of God (free Press, London, 2006)
John Cornwell, Darwin’s Angel (Profile Books, London, 2007)
Richard Dawkins, The God Delusion (Bantam Press,London, 2006)

John Humphreys, In God We Doubt (Hodder & Stoughton, London, 2007)

John Macquarrie, God-Talk (SCM Press, London, 1967)

Alister McGrath, The Dawkins Delusion? (S.P.C.K. London, 2007)

Keith Ward, God, Chance and Necessity (Oneworld Publications, Oxford,
1996)
Robert Winston, The Story of God (Bantam Press, London,2005)

Y Beibl – Gair Duw?

Y BEIBL
Hei Gymro!Os wyf yn Gymro da rwy’n rhwym o barchu’r Beibl. Pam? Am ei fod wedi bod yn gyfrwng i sefydlu, cryfhau ac felly, diogelu fy iaith. Mae wedi rhoi safon gyfoethog i’m parabl ond, yn bwysicach fyth, mae wedi rhoi safon arbennig i’m bywyd ac i fywyd fy nghenedl. Roedd adnodau ar gof ein cenedl yn gymorth i roi trefn ar brofiadau a mynegiant i’r hyn oedd yn corddi yn yr enaid ac y maent yn dal i wneud hynny.Byd NewyddA oes lle i’r Beibl yng nghanol bywyd heddiw? Erbyn hyn mae nifer o ddisgyblaethau yn cystadlu am hawl i esbonio pwy y’m ni a beth yn y byd mawr yw bywyd. Mae ‘na esboniadau cymdeithasegol, seicolegol, biolegol ac yn y blaen, a’r cyfan yn ffitio’n dwt o dan y pennawd “gwyddonol”. Ond y mae poblogaeth y byd yn dal i bwyso’n drwm (yn ffodus neu’n anffodus) ar un neu arall o’r esboniadau diwinyddol a hynny efallai’n gymaint os nad yn fwy nag erioed. Felly, ai rhywbeth sy’n perthyn i hen hen hanes yw’r Beibl? Tybed?

Y Beibl a’n Hoes –

Mewn stryd o dai yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan mae pob tŷ’n cynrychioli cyfnod. Erbyn dod i’r tai sy’n cynrychioli’r ugeinfed ganrif does dim Beibl ynddynt. Mae’r Beibl wedi diflannu o’r tai hyn yn Sain Ffagan ond, nid dyma ddiwedd y stori, y mae hefyd wedi diflannu o lawer cylch arall.

Yr Ysgolion Sul

Onid ychydig iawn o blant sy’n eu mynychu a’r mwyafrif mawr o’r mynychwyr yn gadael eu rhengoedd pan fyddant wedi hen syrffedi ar dynnu lluniau a chanu caneuon plentynnaidd. Felly, y mae’n debygol fod y Beibl wedi diflannu o’n bröydd oherwydd bod yr ysgolion Sul wedi gwanychu.

Y Capel neu’r Eglwys

Y mae perygl nad oes fawr o ddyfnder yn ymwneud llawer o eglwysi a’u Beibl. Ar y cyfan, un oedfa yw’r nod a honno’n oedfa fer a chyfansawdd. Rhaid gwasgu popeth i mewn i’r awr honno sydd yn nwylo un person ac yn debyg o ddelio ag un adnod yn unig a hynny’n aml mewn ffordd digon ffansïol. Nid oes o fewn y drefn fawr o amser i esboniadaeth gyson. Wedyn, y mae perygl fod yr ychydig eglwysi sy’n sicrhau lle ac amser i astudiaeth wirioneddol yn darllen eu Beibl o fewn canllawiau athrawiaethol cyfyng gan ddarllen i mewn i’r Beibl eu sustem feddyliol a hynny yn fwy nag astudio’r Beibl ei hun.

