E-fwletin 4 Hydref 2020

Canwn glod i’r lleiafrif

Canwn glod i bobl y lleiafrif a’r rhai hynny a gefnogodd achosion amhoblogaidd eu dydd. Eu dewrder a’u harweiniodd i faes yr ymryson ond trwy eu dioddefiadau fe’u purwyd ac fe’u perffeithiwyd.
 
Roeddynt yn enwog am eu gostyngeiddrwydd ac yn eu plith yr oedd amryw na chadwodd gyfrif o draul eu haberth. Arweinwyr maes y meddwl oeddent ac yn wrthodedig gan y mwyafrifoedd difater; unigolion unplyg y weledigaeth fawr a luchiwyd i garchar ac a gam-driniwyd gan eu gormeswyr. Ond teced oedd y gwir yn eu golwg a chryfed oedd gallu a gogoniant eu breuddwydion fel nad ildient dan orthrwm ac na phlygent i’w prynu gan aur a dillad esmwyth eu gelynion.
 
Y mae llawer ohonynt na chroniclwyd eu henwau ar lyfrau hanes ac eraill y difenwyd eu cymeriadau gan dreiswyr y gwirionedd.
 
Dyma’r bobl a safasant dros iawnderau’r ddynoliaeth; rhoddasant i’n hil yr hawl i’w boneddigeiddrwydd; safasant ysgwydd wrth ysgwydd â’r caethwas yn ei ymdrech am ryddid; heriasant lygredd llywodraethau; dinoethasant ragrith oer parchusrwydd ffug; difodasant ffiniau y corlannau crachyddol, cul; ni wrthodasant gyfeillach pechadur a’u braint oedd cydio yn llaw yr afradlon i’w hebrwng adref.
 
Ni yw eu hetifeddion a chydnabyddwn ein dyled iddynt, canys eu coffâd yw gwaddol gyfoethocaf dynoliaeth. Lle cerddasant hwy mewn perygl, gallwn ni rodio mewn rhyddid. Lle buont hwy yn herio’r storm, cawn ninnau gysgod cymdeithas dosturiol o’u plegid.
 
Eu cyrff a labyddiwyd yn y frwydr a’u calonnau a dorrwyd gan yr erledigaethau; ond eu hysbryd a oresgynnodd yn ei holl felyster.
 
Dathlwn eu coffa, llawenhawn yn eu buddugoliaeth ac ymfalchïwn am fod perarogl eu bywydau wedi cyffwrdd â’n hoes ni; ac ymnerthwn yn y gobaith y gallwn ninnau hefyd ddilyn ôl eu traed.
 
 
(Addasiad o ddarn gan Parch D. Jacob Davies, Allt-y-blaca, a gyhoeddwyd yn ei gyfrol ‘Yr Hen Foi’).