Sgwrs gydag Osian Ellis

Sgwrs gyda’r telynor Osian Ellis

Osian Ellis, portread gan David Griffiths
Trwydded GFDL, Wikimedia

Ychydig wythnosau yn ôl yr oedd Osian Ellis yn 90 oed ac fe fydd cyngerdd i ddathlu ei fywyd a’i gyfraniad yng Ngŵyl Telynau Cymru yn y Galeri nos Sul y Pasg, Ebrill 1af. Mae ei yrfa, ei lwyddiant a’i gyfraniad wedi bod yn fawr yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae’n effro ei feddwl, yn ifanc ei ysbryd ac yn parhau i gyfansoddi, er nad yw bellach yn perfformio’n gyhoeddus. Mae ei ffydd wedi dod â sefydlogrwydd iddo ar hyd ei oes ac o’i gartref ym Mhwllheli mae’n gwneud y siwrnai fer pob bore Sul yn ei hen Volvo i gapel Seion (Wesleaidd) yn y dref lle mae’n addoli (ac yn organydd) gyda chynulleidfa fechan a bregus iawn. Fe fu Pryderi yn sgwrsio gydag ef ac mae’n sgwrs wahanol iawn i sgyrsiau eraill yn y gyfres hon.

 Fe wyddom eich bod yn fab y mans ac wedi gwerthfawrogi hynny. Ond beth yn arbennig o flynyddoedd gweinidogaeth eich tad fu’r dylanwad mwyaf arnoch?

Wrth ystyried dylanwadau bore oes rhaid cydnabod mai’r pwysicaf o’r rhain oedd awyrgylch y cartref, a phwy a ŵyr, efallai hefyd benddelw John Wesley ar y silff-ben-tân fel symbol o’n credo. A chyda llaw, gwallt hir John Wesley oedd cyfiawnhad ein dau fachgen (Richard a Tomos) yn eu harddegau am eu hirwalltiau eu hunain; ar wahân i hynny, nid aeth dylanwad John Wesley drwodd i’r ail genhedlaeth. Chawson nhw fawr o help yn ysgoldy ein capel yn Llundain. Byddai eu hathrawes yn agor y drws i gael mygyn (roedd ganddynt ystafell ar wahân), ac, yn ôl Richard, ni throediai ddim pellach nag Adda ac Efa ar hyd y tymor – ac mae o’n dal i gofio! Ond i’r gwrthwyneb, cefais i fy hun flas arbennig ar yr Ysgol Sul yn Salem, Aberdaron, lle roedd yno athrawon gwych, megis Wil Gladston, y gof, a’r gweision ffermydd, bryd hynny, yn ymateb yn ddeallgar i ymholiadau fy nhad. Byddem yn treulio llawer o amser yn Aberdaron yn ystod yr haf – lle magwyd fy nhad. Ond och, mae’r gymdeithas honno oedd yn Aberdaron wedi diflannu a Chapel Salem yn awr yn dŷ annedd. Rhaid imi ychwanegu bod Capel Deunant (E.B.) yn dal yn llewyrchus.

Nid wyf ddiwinydd nag athronydd, ac ni allaf esbonio maint na therfyn ein Cristnogaeth. Byddaf yn rhyw geisio byw’n ffyddlon i’r bywyd Cristnogol, ond yn weddol dawel a rhesymol, gan gymryd rhan yn holl weithgareddau’r capel. Fel rhan o deulu John Wesley symudasom lawer gwaith. Ganwyd fi yn Ffynnongroyw; yna buom ar gylchdaith Hen Golwyn am dair blynedd, yna Abergele am bum mlynedd, a Dinbych am naw mlynedd – doedd dim symud i fod yn ystod y rhyfel. Gan fod fy nhad yn teimlo bod y trefydd hyn a’u hysgolion braidd yn Seisnigaidd bryd hynny, gofalodd ein bod yn treulio’r haf yng nghymreigrwydd Pen Llŷn – a gwych oedd hynny! Mae gennym gartref yno byth ers hynny.

