AGORA Mis Mehefin 2016
Cliciwch yma i weld y rhifyn pdf: Agora Mehefin
Medrwch argraffu’r fersiwn pdf uchod o’r cylchgrawn Agora, neu ei darllen ar y sgrin yn ei ffurf bresennol fel pdf, yn union fel pebai’n gopi print, neu medrwch ddewis darllen yr erthyglau yn ddigidol o fewn eich porwr, gan sgrolio i lawr i weld pob erthygl yn unigol a rhyngweithiol:
Cynnwys Rhifyn 3 (Mis Mehefin) (Cliciwch ar y teitl i ddewis yr erthygl neu sgrolio i lawr nes y dewch ati)
Golygyddol Enid Morgan
Cwymp Icarus John Gwilym Jones
Atgyfodi Tabitha Dawn Hutchinson
Symud Ymlaen (Vivian Jones) Gwerthfawrogiad gan Pryderi Llwyd Jones
Holi a Gwrando Tecwyn Ifan
At Ein Gilydd, Gyda’n Gilydd Eileen Davies
Y Tad Daniel Berrigan                 Erthygl Goffa
- GolygyddolRhagor- Mwynhad a lwc y We- Mae golygu neu ysgogi cylchgrawn yn gymysgwch rhyfeddaf o rwystredigaeth a chyffro. Stryffaglu i gael ambell gyfrannwr i gadw addewid, ac yna rhodd rasol o enw a phersonoliaeth newydd a chyfraniad yn gytgordio’n hapus ag amcanion Agora. - Yn Agora2 cyfeiriais at anerchiad gwefreiddiol gan Esyllt Maelor yn ein hencil yn Nant Gwrtheyrn. Soniodd, a hithau mewn galar ar ôl colli ei mab, Dafydd, am y ffordd y daeth y geiriau ‘Tabitha Cwmi’ yn gyfrwng cysur ac ysbrydiaeth iddi. Trwy ‘gyd-ddigwyddiad’ roeddwn wrthi ryw bythefnos yn ddiweddarach yn chwilio am ... 
- ‘Icarus’ (Pieter Brueghel)Rhagor- Myth yn llefaru wrthym- gan John Gwilym Jones- Fel y byddai Iesu yn defnyddio grym dameg ac alegori, felly y byddai awduron yr Hen Destament yn defnyddio mytholeg i ddysgu am Dduw a’i berthynas â dyn. Un enghraifft amlwg yw hanes y creu yn Llyfr Genesis. Ond mae yna awduron eraill wedi gweld fod myth yn medru cyfleu ambell wirionedd oesol. - Defnyddiodd y bardd Lladin Ovid (43CC–17AD) gorff o fythau i ddarlunio cwrs hanes o’r creu hyd at farw Julius Cesar a’i ddwyfoli. Ymhlith y 250 ... 
- Symud ymlaen: cyfrol newydd Vivian JonesRhagor- Symud ymlaen: cyfrol newydd Vivian Jones- Gwerthfawrogiad Pryderi Llwyd Jones- I aelodau Eglwys Bresbyteraidd Cymru, mae’r geiriau ‘Symud ymlaen’ yn gyfarwydd fel enw ar gynllun i ‘ailstrwythuro’r gyfundrefn’. Dyna hefyd oedd teitl y ddogfen i hyrwyddo undod rhwng yr enwadau Anghydffurfiol ddiwedd y 90au – gobaith sydd yn fwriadaol yn cael ei anghofio erbyn hyn. Yn y gyfrol hon mae i’r geiriau ystyr lawer pwysicach. Dyma ddau ddyfyniad:  “Pan ddechreuais fy mhererindod, yn naturiol i ... “Pan ddechreuais fy mhererindod, yn naturiol i ...
