E-fwletin 13 Mai, 2018

Cymwynaswr Haiti

A ninnau ar ddechrau wythnos Cymorth Cristnogol, mae clywed am y gwaith clodwiw sy’n digwydd mewn llefydd fel Haiti yn destun edmygedd. Heddiw, mewn oedfaon ymhobman, cawsom ein hannog i gyfrannu tuag at y gwaith, i ymgyrchu dros gyfiawnder, i wirfoddoli ein hunain, ac i weddïo.

Afraid dweud bod unrhyw un o’r elfennau hyn yn ddiffygiol heb y lleill. Mae’r dasg yn ein hatgoffa o eiriau un ymgyrchydd a ddywedodd, “Bûm yn gweddïo am ugain mlynedd, ond ni chefais unrhyw ateb nes dechrau gweddïo gyda’m coesau fy hun.”

Enw’r gŵr hwnnw oedd Frederick Douglass, y tybir iddo gael ei eni union ddau gan mlynedd yn ôl i eleni, ac am gyfnod yn ystod ei yrfa bu’n llysgennad ar ran yr Unol Daleithiau yn Haiti. Ef oedd y dyn du cyntaf erioed i ddal swydd o bwys yn llywodraeth Washington, ac mae’n briodol iawn ein bod yn cofio amdano eleni fel ymgyrchydd yn erbyn caethwasiaeth, lladmerydd ar ran lleiafrifoedd ymhobman, ymladdwr dros hawliau merched a dros Indiaid brodorol Gogledd America.

Frederick Douglass

Y rhyfeddod yw i Frederick Douglass gael ei eni i gaethwasiaeth. Daeth yn amlwg yn fuan fod yna ruddin go arbennig yn perthyn i’r bachgen, a dechreuodd ei feistres, gwraig o’r enw Sophia Auld, roi gwersi darllen iddo yn y blanhigfa yn Baltimore. Doedd ei gŵr ddim yn fodlon ar hynny, a byddai’n ei guro’n ddidrugaredd yn gyson.  Ond roedd Frederick wedi dechrau sylweddoli mai gwybodaeth oedd y llwybr o gaethwasiaeth i ryddid, a daliodd ati i ddarllen yn y dirgel, gan ddysgu rhai o’i gyd gaethweision drwy ddarllen o’r Beibl iddynt.

Byddai’n dweud yn aml na allai neb sarhau na diraddio’r enaid oedd y tu mewn iddo, ac na allai neb roi cadwyn am fferau ei gyd-ddyn heb ganfod bod y pen arall wedi ei glymu am ei wddf ei hunan.

Llwyddodd Frederick Douglass i ddianc o’r blanhigfa, a dechreuodd areithio’n rymus iawn yn erbyn caethwasiaeth. Gorfu iddo ffoi i Iwerddon ac i Lundain, lle y gwnaed casgliad i brynu ei ryddid. Dywedodd rywdro iddo gyrraedd Dulyn a Llundain a chael ei weld, nid fel dyn du, ond fel dyn. Gwnaeth gryn enw iddo’i hun fel areithiwr tanbaid a dylanwadol, yn gyfaill mynwesol i rai fel Thomas Clarkson ac eraill o blith yr ymgyrchwyr yn erbyn caethwasiaeth.

Pan ddychwelodd i America, daeth yn wleidydd medrus ac effeithiol, ac fe’i dyrchafwyd yn aelod o lywodraeth yr Arlywydd Benjamin Harrison, cyn cael ei anfon yn llysgennad i Haiti. Roedd gan drigolion y wlad honno barch aruthrol tuag ato, a chafodd sawl anrhydedd am ei waith drostynt. Eleni, bu coffa da amdano yn America ac yn Haiti.

Wrth bwyso a mesur ei yrfa, dywedodd Douglass rywbeth sydd yr un mor wir yn ein hoes ni: “Pan fo cyfiawnder yn cael ei wadu, pan fo tlodi’n cael rhwydd hynt i fodoli, pan fo anwybodaeth yn teyrnasu, a phan fo un dosbarth o bobl yn cael eu harwain i deimlo bod cymdeithas yn cynllwynio i’w diraddio, i’w gorthrymu a’u hamddifadu, fydd pobl nac eiddo byth yn ddiogel.”