E-fwletin 25 Mawrth 2018

YDIO’N ORMOD?

 

Dyna ni wedi troi’r clociau ar fore Sul y Blodau, a doedd hi’n Sul braf. Sul llawn symud a gwneud pethau; llosgi hen goediach y gaeaf, mynd â’r cwch i’r dŵr am y tro cyntaf eleni a gollwng cewyll cimychiaid i’r glesni llonydd, agor bleinds a drysau caffis lan môr, gwrando ar dyn y fan eis crim yn canu clychau ei emyn gynta’ o yr un pryd â Chaniadaeth y Cysegr y dyn drws nesa; a phobl ym mhob man yn codi allan am eu bod nhw am daro’r haearn a thrio sgafnu dipyn ar y pwysau cyn yr haf. A fyny fan’cw yn y glesni mae’ dyn y gleidar yn ei harnais am y tro cyntaf eleni ac yn gyrru’i injan yn nôl a blaen fel tasa fo’n torri gwellt yr awyr. Petasai rhywun uwch na fo yn gofyn iddo wneud hunan arfarniad arnon ni lawr fan hyn be fyddai’n ddweud dybed? Bod na ormod yn digwydd, gormod iddo fo gymryd mewn, gormod i ymdopi ag o? Dyna i chi be ddywedwyd wrth athrawes lanw mewn ysgol wsnos diwetha. ‘Peidiwch â dweud stori’r Pasg wrth blant bach – mae’n ormod.’ Ac roedd yna fôr o ystyr i’r ‘gormod’ yma.

A mae yna lot i gymryd mewn yn does. Beth am ddechrau yn y dechrau? Cael gafael ar ebol asyn.  I berson munud ola’ fel fi mae’r digwyddiad hwn yn siarad cyfrolau. Doedd yma ôl paratoi gofalus. Roedd y cyfrinair ‘Y mae ar y Meistr ei angen’ wedi’i ddewis ers tro ac roedd perchennog yr ebol asyn yn gwbl gyfarwydd ag o ac yn barod am yr alwad. Dyna un manylyn lleia’ fyw mewn hanesyn llawn arwyddocâd. Beth am y daith fuddugoliaethus i Jerusalem, neu beth am hanes glanhau’r Deml- a Christ yn amlygu’n glir ei angerdd dros gyfiawnder cymdeithasol- a dim ond un agwedd yn unig o’r glanhau yw hynny, ia ddim? Dameg y ffigysbren ddiffrwyth wedyn; aros ym Methania, aros gyda’r bobl hynny oedd mor agos at ei galon,- mmm ia.  Neu beth am y Swper Olaf, y golchi traed? Pam ymgynnull yn y stafell hon, pam y golchi traed? Pam anfon Pedr a Ioan i chwilio am ddyn ac nid dynes yn cario dŵr? Ȏl paratoi gofalus eto? A’r cweryl ymhlith y disgyblion ynglŷn â’r drefn eistedd wrth y bwrdd- y ddadl ynglŷn â mawredd. Rhannu’r bara a’r gwin. Ydi’r bara a’r gwin yn haeddu  brawddeg fel yna yn hytrach na’u dal mewn cymal mewn stori am swper? Ac yna’r weddi honno yn Gethsemane; ia honno. Do mi gawson ni glywed honno. A beth am y methu cadw’n effro a’r gusan? A sylwch tydwi ddim wedi sôn am Judas, yr arestio na chwestiwn Peilat,  ‘Beth wna i?’ nag am Caiaphas, yr achos llys nag am geiliog yn canu. A beth am gario’r groes? Y Croeshoelio? Tydw i ddim wedi sôn dim am hynny.

Ond plis ga i ddweud lle dwi isio bod yn y stori heno ma? Efo Mair. Wrth y bedd gwag a chlywed y stori i gyd mewn un enw, yn yr un cyfarchiad hwnnw –  ‘Mair’. A phetasawn i’n cael, dwi isio hefyd gafael yn llaw Tomos a dweud, ‘Ia felna faswn i hefyd,’ a mi leciwn i, os y ca i glywed Cleopas yn dweud hanes y daith i Emaus eto. Mond un waith eto, plis.

Mae gan pawb ei Basg ac mae pawb yn dewis ei Basg. Mi ges un stori, neithiwr, gan Idris Williams saer coed o Forfa Nefyn yn cofio’i hun, hanner can mlynedd a mwy yn nôl yn brentis ifanc yn gwrando ar ddau joinar profiadol yn sgwrsio. A thestun y sgwrsio? Atgyfodiad Iesu.  A dyna un yn dweud wrth y llall ei fod yn methu’n lân a deall pam fod y bedd yn wag a’r lliain oedd am ben Iesu wedi’i blygu. Pwy fu’n plygu a pham mynd i’r drafferth i blygu’n daclus fel hyn oedd ei gwestiynau? ‘Dyna oedd yn ei boeni o ynte,’ oedd ymateb Idris Williams i’r sgwrs honno mae’n ei gofio mor dda.

Dewch yn nôl at yr athrawes lanw honno. Fydda’n well petawn i wedi gwneud yr un fath â hi a gadael stori’r Pasg a chwilio am hanes arall? Tybed ydi digwyddiadau’r wythnos fawr yn ormod i ni erbyn heddiw?