Diolch, Emyr Humphreys

Diolch, Emyr Humphreys

Mae hen bobl yn broblem.

Nid oes amheuaeth nad Emyr Humphreys oedd y Cymro Cymraeg a gyhoeddodd fwyaf o gyfrolau Saesneg erioed, fel nofelydd, dramodydd, bardd a hanesydd. Bu farw ar 29 Medi yn 101 oed. Ef yn wir, fel hanesydd, sydd wedi olrhain ein hanes (yn arbennig yn y Taliesin Tradition) gwleidyddol, diwylliannol a chrefyddol mewn ffordd ddifyr a goleuedig i’r di-Gymraeg ac ef fel nofelydd, yn arbennig yn ei nofel Outside the House of Baal, sydd wedi portreadu dirywiad ein traddodiad anghydffurfiol. Cyhoeddwyd y nofel honno yn 1965, ac er bod ei bortread o gyflwr anghyffurfiaeth yn ingol gywir, fe fyddai’r rhai sy’n parhau i gredu fod yna arwyddion bywyd yn y traddodiad hwnnw am ddweud ei fod yn rhy ddigalon a diobaith. Ond mae’n bortread na ellir ei anghofio ac mae’n glasur o nofel Saesneg am Gymru – ac am henaint.

Yn nyddiau cydnabod ein cyfrifoldeb (yn sgil Cofid 19) i warchod yr henoed (ond prin yw’r sôn am gydnabod lle a chyfraniad yr henoed i’w cymunedau; gair Saesneg gweddol ddiweddar yw ageism – nid yw yng ngeiriadur Bruce), mae cyfrol o straeon byrion yr awdur a gyhoeddodd pan oedd yn 85 oed yn llawn hiwmor a dychan awdur treiddgar. Old People Are a Problem yw teitl y gyfrol, ac mae’n deitl i un stori. Cam â’r awdur yw ceisio’i chrynhoi, ond dyma fraslun o’r stori.

Mae Mary Keturah Parry yn 93 oed, yn fodryb i’r Henadur Mihangel Parry-Paylin. Mae’n gwrthod symud o’r Tŷ Capel i gartref henoed. Mae cynlluniau i ddymchwel capel Soar, Llandawel, a’r tŷ i gael ffordd newydd. (Ond mae rhai’n awyddus i wneud y capel yn amgueddfa.) Fe briododd yr Henadur ferch y plas a throi cefn, meddai Keturah, ar ei etifeddiaeth anghydffurfiol Gymraeg. Mae’r Henadur bellach yn ŵr gweddw yn ei 60au cynnar a’i unig ferch, Iola, yn ymgyrchydd amgylcheddol newydd ddychwelyd o brotest yn Genoa efo’i ffrind newydd, Maristella, mam ddibriod, a’i mab bach, Nino. Nid yw perthynas yr Henadur a’i ferch yn un esmwyth. ‘Mae pobl ifanc yn broblem hefyd,’ meddai. Mae’r Henadur a’i ‘ffrindiau’ yn barod i ystyried manteision economaidd claddu gwastraff niwclear yn yr ardal. Mae Keturah yn cloi ei hun yn y capel i rwystro unrhyw ddatblygiad, ond mae’r capel yn mynd ar dân, naill oherwydd stof baraffîn neu weithred o hunanlosgi gan Keturah. Mae’n marw yn lludw’r capel ac yn cael angladd ecwmenaidd mewn capel mawr cyfagos. Mae Iola yn codi ei phac eto ac yn mynd i ymgyrchu i’r Dominic Republic, ond mae’r Henadur yn dweud y byddai croeso i Maristella a Nino barhau i aros yn y plas. Mae’n dechrau teimlo cynhesrwydd yn eu cwmni.

Mewn un ystyr, mae’n gomedi ystrydebol, ond mae’n adlais o’n Cymru ni fel y mae Emyr Humphreys wedi ei bortreadu. Mae’n ddoniol, ddychanol a thrist. Pwy sy’n broblem? Keturah sy’n dweud wrth Iola, ‘Mae’n rhaid cael parhad. Fedar pethau ddim cario ymlaen heb barhad. Petae ti mor hen â fi fe fysa ti’n gwybod hynny.’ A’r Henadur sydd, meddai, yn mynd yn rhy hen i ddelio efo problemau teuluol fel modryb styfnig, hen ffasiwn. Mae’r gŵr gweddw Mihangel Parry-Paylin yn broblem iddo’i hun, ac mae ei ferch yn meddwl bod ei chartref (a’i thad) wedi suddo i ddifaterwch cenhedlaeth dda-ei-byd. Beth – neu pwy – yw’r broblem? Does dim amheuaeth pwy yw arwr y stori.

Yn ei gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl, Shards of Light, mae Emyr yn canu’n bersonol iawn ac yn arbennig yn dathlu cariad oes ag Elinor, ei briod.

Roedd ein cariad yn gysur
Pam felly y dylet fynd o’m blaen?
Mae i ddeilen grin ei harddwch
o’i dal i’r haul

meddai yn y gerdd ‘Cân Serch’, a chyfeirio, yn ei gerdd ‘Triumph of Old Age’ at yr heulwen yn mynd heibo ‘gyda chynhesrwydd tawel buddugoliaeth henaint’.

Yna yn y gerdd olaf un (‘The Old Couple’), 

fe deithiwn heb basport,
ein camau yn fyrrach …
i adfywiad parhaus yn y lle golau
a ddodrefnwyd gan yr hen ddihenydd. 

Yn y gwreiddiol, sy’n well wrth gwrs:

We travel without passport
Our steps are shorter
But the same footfall
Will deliver untrodden paths
Towards perpetual refreshment
In that place of light
Furnished by the ancient of days.

Emyr Humphreys gan Julian Sheppard.
Trwydded CC BY-NC-SA 4.0 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Diolch, Emyr Humphreys.

PLlJ