Mae’n gyffredin yn ein mysg fel Cymry i ddweud fod rhywun yn ‘eglwyswraig fawr’ neu’n ‘batus mawr’. A ydych yn ‘Wesla mawr’, â’r brodyr Wesley yn parhau i’ch ysbrydoli a’ch cynnal yn eich ffydd?

Na, nid yw John a Charles Wesley yn cynnal fy ffydd, ond byddaf weithiau yn cyfeirio atynt yn ysgafnfryd, fel hen ffrindiau, heb anghofio iddynt fod yn arwain adnewyddiad ysbrydol a phoblogeiddio, yn yr ystyr orau, yr emyn a’r emyn-dôn yn ystod eu cyfnod. Byddai Charles yn gwahodd llawer i’w gartref i wrando ar ei feibion talentog yn diddanu gyda’u cyngherddau ar yr harpsichord a’r piano.

Mae Eglwys Loegr a’r Methodistiaid yn Lloegr wedi cymryd camau (unwaith eto) tuag at uno. Petaech yn aelod yn Lloegr, a fyddech yn croesau uno o’r fath?

Buaswn yn falch o groesawu’r uno gyda’r Eglwys yng Nghymru. Ar y llaw arall, cofiaf imi ofyn i’r Parch R. S. Thomas unwaith, “Beth ddwedech chi taswn i’n dod at fwrdd eich cymun?” Ac atebodd yn sych: “Buaswn yn gwgu arnoch!” Ond, fel pob enwad arall, mae ganddynt broblemau i gael ficeriaid a gweinidogion cymwys.

Buaswn yn falch o gael ymuno yng ngwasanaethau’r Eglwys yng Nghymru, oni bai am y weinidogaeth sy’n ymddangos yn weddol denau i mi yn y Gymru Gymraeg. Wrth gwrs, rydan ni’n dioddef yr un problemau yn ein capeli. Caf fy siomi’n arw gan bregethwyr diddychymyg ac aneglur wrth ddarllen yr emynau a’r ysgrythur. Pam nad ydynt yn ymfalchïo yn eu neges? Onid oes neb yn eu cyfarwyddo i gyfathrebu yn glir?

Osian Ellis (llun Iestyn Hughes)

Mae eich gyrfa wedi’ch arwain at ddylanwadau eraill trwy gydweithio â chysylltiadau ehangach na’ch cefndir crefyddol Cymraeg. Sut ddylanwad fu hwnnw arnoch?

Credaf y gall cefndir crefyddol a chartrefol roddi sylfaen gref ar ein taith ddaearol. Cawn brofiadau difyr a dieithr wrth ddilyn ein gyrfa gerddorol, megis perfformio yn yr Offeren mewn eglwysi pabyddol yn yr Eidal a’r Almaen gyda’u creiriau hen a hynod – creiriau a fyddai’n ddychryn i hen Galfin o Gymro, ond mae’r hen bethau yn codi fy ysbryd a’m chwilfrydedd wrth inni ymddangos yn ne-ddwyrain Asia, Japan, yr India, Iran ac Israel. Efallai ei fod yn ystrydeb, ond mae’n siŵr fod Duw yn ehangu gorwelion ein profiad i ni ddarganfod pethau newydd. Onid oes yna rywbeth am hynny yn Llyfr Job?

A oes rhywbeth ynglŷn â Christnogaeth yn sydd yn creu anfodlonrwydd ynoch?