Erbyn hyn does ond ychydig o drefn hyd yn oed o fewn yr eglwysi i astudiaeth fanwl o’r Beibl o fewn ei gefndir gan ddilyn datblygiad y llenyddiaeth a’i syniadau. Bu hyn yn achos trafferth i lawer o’r hen athrawon ysgrythur (nad ydynt yn bod bellach yn ein hysgolion) wrth ymwneud â rhai o blant ffyddlona’r eglwysi oedd yn dweud rhywbeth fel “glywais i ddim am y nonsens yma yn yr eglwys/capel rydw i’n mynychu”.

Yr Ysgolion

Gwelwyd newid mawr ers saithdegau’r ugeinfed ganrif yn ymwneud ysgol â’r Beibl. Mae crefydd, sef, maes astudio’r ysgolion erbyn hyn yn dipyn lletach na’r Beibl ac felly, ar y gwahanol lefelau mae’r sylw arbenigol a roddwyd i’r Beibl hyd at chwarter canrif yn ôl wedi teneuo’n fawr iawn. Mae’r Beibl felly, i raddau helaeth wedi diflannu o’r ysgolion hefyd.

Yr Her i’r Eglwysi

Gwaith yr eglwysi yn y pen draw yw esbonio’r Beibl. Os nad ydynt yn ymwneud â’u gwaith o ddifri gyda’u haelodau, ac os na fydd iddynt allu sicrhau trefn gadarn i gyflwyno’r Beibl i’w cymunedau, nid oes dim i’w ddisgwyl ond cynnydd mewn anwybodaeth o’r Beibl yn ein gwlad.

Y Beibl a’n Hoes – Problem!

Peth peryglus yw barn wedi ei seilio ar anwybodaeth neu hyd yn oed ar wybodaeth arwynebol. Os yw’r eglwys am esgeuluso’r wybodaeth sydd wedi ac yn dod i’r wyneb wrth astudio’r Beibl ac os nad yw hi’n alluog ac yn barod i ddygymod a gwybodaeth gyfoes, mae’n peryglu ei bywyd ei hunan ac yn tlodi’r gymdeithas ehangach. Mae’n rhaid ystyried yn agored a manwl yr hyn sy’n dod i’r wyneb. Beth yw natur yr ysgrifennu? Beth oedd amcanion yr awduron a’r golygyddion? Beth yw’r dulliau llenyddol sydd wedi eu mabwysiadu wrth ysgrifennu? Nid yw un hen ddull o astudio’r Beibl yn abl i drin y cwestiynau mawr. Y dull hwn yw astudio fesul adnod gan chwilio am adnod i brofi pwnc. Roedd y dull yma (ac nid yw’n farw o hyd) yn magu gwybodaeth o adnodau unigol heb fod iddynt gyd-destun na gwerthfawrogiad o brofiad creiddiol yr awduron, e.e. cam ddehongli “llygad am lygad” er mwyn cyfiawnhau safbwynt wleidyddol. Gall hyn greu anffyddwyr, ond yn fwy na hynny, mae’n cynnig arf i alluogi person i wawdio’r cyfan. Mae’r neges a’r profiad sydd mewn darn o dan sylw yn mynd i’w golli ac y mae modd i bawb wneud eu detholiad cyfyng eu hunain. Faint o enwadau a sectau sy’n bodoli ar sail adnod neu ddwy neu dair? Dyma wrth gwrs yw’r perygl o droi adnod yn athrawiaeth a chwilio am awdurdod y Beibl yn fwy na cheisio dod o hyd i ysbrydoliaeth y Beibl.

O ganlyniad i hyn daeth llyfr o’r wasg – “What They Don’t Tell You – A Survivor’s Guide to Biblical Studies”. Mae’r llyfr hwn yn ceisio helpu person sy’n teimlo’n ddryslyd oherwydd ei fod yn darllen am bethau na soniodd yr eglwysi amdanynt. Dyma hefyd gwyn un o ddiwinyddion pennaf ein hoes. “Y mae lleygwyr ar y cyfan yn anymwybodol fod astudio ysgolheigaidd manwl wedi bod ar waith ym maes dadansoddi beiblaidd….cynrychiola hyn weithgarwch cywrain a dyfal dros dair canrif. Mae’r gwaith hwn wedi dringo pinaclau uchaf dysg. Y Beibl o bell ffordd yw’r llyfr a astudiwyd fwya o holl gynhyrchion llenyddol mwya’r byd.” (Hans Kung – The Religious Situation of Our Time).

