Y Bydysawd, Pantycelyn a’r Iesu

Galileo, bedair canrif yn ôl, a ddeallodd gyntaf mai myrdd o sêr oedd y Llwybr Llaethog. A bu rhaid i ddynoliaeth wynebu’r ffaith mai rhan fechan o fydysawd enfawr oedd ein Daear a’n Haul ni.
 
Erbyn hyn mae gan wyddonwyr amcan go lew o faint, ffurf a chyfansoddiad y Llwybr Llaethog: ei diamedr ymhell dros 100 biliwn o oleuni-flynyddoedd (mae goleuni’n teithio 300,000 cilomedr yr eiliad) ac yn cynnwys 100-400 biliwn o sêr a nifer tebyg o blanedau. Mae’n Haul a’n Daear ni i’w cael mewn cornelyn bach ar ymyl mewnol un o freichiau’r sbeiral o gyrff nefol sy’n cyfansoddi’r Llwybr Llaethog.  
 
Tan i Edwin Hubble ddefnyddio’i delesgop newydd ddechrau’r 1920au roedd gwyddonwyr yn cymryd mai’r Llwybr Llaethog oedd y Bydysawd. Nid felly. Erbyn hyn fe wyddys mai un alaeth o blith dau driliwn o alaethau yn y Bydysawd Arsylwadwy yw’n Llwybr Llaethog ni. Mae’n aelod o ‘Grŵp Lleol’, clwstwr o 50 o alaethau, sy’ yn ei dro yn rhan o Archglwstwr (rhoed yr enw ‘Laniakea’ arni) sy’n cynnwys 100,000 o alaethau.
 
A dyw’r Bydysawd Arsylwadwy wrth gwrs yn ddim ond rhan (sfferaidd ei siâp medden nhw) o’r Bydysawd cyfan. Mae hwnnw’n ymhelaethu mor gyflym fel nad oes amser i’r Goleuni o’i bellafoedd eithaf fyth ein cyrraedd ni, i ni allu arsylwi ar y pellafoedd hynny.
 
Mae’r cyfan i gyd yn annirnad wrth gwrs – yn anamgyffredadwy ac yn anfynegadwy heblaw mewn termau mathemategol. Gallai myfyrio arno ein llethu a’n drysu’n llwyr. Neu fe allai ysgogi yr ymdeimlad yna o ddirgelwch, mawr-ryfeddod a gostyngeiddrwydd sy’n greiddiol i’r profiad crefyddol.
 
Gwyddai Pantycelyn rywfaint am fydysawd Galileo, a rhyfeddu at ei ‘[f]aint anorffen a'[i d]roeon anfesurol’. Rhaid bod y sêr yng nghefn ei feddwl wrth sôn am ‘luoedd maith y nef’. I Bantycelyn, wrth gwrs, roedd y Bydysawd yma’n gyforiog o ystyr ymhell y tu hwn i’r deddfau ffisegol sy’n rheoli’i rawd. Duw a’i creodd a’i hydreiddio â phwrpas:
Mae’th ddawn a’th ras a’th gariad drud
Yn llanw’r nef, yn llanw’r byd
 
Does dim modd i fi danysgrifio i’r syniad bod yna Ddeallusrwydd Dwyfol cariadus, consyrnol am Ddyn, y tu ôl i’r Byd Naturiol. Ddydd a ddaw er enghraifft, fe lyncith yr Haul ein planed fach ni a difa pob copa walltog sydd arni. Lle fel’na yw’r Bydysawd.
 
Ac eto, yn y cornelyn yma ohono o leiaf, mae yna Gariad. Mae hynny’n anwadadwy. A’n darlun arbennig ni Gristnogion o’r Cariad hwnnw yw Iesu, y Gair a wnaethpwyd yn gnawd ac a drigodd yn ein plith ni. Dichon mai’n creadigaeth chwedlonol-fytholegol ni yw-e, ond pa wahaniaeth yw hynny? Ei ystyr a’i esiampl sy’n bwysig. Ac nid byrhoedledd ein rhywogaeth ni, na’n bychander gronynnol ni yn anferthrwydd annirnad y Bydysawd, sy’n cyfrif yn y pen draw, ond ansawdd y bywyd y mae modd i ni, ar adegau o leiaf, ymgyrraedd ato.