Archifau Categori: E-Fwletin

E-fwletin Wythnosol

DADFYTHU’R ŴYL

E-Fwletin Rhagfyr 17eg, 2012

DADFYTHU’R ŴYL
Y mae’n hen arferiad erbyn hyn mewn llawer o’n heglwysi i wahodd Siôn Corn i barti Nadolig y plant, er, yn ôl pob sôn, aeth yn fwy o dasg, bellach, i sicrhau gwirfoddolwyr i wisgo’r clogyn coch a’r farf wen. Gall hon fod yn weithred ddigon diniwed, ac nid yw’n hawdd penderfynu bob amser pwy sy’n cael y mwyaf o fwynhad, ai’r plant, ai’r rhieni!

Mae’n debyg erbyn hyn, mewn rhai achosion, fod Siôn Corn yn cael croeso nid yn gymaint i’r parti yn y festri ond hefyd i fod â rhan yn y gwasanaeth Nadolig yn y capel.
Yn dilyn y cyflwyniad o ddrama’r geni gan blant yr ysgol Sul daw cnoc ar y drws a bydd Santa’n araf gerdded i’r sedd fawr i gyfarch y gynulleidfa ac i ddosbarthu anrhegion. Dyma lle mae angen bod yn wyliadwrus, oherwydd o ganlyniad i hyn bydd y plentyn, yn anorfod yn ei feddwl ei hun, yn cysylltu Siôn Corn â baban Bethlehem; yna, wedi iddo dyfu’n hŷn, a phan fydd yn gwawrio arno nad yw’r gŵr hael o Wlad y Lapiaid yn ddim ond ffrwyth dychymyg, bydd perygl mawr iddo ddod i’r un dyfarniad yn hollol ynghylch Iesu o Nasareth. Mae’n holl bwysig, yn enwedig gan fod meddwl plentyn yn rhywbeth mor agored â derbyngar, ein bod yn gwahaniaethu rhwng ffug a ffaith, rhag i’r cyfan fynd yn un gybolfa ddryslyd ym mhrofiad yr ifanc.

Ond arhoswn foment. Beth am yr elfennau mytholegol sydd yn adroddiadau Mathew a Luc o’r geni? Oni ddaw amser yn natblygiad y plentyn pan fydd yn holi ai gwir yr hanes am eni (neu, yn hytrach, genhedlu) annormal, am fodau nefol yn ymddangos uwchben meysydd Bethlehem, am seren symudol yn cyfeirio gwŷr doeth? Deuwn yn ôl at neges ganolog y Nadolig. Ganwyd Ceidwad dyn; “daeth Duwdod mewn baban i’r byd”; daeth Tywysog Tangnefedd i “oedfa ein hadfyd”. Er mwyn egluro fod y baban hwn yn rhywun unigryw a thra arbennig, yr hyn a wna awduron efengylau Mathew a Luc, yn unol â chonfensiynau llenyddol yr oes, yw gwisgo ei ddyfodiad i’r byd mewn symbolaeth ddramatig, ac yn fwy na dim, esbonio fod hyn oll yn cyflawni rhai o broffwydoliaethau allweddol yr Hen Destament. Rhaid oedd i’r geni “ddigwydd” ym Methlehem (tref Dafydd: mae’n fwy tebygol mai yn Nasareth y ganed Iesu) er mwyn portreadu Iesu fel ail Ddafydd, y Meseia hir-ddisgwyliedig. Dyfais oedd y “geni gwyrthiol” i danlinellu’r ffaith y deuai Iesu “oddi uchod” ac “o Dduw”. Daeth “doethion o’r dwyrain” gan fod hynny’n gwireddu disgwyliadau Eseia 60 a Salm 72: 8-11. Cynhwyswyd y cyfeiriad at ladd y plant gan fod arbed y baban yn adleisio’r waredigaeth a ddaeth i deuluoedd yr Iddewon adeg lladd y cyntaf-anedig yn yr Aifft (Exodus 12). Diben trefnu i Joseff a Mair gymryd yr un bach a dianc i’r Aifft, a dychwelyd oddi yno i Nasareth yn dilyn marwolaeth Herod, oedd er mwyn datgan mai swyddogaeth Iesu fyddai arwain ail Exodus, nid o’r Aifft y tro hwn, ond o gaethiwed drygioni a phechod i ryddid meibion Duw. A beth am yr angylion? Cofiwn mai ystyr gwreiddiol y gair angelos yw negesydd – negesydd sydd â chenadwri dyngedfennol bwysig i’w chyhoeddi, neges, fel arfer (ac y mae’r neges, bob amser, yn bwysicach na’r cyfrwng), oddi wrth Dduw ei hun. Nid oes raid i angel fod mewn gwisg wen ag iddi adenydd a choron o dinsel!

