Adolygiad Re-enchanting Christianity

Yn ei gyfrol Re-enchanting Christianity ( a lansiwyd yn Greenbelt ym mis Awst eleni ) y mae awdur y gyfrol gynharach Post Evanglelical (1995) yn defnyddio’r geiriau ‘progressive orthodoxy’ wrth geisio disgrifio ei bererindod a’i ffydd. Mae Dave Tomlinson, a fu yn arweinydd eglwys wahanol yr Holy Joe mewn tafarn yn Llundain, bellach yn ficer Eglwys Sant Luc yn Holloway. Mae’n un o arweinyddion – gyda rhai fel John Drane a Marcus Borg – yr eglwys sy’n datblygu.(Emerging church yw’r term Saesneg ) Er ei fod yn ddiwinydd praff, cyfrol ‘boblogaidd’ yw hon, ond y mae’n codi nifer fawr o bethau sydd angen eu trafod ac yn wir, sydd yn rhaid eu trafod. Mae trafodaeth o’r fath yn arwydd o Gristnogaeth fywiog a chreadigol.

Fe hoffwn nodi un peth, ac un peth yn unig, sydd yn allweddol yn y gyfrol ac yn allweddol i’r meddwl Cristnogol. Nid adolygiad yw’r llith yma felly, ond ysgogiad i ddarllen ac i drafod ac i fynd ar wefan yr awdur www.davetomlinson.co.uk

Y mae Dave Tomlinson yn pwysleisio na all yr Efengyl gael ei chyflwyno ar wahân i’w pherthynas â’r diwylliant cyfoes – a bod hyn wedi bod yn wir erioed. Mae’n dyfynnu o’r ffilm Big Fat Greek Wedding -‘ Don’t let the past dictate who you are, but let it be part of who you will become’. Neu, os byddai dyfyniad gan Gaplan o Brifysgol Caergrawnt yn fwy derbyniol : ‘We have to change to stay the same’. Tra mae’r traddodiad ‘Efengylaidd’ (fe ddefnyddiwn y label am funud, ond nid yw Tomlinson am ei ddefnyddio gan ei fod yn derm sydd bellach yn cynnwys ystod eang o Gristnogion) yn rhoi pwyslais mawr ar yr ‘Efengyl Feiblaidd ddigyfnewid’ mae’n hawdd anghofio mai yn y Beibl ei hun – yn arbennig yn y Testament Newydd – ac ar hyd y canrifoedd y mae’r Ffydd Gristnogol (Christian Orthodoxy yw term Tomlinson ) wedi bod yn sgwrs, dialog, dadl hyd yn oed, rhwng y gorffennol a’r presennol, rhwng traddodiad a phrofiad, rhwng yr Ysgrythur a diwylliant. Ni fu Cristnogaeth erioed yn gorff o ddiwinyddiaeth terfynol.

Dyna pam y mae pob cenhedlaeth a phob rhan o’r traddodiad Cristnogol wedi bod yn broses o ddod at yr Ysgrythur – i ddehongli, i wrando, i ddysgu. Yr unig galon ddigyfnewid a’r unig wir, uniongrededd, yw ein bod yn dechrau – ac yn gorffen – gyda Iesu. Y mae hynny yn uniongred ac yn radical ar yr un pryd. A dyma’r ‘progressive orthodoxy’ i Tomlinson. Y mae hyn yn golygu, er enghraifft, fod mwy o lawer o ddehongliadau o farwolaeth Crist yn yr Ysgrythur ( ac felly yn rhan o’r traddodiad hefyd ) na’r pwyslais ar yr Iawn Ddirprwyol sydd yn gonglfaen y dehongliad efengylaidd, ond sydd bellach yn cael ei gwestiynu gan rhai fel Steve Chalke yn The Lost Message of Jesus. Yn y ddeialog barhaus â’r gorffennol y mae pob pwyslais yn agored i fod yn Air Duw yn ein cyfnod.

Y mae derbyn hyn yn agor drysau’r Ysgrythur i drysorau a gwirioneddau’r Deyrnas nad ydym wedi eu gwybod eto. A fyddai unrhyw un yn mentro dweud nad oes gan Dduw fwy o wirioneddau eto i’w ddatguddio i ni ? Fe fyddai credu a gweithredu ar hynny yn ein gwneud yn fwy gwylaidd ac yn fwy parod i wrando ar leisiau, tystiolaeth a phrofiadau pobl wahanol i ni o fewn y teulu Cristnogol yn ogystal ag o grefyddau eraill.

Pryderi Llwyd Jones

Re-enchanting Christianity ( Faith in an emerging culture ) Dave Tomlinson. Canterbury Press. £9.99