Her fawr i arweinwyr eglwysig heddiw yw pontio rhwng yr hyn y mae Kung yn sôn amdano a’r eglwysi ar lawr gwlad.

Y Beibl o Dan Chwyddwydr Dysg

Bu astudio ar y Beibl a chodwyd cwestiwn ar ôl cwestiwn. Beth yw natur llenyddol rhyw ddarn ohono? Chwedl? Cân? Dameg? Cyflwyno safbwynt? Cyflwyno profiad? Stori arwrol? Molawd? Llythyr? Anogaeth? Wedyn mae cwestiynau fel sut oedd darn yn berthnasol o fewn cyfnod yr ysgrifennu a’r golygu? Sut casglwyd y darnau ynghyd? Beth oedd yr atyniad o’u cadw a’u trosglwyddo? Beth yw’r elfennau a’r haenau gwahanol sy’n rhan o’r gwaith fel y mae erbyn hyn? Sut ddaeth yr Hen Destament i’w ffurf presennol? Sut cyfansoddwyd yr efengylau a beth yw perthynas yr efengylau â’i gilydd? Eto, gallwn ofyn beth yw’r haenau a’r ffynonellau sydd wedi dod ynghyd i sicrhau bodolaeth llyfrau’r Beibl fel y ma nhw heddiw. Sut oedd y “llyfrau” ‘n berthnasol i fywyd y genedl neu’r eglwys? Beth yw arweiniad a her y llenyddiaeth i ni heddiw? Mae’n ddiddorol dilyn astudiaeth o seicoleg rhyw awdur a gweld olion tyfiant a datblygiad. Mae rhai yn credu mai ffordd i golli ffydd yw taclo’r cwestiynau yma. Ar yr un pryd mae modd i berson arall fethu a dod i ffydd am nad ydyw yn cael ateb i’r cwestiynau yma. Mae rhoi i’r Beibl deitl fel “Gair Duw” yn gallu creu caethiwed, ofn ac euogrwydd pan fydd rhywun yn bwrw ati i astudio a manylu. Yn aml bydd anfodlonrwydd wrth dderbyn stori fel stori, â’i esbonio fel stori. Bydd hyn yn rhwystr i alluogi rhywun i weld gwerth y stori ac yn codi pob math o gwestiynau dianghenraid. Mae hyn i’w weld pan fydd rhywun yn ei chael yn anodd i dderbyn stori fel stori gan ddweud “felly, dim ond stori yw hi”. Onid trwy stori gyflwynodd Iesu ran helaeth o’i ddysgeidiaeth? Felly, pwy feiddia ddweud “dim ond stori yw hi”?

Yn reddfol mae modd inni fyw yn glyd o fewn swigen emosiynol gan wrthod yn chwerw neu bod yn ddirmygus o unrhyw wybodaeth sy’n anghyfleus i safbwyntiau a goleddwn. Y mae’r reddf geidwadol yma yn dod yn rhwydd i’r mwyafrif mawr ym mhob oes. Ceisiodd Eglwys Rhufain roi stop ar ddatblygiadau ym myd astudiaeth feiblaidd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Roedd yr astudio’n herio traddodiad yr eglwys. Ar y llaw arall roedd y byd Protestannaidd wedi torri’n rhydd o awdurdod y Pab ac wedi pwyso’n drwm felly ar awdurdod y Beibl. Erbyn troad yr ugeinfed ganrif roedd pob hen awdurdod yn cael eu herio, ac felly, teimlodd rhai bod yr astudio’n herio awdurdod y Beibl. Yn y cyfnod hwn, cyhoeddwyd “The Fundamentals” gan garfan Brotestannaidd. Sefydlwyd mai un o’r hanfodion oedd dwyfol ysbrydoliaeth yr ysgrythurau sy’n ddatguddiad llythrennol o Air Duw. Roedd hi’n gyfnod i roi croeso i gludwch y groth yn hytrach na byw’n beryglus ynghanol stormydd y byd mawr bygythiol. Mae anwybyddu a gwrthod datblygiadau’r oes fel y gwnaeth carfannau o’r eglwys yn costio’n ddrud iawn heddiw.

