E-fwletin Mai 20 2018

 

Pentecost 2018

I’r weithred o adleoli llys-genhadaeth yr Unol Daleithau o Tel Aviv i Jerwsalem yr wythnos ddiwethaf esgor ar gymaint o drais, a hynny mewn gwlad sydd â’i phobloedd eisioes yn rhy gyfarwydd â’r treisgar a’r difaol yn eu bywydau, sydd fater o dristwch a galar enbyd.

Nid llai gofidus y ffaith bod rhai Cristnogion yn gweld y symudiad hwn yn nhermau menter ffydd ac yn gam priodol i gyfeiriad y Deyrnas. Yn eu plith mae rhai o gyfarwyddwyr ysbrydol yr Arlywydd Trump a’i lywodraeth. Un ohonynt, Robert Jeffress, gweinidog bedyddiedig o Dallas, gan gymaint ei sicrwydd ynghylch cywirdeb ac addasrwydd y weithred, yn fwy na pharod i ofyn bendith yr Arglwydd arni. Yn wir, aeth gam ymhellach na hynny wrth ddatgan yn ei weddi bo’r Arlywydd, ‘ yn sefyll ar yr ochr iawn i ti, O Dduw, pan ddaw hi’n fater Israel’.

Deil wedyn, mae’n amlwg, bod Jerwsalem yn brifddinas Israel o ddwyfol osodiad ac na wnaeth America un dim mwy na chadarnhau ac hyrwyddo cynlluniau a bwriadau Duw, nid yn unig mewn perthynas ag Israel, ond â’r greadigaeth yn gyfan gan fod ymdrechion yr Iddewon i ad-feddiannu’r tiroedd a addawyd iddynt, yn arwydd sicr o ddiwedd y byd ac o ddyfodiad yr Arglwydd i ddirwyn ei waith i ben a sefydlu Ei deyrnas. Gyda sobrwydd y mae sylweddoli bo’r ymresymu uchod yn seiliedig ar ddehongliad arbennig o’r Ysgrythurau. Braw, yn wir, yw deall bod y Beibl yn abl i annog meddylfryd sy’n esgor ar farwolaeth a difodiant, a fendithir, wedyn, gan Dduw.

Mae’n fanteisiol iawn i hyn ddigwydd yng nghyfnod y Pentecost a ninnau’n cael cyfle i gofio o’r newydd natur ymweliad arbennig Duw â thrigolion Jerwsalem y Sulgwyn cyntaf hwnnw. Tân nad oedd yn difa gafwyd bryd hynny. Awel nad oedd ynddi nwyon gwenwynig a thafodau’n parablu iaith gymdodgol a chymodlon. Ysbryd Iesu’n donio pobl â chariad sy’n sail i lawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder ac hunan-ddisgyblaeth. Doniau prin iawn i bob golwg yn Jerwsalem ein dyddiau ni, ac eto doniau amlwg iawn ym mywydau’r Iddewon a’r Palestiniaid hynny sy’n dymuno anwylo a pharchu ei gilydd. Dyma ddoniau amlwg Iddewon a Christnogion a Mwslimiaid sy’n gweld eu hunain a’i gilydd yn etifeddion bendith Abraham ac yn gyfryngwyr y fendith honno i’r byd.

Dylid cadw mewn cof, wrth gwrs, mai gweithred beryglus yn gofyn am ddewrder mawr yw honno i geisio rhyddhau bendithion Israel, yn Feiblaidd a chyfoes, i eraill. Ymgais meddwon i’w gwawdio a’u dirmygu ar y Pentecost ac ymdrech gwallgof-ddyn yn haeddu marwolaeth ar Wener y Grôg.