Mae’n bwysig gwahaniaethau rhwng ffydd a ffiloreg, rhwng gwir a gau, rhwng y digwyddiad ei hunan a’r symbolau a ddefnyddir i gyfleu arwyddocâd y digwyddiad. Mae’r symbolaeth sy’n gysylltiedig â’r Nadolig yn brydferth ac yn gofiadwy ond y mae’n ofynnol inni ddadfythu’r ŵyl, a chanolbwyntio ar y neges sy’n gorwedd y tu i’r myth, neges sy’n ein herio heddiw i fyw mewn cyfiawnder a chymod a heddwch:
“Gogoniant yn y goruchaf i Dduw,
ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith dynion sydd wrth ei fodd.”

Efallai bydd rhai yn anghytuno â chynnwys y neges hon. Gwerth gwefan Cristnogaeth 21 yw rhoi cyfle i bobl ddatgan safbwyntiau gwahanol mewn ysbryd cynhwysol. Croeso i chi ymateb trwy fynd i www.cristnogaeth21.org a dewis y botwm “Bwrdd Clebran” Cofiwch y bydd yn rhaid i chi gofrestru cyn medru postio ymateb. Rydym hefyd yn Trydar erbyn hyn – @Cristnogaeth21

Fydd dim E-fwletin dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd – cewch y neges nesaf ar Ionawr y 7fed. Tan hynny, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda, a diolch i bawb am eu cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn.

16/12/2012

Anghytuno’n Gyhoeddus

E-Fwletin Rhagfyr 10fed, 2012

Anghytuno’n GyhoeddusMae Giles Fraser ( y ‘ffeirad ymddiswyddodd o St Paul’s adeg y protestiadau yn erbyn y banciau) yn ysgrifennu’n ffraeth a bywiog( ac o dro i dro yn rhoi ei droed ynddi). Roedd e’n sôn yn ddiweddar am yr anhawster y mae Cristnogion yn ei gael ynglyn â dadlau’n gyhoeddus. Mae gwleidyddion, medde fe, yn dweud pethau cas iawn am ei gilydd yn gyhoeddus ond yn aml yn eitha mêts yn breifat ( Dafydd Wigley a John Major yn enghraifft ddifyr). Ond, meddai Fraser, i’r gwrthwyneb y mae hi ym myd crefydd. Bydd Cristnogion yn dweud pethau cas am ei gilydd yn breifat ond yn gwisgo clogyn melfedaidd o gwrteisi rhagrithiol pan mae’r byd yn gwrando. Yr oedd dadl eglwys Loegr am ordeinio gwragedd yn esgobion yn enghraifft glasurol. ‘Roedd pethau’n boleit iawn ar y wyneb, ond yn chwerw yn breifat. (Onid oedd y gwragedd ifanc neis-neis sy’n perthyn i Reform ac yn ddarostyngedig i’w gwŷr yn mynd yn erbyn trefn Duw trwy hyd yn oed fod yn aelodau o’r Synod?)Mae’r rhwyg ceidwadol/ rhyddfrydol yn digwydd ar draws y crefyddau, nid yn unig yn y byd Cristnogol. Ymhlith Cristnogion nid yw’n cyfateb i’r gwahaniaethau a esgorodd ar y gwahanol enwadau yn y lle cyntaf. Heddiw mae’r gair ‘Beiblaidd’ yn cael ei fachu gan y rhai fachodd y gair ‘efengylaidd’, pobl sy’ ddim fel petaen ‘nhw eisiau edrych ar gefndir hanesyddol y geiriau o gwbl. Ac yn sicr ‘dydyn nhw ddim yn gwerthfawrogi trosiad. Ar yr ochr arall mae na bobl sy’n cymeryd gwybodaeth wyddonol, fiolegol, ddaearyddol o ddifrif, ond eisiau ( i wahanol raddau) dal eu gafael a gwneud synnwyr o’r Efengyl a thraddodiadau’r ffydd. Rhagorfraint y Mudiad Eciwmenaidd oedd creu’r posibilrwydd i’r fath beth ddigwydd. Ond dywed y ddwy ochr eu bod eisiau dilyn Iesu.

Mewn sawl cyfundrefn eglwysig y mae ‘llwyddiant’ y mudiadau ceidwadol efengylaidd trwy eu hyder a’u hegni wedi creu cynulleidfaoedd brwd. (I bobl o’r tu faes mae ’na anaeddfedrwydd yn eu ffordd o osgoi trafodaeth). Mae’r rheini wedi ymroi i wleidydda ac ennill grym ar bwyllgorau dylanwadol ac mewn swyddi allweddol. Efallai mai taw piau hi!