Y Beibl fel Ffenest

Dilynwn ddau ddiwinydd sy’n defnyddio’r ddelwedd o’r Beibl fel ffenest. Yn ôl un diwinydd dylanwadol (Barth) mae’r ysgrythurau fel ffenest, a darllen y Beibl fel edrych drwy ffenest ar ryw bobl yn y stryd islaw. Maen nhw’n cysgodi eu llygaid gyda’u dwylo tra’n edrych i’r entrychion. Maen nhw’n edrych ar rywbeth sy’n wirioneddol llachar ond sydd allan o olwg y person sydd tu fewn i’r ffenest. Mae darllen y Beibl fel ceisio uniaethu gyda’r hyn sy’n digwydd a chael rhyw ran o’u profiad.

Yn ôl Frederick Buechner (awdur Americanaidd cyfoes) mae astudio’r Beibl fel edrych ar ffenest. Wrth edrych drwyddi byddwn efallai yn gweld fod baw arni a rhyw grac bach lle tarodd ffrisbi rhyw blentyn yn ei herbyn. Os edrychwn drwy’r ffenest mae modd gweld y byd sydd y tu hwnt iddi. Dywed Buechner fod darllen y Beibl yn peri i ddyfnder eneidiau’r gorffennol lefaru wrth ddyfnder ein bodolaeth ni heddiw. Yn y dyfnder hwn gallwn glywed lleferydd y Bod Mawr ac i Gristnogion, y mae modd gweld y Tad yn y cyflwyniad sydd gennym o’r Mab. Er hynny, yn ôl yr Apostol Paul cawn ddarlun arall sy’n sôn am ryw wydr pan ddywed “yn awr gweld mewn drych yr ydym, a hynny’n aneglur”.

Gwefr y Beibl yw bod themâu mawr ein bodolaeth yn cael eu portreadu ac yn taro nodyn wrth inni geisio deall, synhwyro a theimlo ingoedd a gorfoledd ein bodolaeth.

D. Eirian Rees

Llyfrau
Karen Armstrong The Bible, A Biography (Atlantic Books)

Maes Trafodaeth
A oes gwahaniaeth rhwng trafod y Beibl yn llenyddol yn hytrach na’n llythrennol?
Ble mae’r ffin rhwng gwerthfawrogi’r Beibl ag ofergoeliaeth?
Does dim o’r fath beth a ffwndamentalwyr llythrennol mewn gwirionedd. Onid yw pawb yn dewis a dethol rhyw ddarnau gan sefydlu eu prif athrawiaethau nhw ar eu darn nhw o’r jig-so?
Ydy stori Jona’n wir? Onid yw aros ym mol du y pysgodyn mawr yn cuddio’r weledigaeth o Dduw sy’n cael ei bortreadu?
Nid llyfr ar gyfer plant yw’r Beibl.
Beth yw ystyr darllen y Beibl trwy lygaid Iesu?
Sut gall ein heglwysi fwrw ati i astudio’r Beibl mewn ffordd wnaiff sicrhau ei fod yn berthnasol i ni heddiw?

Adolygiad Re-enchanting Christianity

Yn ei gyfrol Re-enchanting Christianity ( a lansiwyd yn Greenbelt ym mis Awst eleni ) y mae awdur y gyfrol gynharach Post Evanglelical (1995) yn defnyddio’r geiriau ‘progressive orthodoxy’ wrth geisio disgrifio ei bererindod a’i ffydd. Mae Dave Tomlinson, a fu yn arweinydd eglwys wahanol yr Holy Joe mewn tafarn yn Llundain, bellach yn ficer Eglwys Sant Luc yn Holloway. Mae’n un o arweinyddion – gyda rhai fel John Drane a Marcus Borg – yr eglwys sy’n datblygu.(Emerging church yw’r term Saesneg ) Er ei fod yn ddiwinydd praff, cyfrol ‘boblogaidd’ yw hon, ond y mae’n codi nifer fawr o bethau sydd angen eu trafod ac yn wir, sydd yn rhaid eu trafod. Mae trafodaeth o’r fath yn arwydd o Gristnogaeth fywiog a chreadigol.