- At Ein Gilydd, Gyda’n GilyddRhagor- Dathlu’r Wythnos Fawr yn Nyffryn Aeron a’r Fro - At Ein Gilydd, Gyda’n Gilydd- gan Eileen Davies - Yr Wythnos Fawr, yn sicr yr wythnos fwyaf yng nghalendar pob Cristion. Dyma’r wythnos lle mae yna gwestiynau mawr yn cael eu holi, o beth yn union ry’n ni’n credu ynddo, i bwysigrwydd y Groes a Sul y Pasg. Beth mae Gwener y Groglith a’r Atgyfodiad yn ei olygu i Gristnogion heddiw? Beth mae’n ei olygu i fyd seciwlar sydd am fwynhau gwyliau o’r gwaith beunyddiol heb ystyried ... 
- PytiauRhagor- PYTIAU- Mae gwadu’r Drindod yn beryg i’n hiachwdwriaeth; mae ceisio egluro’r Drindod yn beryg i’n pwyll. (-Martin Luther) - Nid yw crefydd yn bennaf yn set o gredoau, nac yn gasgliad o weddïau, nac yn gyfres o ddefodau. Y mae crefydd yn gyntaf ac yn bennaf yn ffordd o weld. All e ddim newid y ffeithiau am y byd yr ydyn ni’n byw ynddo, ond gall newid y ffordd yr ydyn ni’n gweld y ffeithiau, ac mae ... 
- Atgyfodi TabithaRhagor- ATGYFODI TABITHA- Actau 9:36 – 41- Dawn Hutchinson- Dyrchafu Cariad: y mwy na’r llythrennol - Tybed a oes modd adrodd straeon am yr atgyfodiad mewn ffordd fydd yn ein trawsnewid ni i fod yn ddilynwyr Iesu all fwydo, daearu a chynnal y math o dangnefedd y mae’r byd yn dyheu amdano? - Rwy’n credu ei bod yn hanfodol i bregethwyr gyfleu bod cynulleidfaoedd yn gallu gollwng gafael ar lawer o ddehongliadau o’r ysgrythur sy’n sarhad ar eu crebwyll, er mwyn chwilio i gyfoeth yr ystyr ‘mwy na llythrennol’. (Marcus Borg) - Petawn i’n dweud ... 
- Holi a GwrandoRhagor- Holi a Gwrando- Tecwyn Ifan yn disgrifio ffordd newydd o fod yn fugail  Aeth bron i bum mlynedd heibio ers i mi gael fy lleoli ym Mlaenau Ffestiniog gan Gymanfa Bedyddwyr Dinbych, Fflint a Meirion fel Ysgogwr. Cynllun arbrofol oedd hwn, gyda’r bwriad o geisio cwrdd â phobl yn y man lle roedden nhw ar eu taith ysbrydol. Dechreuwyd trwy gomisiynu arolwg ar agweddau pobl yr ardal tuag at bethau crefyddol ac ysbrydol. Aeth bron i bum mlynedd heibio ers i mi gael fy lleoli ym Mlaenau Ffestiniog gan Gymanfa Bedyddwyr Dinbych, Fflint a Meirion fel Ysgogwr. Cynllun arbrofol oedd hwn, gyda’r bwriad o geisio cwrdd â phobl yn y man lle roedden nhw ar eu taith ysbrydol. Dechreuwyd trwy gomisiynu arolwg ar agweddau pobl yr ardal tuag at bethau crefyddol ac ysbrydol.- Cafwyd ... 
- Gwerthfawrogiad o gyfraniad Y Tad Daniel BerriganRhagor- “Don’t just do something, stand there!”- Geiriau rhyfedd y Tad Daniel Berrigan, a fu farw ar 30 Ebrill yn 94 oed yn Efrog Newydd. - Ym mhle y gwelir y geiriau isod o eiddo Berrigan? - Fe aethom â’n morthwylion bychan (a’n dewrder llai) gyda ni ac ar 9 Medi 1980 fe aethom i mewn i safle General Electrics ym Mhensylfania. Yno, mewn safle eang o siediau anferth roedd y taflegryn Mark A (‘a first strike nuclear horror’) yn barod i’w gludo i Amarillo, Texas. A chyda’n morthwylion ... 