Un peth yn arbennig, gartref yn y capel, fydd yn fy mhoeni, sef darllen o’r Hen Destament. Er enghraifft, yn ddiweddar gofynnwyd imi ddarllen yn gyhoeddus bennod o Lyfr Josua, lle mae’n ymhyfrydu wrth ddarostwng eu gelynion. Meddai yn y 7fed bennod: ‘Bydd yr Arglwydd eich Duw yn darostwng y cenhedloedd hyn o’ch blaenau … ni all unrhyw un eich gwrthsefyll nes i chwi eu dinistrio.’ Meddai wedyn: ‘Rhoddais ichwi wlad nad oeddech wedi llafurio ynddi, a chawsoch drefi i fyw ynddynt’ a.y.y.b. – a dyma’r wobr a gafwyd am ysbeilio’r dinasoedd a chymryd drosodd y tai a’r tir ffrwythlon oddi ar eu gelynion. Rwy’n cydnabod mai fel yna oedd hi drwy Ewrop gyfan fil a dwy fil o flynyddoedd yn ôl, a chafodd y Brythoniaid eu hel o’r tir gan y Sacson, yr Almaenwyr, y Daniaid, y Vikings a’r Normaniaid. Ac mae’r Israeliaid yn dal i wneud hynny yn Jerwsalem a Thir y Meddiant, sef hel pobl Palesteina o’u cartrefi, meddiannu a dwyn eu tir.

A oes yna gyfansoddwyr arbennig sydd wedi cael dylanwad arnoch neu hyd yn oed wedi dyfnhau neu ehangu eich ffydd?

 Er imi weithio llawer gydag Alun Hoddinott a William Mathias, bûm yn gweithio’n amlach, yn hirach ac yn fwy clòs gyda Benjamin Britten – o 1959 hyd ei farw yn Rhagfyr 1976. Cyfarfûm ag ef gyntaf yn Eglwys Gadeiriol Babyddol Westminster pan oeddwn yn perfformio gyda chôr hogiau’r eglwys ei ‘Ceremony of Carols’ gyda chyfeiliant i’r delyn. Mae’r awyrgylch dyrchafol yn fyw iawn i mi o hyd. Roedd yn amlwg ei fod wedi ei blesio ac fe’m gwahoddodd i berfformio yn ei ŵyl flynyddol ym Mehefin yn Aldeburgh ar bwys traethau oer Suffolk.

Doedd o ddim yn eglwyswr mawr yn yr ystyr ffurfiol ond fe sgrifennodd weithiau crefyddol rhyfeddol megis y Sinfonia da Requiem (i gerddorfa) er cof am ei rieni, ac, wrth gwrs, y War Requiem anfarwol yn 1962 ar gyfer ailadeiladu Eglwys Gadeiriol Coventry a oedd wedi ei dinistrio yn ystod y Rhyfel. Defnyddiodd gerddi rhyfel Wilfred Owen a geiriau Lladin y Requiem. Mae’n siŵr fod yna fwy na ‘dawn a champ’ tu ôl i weithiau fel yna. Ac mae bod yn rhan o weithgarwch creadigol o’r fath yn awgrymu fod cael ‘profiadau’ fel hyn yn golygu ‘profiad crefyddol neu ysbrydol’ hefyd.

Mae digon o dystiolaeth fod bywyd o brofiadau dylanwadol yn gyfwerth â ‘phrofiad ysbrydol sydd yn newid bywyd’.

Ymddengys bod y recordiad o’r Requiem wedi gwerthu mwy nag unrhyw record glasurol, sydd yn gamp, os nad ‘gwyrth’ – yn mhob ystyr! Roedd yna gerddorfa fawr yn cyfeilio i’r côr mawr, côr hogiau ac organ, a deuddeg mewn grŵp bach o offerynwyr (a minnau ar y delyn) yn cyfeilio i’r tenor, Peter Pears, a’r bas, Fischer-Dieskau, a ganai eiriau dwys Wilfred Owen. Roedd yna arweinydd gyda’r côr a’r gerddorfa, a Britten yn ein harwain ninnau. Dywedais wrtho, yn ystod rhyw egwyl, fod y gwaith yn wych a rhyfeddol, ac atebodd yntau mewn amheuaeth: “Do you really think so?” Roedd ysbryd gwylaidd yn Britten, fel ym mhob gwir artist. Wrth gwrs, roedd o’n dioddef yn arw wrth glywed meidrolion fel ni’n ymgodymu am y tro cyntaf â’r miwsig newydd ac yntau’n gwybod sut y dylai swnio. Wedi’r ‘Amen’ olaf, distaw, ar ddiwedd y perfformiad, gwelais o’n troi at ei gyfaill Peter Pears wrth f’ymyl, ac wedi’r holl amheuon, meddai’n syml: “Well, it worked, didn’t it?” Digon didaro! Roedd y gwaith yn llwyddiant, a’r wyrth wedi ei chyflawni! Ond nid ymffrost.

