Agora rhif 34 mis Gorffennaf – Awst 2019
Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.
Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!
Cynnwys
Wynebu yfory yn yr Ewrop newydd
Gethin Rhys
Gorchymyn Rhedeg
Cyfieithiad Anna Jane Evans o gerdd gan Lena Khalaf Tuffaha
Distawrwydd
(cyf. Waldo Williams o waith gan J E Southall)
Encil C21 2019
(Manylion)
Ymddiheuriad
John Gwilym Jones
Triw
Mererid Hopwood
- Wynebu Yfory yn yr Ewrop newyddRhagor- Beth sydd i mi mwy a wnelwyf ag eilunod gwael y llawr?: Yr eilunod fydd angen eu dymchwel yng Nghymru wedi Brexit - Crynhoad o gyflwyniad Gethin Rhys i Gynhadledd Flynyddol Cristnogaeth 21 ar y thema ‘Wynebu yfory yn yr Ewrop newydd’ yn gynharach eleni. - Diolch am y gwahoddiad i siarad yn y gynhadledd hon. Fel y gwyddoch, rwy’n gyflogedig gan Cytûn ac mae’n bwysig dweud ar y cychwyn mai siarad yn bersonol ydw i heddiw – ni ddylid casglu bod unrhyw beth rwy’n ei ddweud heddiw yn mynegi barn Cytûn na’i aelodau. - Yn fy ngwaith rwy wedi bod yn ymwneud llawer â helynt a helbul y Deyrnas Unedig yn ymadael â’r ... 
- DistawrwyddRhagor- DISTAWRWYDD- Ugain mlynedd yn ôl, fe roddodd ffrind yn fy llaw lyfr bach a ddaeth yn drobwynt yn fy mywyd. “Gwir Heddwch” oedd ei enw. Neges o’r canol oesoedd ydoedd ac iddo un syniad yn unig – sef, fod Duw yn aros yn nyfnder fy mod i siarad wrthyf, ond i mi dawelu digon i glywed Ei lais. - Meddyliais y byddai hyn yn beth hawdd iawn a dechreuais ymlonyddu. Ond prin y dechreuais na ddaeth rhyw ddwndwr i’m clustiau, miloedd o seiniau croch o’r tu allan a’r tu mewn fel na allwn glywed dim ond eu sŵn hwy. Fy llais fy hun oedd rhai ohonynt, fy ... 
- TriwRhagor- Triw- Honnodd Wittgenstein bod ffiniau ei iaith yn nodi ffiniau ei fyd, ac yn sicr mae’r cysylltiad rhwng ein hiaith a’n ffordd o weld ac o ddirnad yn un dyrys. Tu hwnt i’r geiriau unigol a ddefnyddiwn i ddynodi ein hamgylchfyd, o’r pry’ i’r planedau, o’r cerrig i’r cestyll, rydym hefyd yn gwau geiriau at ei gilydd i ffurfio brawddegau a delweddau mewn pob math o ddulliau, a hynny er mwyn ceisio rhannu ein meddyliau ag eraill – ceisio dod mas â’r hyn sydd mewn. Fel arfer, trown at briod-ddulliau parod pa bynnag iaith a siaradwn ar y pryd i wneud hyn. Pan fyddwn ni’n siarad Cymraeg er enghraifft, ... 
- Gorchymyn rhedegRhagor- Rhydd-gyfieithiad gan Anna Jane Evans o’r gerdd ‘Running Orders’, gan Lena Khalaf Tuffaha – o’r gyfrol Letters to Palestine (gol. Vijay Prashad) - Gorchymyn rhedeg- Maen nhw’n ein galw rŵan 
 Cyn iddynt ollwng y bomiau.
 Mae’r ffôn yn canu
 Ac mae rhywun sy’n gwybod fy enw cyntaf
 Yn dweud, mewn Arabeg perffaith,
 ‘David sydd ’ma.’
 Ac yn fy nryswch o wydr yn torri a sonic booms yn chwalu
 Yn fy mhen
 Rwy’n gofyn, ‘Ydw i’n nabod unrhyw David yn Gasa?’
 Maen nhw’n ein galw rŵan i ddweud,
 Rhedwch!
 Mae gennych 58 eiliad o ddiwedd y neges,
 Eich tŷ chi sydd nesa.
 Maen nhw’n meddwl am y peth fel ...
- Encil 2019Rhagor- Cristnogaeth 21 
 YR ENCIL FLYNYDDOL- Y Cread a’r Cymod 2019 
 yng nghwmni- yr Athro Gareth Lloyd Jones, 
 Dyfed Wyn Roberts,
 Sioned Webb ac Ifor ap Glyn- Dydd Sadwrn, Medi 21ain 
 10.00 – 3.30- Coffi am 10.00 - Cost : £20.00 (yn cynnwys cinio) - Rhaid cofrestru erbyn Medi 14eg - 01248 680858 
- YmddiheuriadRhagor- Ymddiheuriad- Mae hi’n gyfnod diddorol iawn o ran ymddiheuriadau: Almaenwyr yn ymddiheuro i Iddewon am yr holocost; Llywodraeth Prydain yn ymddiheuro i’r bobol hynny a ddaeth yma ar long yr Empire Windrush ond a alltudiwyd wedyn ar gam; Tony Blair yn ymddiheuro am ryfel Irac; awdurdodau Gogledd Iwerddon yn ymddiheuro am ladd ar y Sul Gwaedlyd; prifweithredwraig Hong Kong, Carrie Lam, yn ymddiheuro am ystyried creu deddf newydd; Michael Gove yn ymddiheuro am gymryd cocên. A theulu Carl Sargeant yn disgwyl ymdiheuriad gan Carwyn Jones. Mae’r rhestr yn faith. Hefyd, y mae’n codi cwestiwn: beth yw ymddiheuriad? Onid hanner ymddiheuriad yw ambell un. Wedi i Marc Field ymosod ar ... 