Gyda hynna i gyd yn corddi yn fy meddwl a gwybod sut mae pethau y tu mewn i eglwysi a’r enwadau yng Nghymru, beth wnawn ni o un o themau heriol yr Adfent i “Baratoi ffordd yr Arglwydd” ac i unioni’n ffyrdd? Ar Ail Sul yr Adfent, Ioan Fedyddiwr yw’r arwr ac eleni wedi ei gysylltu â geiriau Paul am yr angen “i wybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg a gwybod beth sydd orau”. Mae’n ymadrodd a ddefnyddir dair gwaith, ac mae’n echel i’w feddwl am bynciau moesol. Yn yr Epistol ar y Rhufeiniaid y mae’n haeru bod ein meddwl ni yn llygredig, yn bwdwr, ac na fedrwn ni ddim dirnad y gwahaniaeth rhwng da a drwg am nad ydyn ni’n anrhydeddu Duw gyntaf. Ein hangen ni felly yw rhodd gras a’r wyrth o fedru caru’n gilydd fydd yn ein galluogi i newid y meddwl llygredig i feddwl wedi ei adnewyddu. Dyma her y tymor yma, tymor yn gorlifo o fateroliaeth a sentimentaliaeth y Nadolig cyfoes.

Yn y bôn, neges Ioan yw Dihunwch a newidiwch eich ffordd. Newidiwch eich ymddygiad i fod yn onest, a goddefgar, heb wyrdroi pethau er eich mantais eich hun. Mae’n neges hawdd iawn ei chyfeirio at y bancwyr a’r cyfalafwyr a’r bobl fawr gyfoethog. Ond cwestiwn y bobl i Ioan Fedyddiwr oedd “Beth wnawn ni?”. Dysgu caru’n gilydd meddai Paul, a hynny ar batrwm Iesu fuodd byw gyda chriw o ddisgyblion oedd yn anghytuno’n chwyrn am lawer o bethau. Ac hyd yn oed ar ôl yr atgyfodiad a rhodd yr Ysbryd Glân mae nhw’n dal i anghytuno. Fe wyddai Iesu’r gost o fyw gyda gelyn a golchi ei draed. Dyna’r esiampl a roddir i ni, esiampl y gofynnir – gorchmynnir i ni ei dynwared. Cerwch eich gilydd, ddywedodd Iesu, ac nid cytunwch â’ch gilydd. Wela’i ddim llawer o siâp gwneud y naill na’r llall ar fawr neb ohonom, ac mae e’n gwneud i mi deimlo’n fach iawn. Mae hynny falle, yn lle da i ddechre, yn ddrws wedi ei agor o’n blaen, yn llusern yn goleuo ôl traed o’n blaen ar y llwybr.

Mae croeso i chi ymateb i’r E-Fwletin trwy adael neges ar y Bwrdd Clebran. Gyda llaw, os gwyddoch chi am unrhyw un fyddai’n hoffi derbyn yr E-Fwletin, rhowch wybod i ni.

10/12/2012

“LLANAST”

“Llanast” yw teitl cyflwyniad diweddaraf Cwmni Theatr Bara Caws; cyfieithad Gareth Miles o “Le Dieu du Carnage” gan Yasmina Keza. Ynddi mae dau bâr o rieni yn cwrdd i drafod ymddygiad eu plant anystywallt – mae plentyn un ohonynt wedi brifo plentyn y llall mewn parc. Mae’r cyfarfod yn dechrau’n ddigon call, a’r pedwar yn ddigon bonheddig, ond wrth i’r trafod fynd yn ei flaen mae ymddygiad y pedwar yn mynd yn fwy ac yn fwy plentynaidd, a diolch i botel o Benderyn, daw’r cyfarfyddiad i ben mewn anhrefn llwyr – llanast!
Dywed y broliant mai ceisio dadlenni ac archwilio’r bwlch rhwng ein hunaniaeth go iawn a’n wyneb cyhoeddus yw bwriad yr awdur. Yn sgil hynny mae’r ddrama’n awgrymu – os nad yn amlygu – y canlyniadau gwahanol sydd yna o weithredu yn ôl gwerthoedd materol ar y naill law a gwerthoedd ysbrydol ar y llaw arall.
Canlyniadau’r ochr faterol gawn ni yn y ddrama gydag agweddau hunanol a hunangyfiawn y cymeriadau i gyd yn eu tro yn dod i’r golwg. Fel yr awgryma teitl y ddrama wreiddiol, dyma werthoedd Duw llanast (Dieu du Carnage), a dim ond llanast y gellir ei ddisgwyl wrth fyw yn ôl y gwerthoedd hynny.
Byddai’n ddiddorol gwybod pam bod Gareth Miles heb gynnwys y cyfeiriad at Dduw yn nheitl y cyfieithad Cymraeg. Oherwydd gyda ‘Duw’ yn y teitl, fel mae yn y gwreiddiol, rwy’n teimlo bod y ddrama’n mynd i ddimensiwn ychydig yn wahanol. O ddangos beth yw canlyniadau byw yn ôl gwerthoedd materol Duw Llanast, mae’r dramodydd mewn rhyw ffordd yn cyferbynnu hynny â’r canlyniadau gwaraidd a ddylai ddeillio o fyw yn ôl gwerthoedd ysbrydol.
Daw hyn a ni (credwch hynny neu beidio!) at yr Adfent – gyda’i bwyslais nid yn unig ar ddyfodiad Duw i’r byd yn Iesu Grist, ond hefyd y syniad o ail-ddyfodiad. Mae’r ddysgeidiaeth am yr ail-ddyfodiad yn un y mae llawer ohonom yn ei chael yn anodd ei choleddu. Y theori mae’n debyg yw bod dynoliaeth yn mynd i fethu byw gyda’i gilydd mewn cymod a chariad, ac felly bod yn rhaid i Iesu Grist ddod eto i’r byd “ar gymylau’r nef” i ddidoli’r da a’r drwg, cael ‘madael â’r drwg i gosb tragwyddol tra bo’r da’n cael byw yn Nheyrnas Dduw ar y ddaear am byth.
Yn hytrach na derbyn y diweddglo ffantasïol yna, (sydd o bosib yn fwy addas i ffilm sci-fi nag i’r Testamrent Newydd) mae’n haws gen i gredu mai’r dewis a gyflwynir inni gan y dramodydd sy’n ein wynebu fel dynoliaeth. Rhaid byw – neu farw – gyda chanlyniadau ein gweithredoedd a’n gwerthoedd, a pheidio disgwyl i Iesu Grist ddod i lanhau ein llanast!