Gofynnodd imi wedyn a fyddwn yn barod i ganu’r delyn mewn opera newydd – A Church Parable. Dim ond saith o offerynwyr oedd ei angen, ac os byddwn yn fodlon byddai’n sgrifennu gyda thelyn yn eu mysg. Opera o ryw awr i’w pherfformio mewn eglwys, a ninnau’n cael ein gwisgo fel mynachod! Roedd y gynta mor llwyddianus fel y cyfansoddodd ddwy arall, Burning Fiery Furnace a The Prodigal Son. Byddem yn eu perfformio mewn eglwysi ym Mhrydain a’r Cyfandir. Roedd teithio Ewrop fel mynach Cymraeg oedd yn hen gyfarwydd â’r Mab Afradlon a Daniel yn y Ffwrn Dân yn adnewyddu rhywbeth o’m gorffennol, wrth gwrs, er bod yr iaith yn wahanol, yn tarddu o ryw ddyfnder ynof.

Wedi hynny, sgrifennodd ar fy nghyfer Suite for Harp yn 1969 – pum symudiad, a’r olaf yn fyfyrdod ar y dôn St Denio (Joanna yn ein llyfrau ni) fel cyfarchiad arbennig i mi, a’r emyn a’r dôn yn cryfhau’r gwreiddiau ynof, er na allaf ei fynegi na’i ddeall yn iawn.

Gregynog, Tregynon, ger y Drenewydd, Powys.
Llun: Iestyn Hughes

Daeth wedyn, gyda llaw, i Gregynog gyda Peter Pears ym 1972 tra oeddwn i yno’n Gymrodor. A hwnnw oedd ei gyngerdd olaf ond un cyn iddo fynd yn wan a methedig, ac ni allai ganu’r piano mwyach. Gofynnodd i mi gymryd ei le fel cyfeilydd i Peter Pears (efallai na hoffai’r syniad o ddefnyddio pianydd arall, neu – does bosib! – teimlai y buaswn yn gofalu amdano’n well na neb arall ac yn ei gadw rhag llithro ar balmant y dref). Buom yn teithio ein dau ar y Cyfandir ac yn yr Unol Daleithiau, a chyfansoddi ambell ddarn newydd i ni eu canu. Gallwch feddwl bod yr anturiaethau hyn yn syfrdanol i hogyn o wlad Llŷn. Bu dylanwad Britten yn fawr arnaf a siom oedd methu mynd i’w angladd yn Eglwys Aldeburgh yn 1976 (bu farw ar 4 Rhagfyr) gan fy mod ym Merlin ar y pryd, ond fe aeth fy niweddar wraig Rene a’n mab Tomos i’n cynrychioli.

Rydw i wedi siarad braidd yn hir am Benjamin Britten, ac fe welwch y bu ei ddylanwad yn drwm arnaf a’i fod wedi ehangu fy ngorwelion. Ond eto, ni allaf ateb eich cwestiwn a yw hynny wedi cryfhau fy ffydd, ond fe wn na allwch fyw a bod yng nghwmni cerddorion mawr, awyrgylch cysegredig a mannau sanctaidd heb ymdeimlo â seiniau a nodau sy’n dod â chi i ymylon ‘arall fyd’. Yr un byd â John a Charles Wesley, gobeithio?

Diolch o galon am sgwrs ddiddorol. Mae wedi bod yn bleser gwrando arnoch, Osian, a diolch am rannu eich atgofion a’ch profiadau. Mae thema a stori fawr yn eich bywyd, a diolch am rannu mor agored efo darllenwyr Agora. Ymlaen i’r 100!