E-fwletin 18 Tachwedd 2018

Plant Mewn Angen

Yn ystod yr wythnos ddiwetha clywsom am bobl yn gwneud cant a mil o weithgareddau i godi arian at Apêl Plant Mewn Angen. Clywsom hefyd am sut y gwnaeth yr apêl hon yn 2017 wahaniaeth i fywydau plant a’u teuluoedd ar hyd a lled gwledydd Prydain. A dydd Gwener diwethaf, ar ddiwrnod Plant Mewn Angen eleni gwelwyd haelioni anghyffredin pobl yn y gwledydd hyn unwaith yn rhagor i’r Apêl yma.

Yn dilyn astudiaeth diweddar gan Philip Alston, sy’n llefarydd ar ran y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol a hawliau dynol, canfu fod lefelau tlodi plant yng ngwledydd Prydain nid yn unig yn gywilyddus o uchel ond hefyd yn drychineb economaidd a chymdeithasol. Dywedodd bod mesurau llymder y llywodraeth a’r newidiadau ym mesurau Credyd Cynhwysol wedi cyfrannu’n helaeth at blant sydd mewn angen.

A ddoe roedd yna brotest yn Llundain wedi ei threfnu gan grŵp o’r enw “Extinction Rebellion”. Byrdwn y brotest oedd methiant gwleidyddion i fynd i’r afael â bygythiad newid hinsawdd. Yn wyneb hynny roedd nifer o blith y miloedd ar strydoedd Llundain ddoe wedi datgan eu parodrwydd i dorri’r gyfraith er mwyn dwyn perswâd ar wleidyddion ac eraill i weithredu.

Mewn datganiad yn ddiweddar gan bron i gant o academyddion blaenllaw sy’n gefnogol i achos y protestwyr ddoe, gan gynnwys y cyn-Archesgob Rowan Williams,  dywedwyd “Yn wyneb esgeulustod dybryd y llywodraeth a’u diffyg gweithredu ar fater yr hinsawdd, y mae gennym nid yn unig yr hawl ond hefyd y cyfrifoldeb moesol i wrthryfela er mwyn amddiffyn bywyd yn ei hanfod”. Aeth y datganiad ymlaen i ddweud y byddai plant sy’n fyw heddiw yng ngwledydd Prydain fel mannau eraill yn y byd, yn wynebau canlyniadau enbydus, o lifogydd i danau gwyllt, o dywydd eithafol i fethiant cnydau, a fyddai’n arwain yn anochel at chwalfa cymdeithas.

Tra bod arweinwyr gwledydd fel America, Rwsia, China, Canada, Awstralaia, y DU ac eraill fel petaent yn ddihid i ganlyniadau peryglus eu polisiau amgylcheddol, rhybudd gwyddonwyr sy’n cadw golwg fanwl ar y newid yn yr hinsawdd inni’n ddiweddar yw bod gennym fel dynoliaeth ddeuddeng mlynedd ar ôl i atal trychineb ecolegol byd-eang.

Ydyn, y mae plant mewn angen yn wir.