Ti, yr hwn wrandewi weddi…

“Ti, yr hwn wrandewi weddi…” yw pennawd colofn chwaraeon Derec Llwyd Morgan yn rhifyn Tachwedd cylchgrawn Barn, ac mae’n rhyfeddu at y ‘ffordd y mae cynifer o chwaraewyr blaenllaw yn dwyn eu Duw i mewn i’w camp’. Y mae hon, meddai, yn ddiwinyddiaeth seml: ‘da yw Duw – i mi’. Hawdd diystyru ymbilio o’r fath fel ymarferiad digon plentynnaidd, anaeddfed. Ond beth yw diben gweddi, ar lefel bersonol ac yn ehangach? Ydy’r enghreifftiau diweddar hyn yn ein cynorthwyo i fod yn gliriach ein syniadau am weddi?:

1. Pennawd ar wefan, fel enghraifft o eirioli personol: God Answers a Woman’s Prayer and Heals her of Leukemia

2. Yn dilyn etholiad Obama:

• ‘Gorchymyn’ i Dduw gan un o gefnogwyr Obama: We are all United with God’s Grace!! God Bless us all!
• Ymbil ar Dduw gan un o wrthwynebwyr Obama: Are we wrong in believing that our right of self-government is a God given right? Of course, we are not wrong. We just got out-maneuvered . . . I do know we cannot give up, with God at the helm, America can rise again. PRAY, FIGHT, NEVER GIVE UP!
3. Cyfaddefiad Archesgob Rowan Williams yn sgil ei siom yn wyneb pleidlais aelodau lleyg Synod Cyffredinol Eglwys Loegr i rwystro merched rhag cael eu hordeinio’n esgobion: I hoped and prayed that this particular business would be at another stage before I left.

4. Gweddïau i gofio am y rhai a laddwyd mewn rhyfeloedd oedd y rhai a offrymwyd ar 11 Tachwedd, Diwrnod y Cofio eleni, yn hytrach na gweddïau i ddiolch am ‘fuddugoliaethau’. Yn yr un cywair mae’r gweddïau cyhoeddus gan y ddwy ochr yng nghanol helbul athrist y Dwyrain Canol yn canolbwyntio bron yn ddieithriad ar ymbil ar bobl i chwilio am ddulliau heddwch ac i wrthod trais.

Mewn oedfaon cyhoeddus gwneir llawer mwy o ddefnydd erbyn heddiw o’r arferaid o wahodd y gynulleidfa i blygu pen mewn distawrwydd ac i offrymu gweddïau personol. Mae ambell bregethwr yn anesmwyth ynghylch yr holl syniad o weddïo cyhoeddus ac yn ei osgoi.

Efallai ei bod yn arwyddocaol mai nid “Ti, yr hwn sy’n ateb gweddi…” yw llinell gyntaf emyn RM Jones (Meigant).

Yn ogystal ag ymateb i’r e-fwletin neu i rannu unrhyw agwedd arall ar ein ffydd a’n cred, cofiwch fod croeso pob amser i awgrym o gyfrol gwerth ei darllen neu wefan gwerth ymweld â hi.