Fe hoffwn nodi un peth, ac un peth yn unig, sydd yn allweddol yn y gyfrol ac yn allweddol i’r meddwl Cristnogol. Nid adolygiad yw’r llith yma felly, ond ysgogiad i ddarllen ac i drafod ac i fynd ar wefan yr awdur www.davetomlinson.co.uk

Y mae Dave Tomlinson yn pwysleisio na all yr Efengyl gael ei chyflwyno ar wahân i’w pherthynas â’r diwylliant cyfoes – a bod hyn wedi bod yn wir erioed. Mae’n dyfynnu o’r ffilm Big Fat Greek Wedding -‘ Don’t let the past dictate who you are, but let it be part of who you will become’. Neu, os byddai dyfyniad gan Gaplan o Brifysgol Caergrawnt yn fwy derbyniol : ‘We have to change to stay the same’. Tra mae’r traddodiad ‘Efengylaidd’ (fe ddefnyddiwn y label am funud, ond nid yw Tomlinson am ei ddefnyddio gan ei fod yn derm sydd bellach yn cynnwys ystod eang o Gristnogion) yn rhoi pwyslais mawr ar yr ‘Efengyl Feiblaidd ddigyfnewid’ mae’n hawdd anghofio mai yn y Beibl ei hun – yn arbennig yn y Testament Newydd – ac ar hyd y canrifoedd y mae’r Ffydd Gristnogol (Christian Orthodoxy yw term Tomlinson ) wedi bod yn sgwrs, dialog, dadl hyd yn oed, rhwng y gorffennol a’r presennol, rhwng traddodiad a phrofiad, rhwng yr Ysgrythur a diwylliant. Ni fu Cristnogaeth erioed yn gorff o ddiwinyddiaeth terfynol.

Dyna pam y mae pob cenhedlaeth a phob rhan o’r traddodiad Cristnogol wedi bod yn broses o ddod at yr Ysgrythur – i ddehongli, i wrando, i ddysgu. Yr unig galon ddigyfnewid a’r unig wir, uniongrededd, yw ein bod yn dechrau – ac yn gorffen – gyda Iesu. Y mae hynny yn uniongred ac yn radical ar yr un pryd. A dyma’r ‘progressive orthodoxy’ i Tomlinson. Y mae hyn yn golygu, er enghraifft, fod mwy o lawer o ddehongliadau o farwolaeth Crist yn yr Ysgrythur ( ac felly yn rhan o’r traddodiad hefyd ) na’r pwyslais ar yr Iawn Ddirprwyol sydd yn gonglfaen y dehongliad efengylaidd, ond sydd bellach yn cael ei gwestiynu gan rhai fel Steve Chalke yn The Lost Message of Jesus. Yn y ddeialog barhaus â’r gorffennol y mae pob pwyslais yn agored i fod yn Air Duw yn ein cyfnod.

Y mae derbyn hyn yn agor drysau’r Ysgrythur i drysorau a gwirioneddau’r Deyrnas nad ydym wedi eu gwybod eto. A fyddai unrhyw un yn mentro dweud nad oes gan Dduw fwy o wirioneddau eto i’w ddatguddio i ni ? Fe fyddai credu a gweithredu ar hynny yn ein gwneud yn fwy gwylaidd ac yn fwy parod i wrando ar leisiau, tystiolaeth a phrofiadau pobl wahanol i ni o fewn y teulu Cristnogol yn ogystal ag o grefyddau eraill.

Pryderi Llwyd Jones

Re-enchanting Christianity ( Faith in an emerging culture ) Dave Tomlinson. Canterbury Press. £9.99