Rho inni ras i daenu’r wawr

“Rho inni ras i daenu’r wawr”

gan y meddyg teulu, Dr Catrin Elis Williams

Oherwydd y pandemig, mae llawer ohonom wedi bod yn treulio llawer mwy o amser na’r arfer yn ein cartrefi. I’r rhan fwyaf ohonom, mae’r cartref a’r aelwyd yn fan diogel – noddfa’n wir, sy’n egluro pam bod noddfa yn rhan o enwau cymaint o dai yng Nghymru – ac yn enw ar ambell i gapel hefyd. Pan euthum i oddi cartref am y tro cyntaf, yn ddwy ar bymtheg oed i’r brifysgol, roedd Capel Noddfa, Didsbury, ym Manceinion, yn fan lle deuthum i o hyd i rywle cartrefol, lle roeddwn i’n teimlo’n ddiogel yng nghwmni Cymry eraill oedd wedi cartrefu yn y ddinas.

Mae bygythiad i fywyd oherwydd haint newydd yn rhywbeth sy’n naturiol yn ein dychryn; rydan ni’n ffodus iawn, dwi’n credu, ein bod yn byw mewn oes lle mae datblygiadau meddygol yn caniatáu inni allu ymladd clefydau, ac yn aml eu goresgyn. Mae newydd-deb haint o’r fath hefyd yn dod â greddfau dynol sylfaenol iawn i’r wyneb, sef goroesi a diogelu ein hunain a’n teuluoedd. Mae hyn wedi bod yn rheidrwydd arnom ni i gyd, yn wir, i ddilyn gofynion y Llywodraeth i ‘aros gartref, amddiffyn y gwasanaeth iechyd, ac achub bywydau’. Pan mae bywydau ein cyd-ddyn yn y fantol, mae ein cydwybod ni, yn ogystal â’r greddfau cyntefig, yn sicrhau ein bod ni’n aros yn niogelwch ein cartrefi. Mi ddylem gofio wrth gwrs nad ydi’r cartref yn lle diogel i bawb, gyda sefydliadau sy’n ymwneud â thrais yn y cartref yn nodi cynnydd yn y galw am eu cymorth yn yr wythnosau diwethaf.

Felly, mae cilio i ddiogelwch ein cartrefi’n rhoi synnwyr inni ein bod yn llai tebygol o gael ein heffeithio gan haint, salwch sy’n gallu bod yn farwol. Ond wrth i’r pandemig gilio, gobeithio, dros y misoedd nesaf, a gofynion arferol gwaith a bywyd yn gyffredinol yn golygu y bydd angen inni fentro o’n cartrefi fwyfwy, dyma un o’r cwestiynau sy’n codi. Be all ein galluogi ni i ddysgu cyd-fyw â’r risg i iechyd sy’n dod law yn llaw â haint neu salwch newydd, un sy’n annhebygol iawn o ddiflannu o’r tir am o leia misoedd, neu flynyddoedd, mae’n debyg iawn?

Mae ffydd y salmydd yn Nuw: “Fy noddfa a’m caer, fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo”. Mae’n ymhelaethu ymhellach i sôn am Dduw yn ei waredu o fagl heliwr ac, yn benodol, oddi wrth bla difaol.

Er i ni, yn yr unfed ganrif ar hugain, deimlo o bosib bod ein profiadau ni trwy’r cyfnod rhyfedd hwn yn “rhai newydd”, mae dynoliaeth wrth gwrs wedi byw dan gysgod haint neu afiechyd, neu “bla”, ers cenedlaethau dirifedi, ers i ddynoliaeth gael ei chreu. Mae’r Beibl yn ein hatgoffa o sawl pla o’r fath.

Un enghraifft yw llyfr Numeri, pan mae Aaron, brawd Moses, yn achub pobl Israel rhag pla, er bod llawer o’r bobl yn marw ohono hefyd. Mewn trefn sy’n gyfarwydd inni heddiw, mae nifer y meirw’n cael ei nodi’n fanwl fel pedair mil ar ddeg a saith gant. Ond nodir hefyd, yn yr adnod ganlynol, bod y pla wedi peidio.

Mae Solomon yn gweddïo yn yr wythfed bennod o Lyfr Cyntaf y Brenhinoedd:

Os bydd yn y wlad newyn, haint, deifiad, malltod, locustiaid neu lindys, neu os bydd gelyn yn gwarchae ar unrhyw un o’r dinasoedd, beth bynnag fo’r pla neu’r clefyd – clyw pob gweddi, pob deisyfiad gan yr holl ddynion a chan bob un o’th bobl Israel sy’n ymwybodol o’i glwy ei hun, ac yn estyn ei ddwylo tua’r tŷ hwn; gwrando hefyd yn y nef lle’r wyt yn preswylio, a maddau. Gweithreda a rho i bob un yn ôl ei ffyrdd; oherwydd yr wyt ti’n deall ei fwriad; canys ti yn unig sy’n adnabod calonnau holl blant dynion.

Ac felly emynwyr hefyd, yn fwy diweddar: mae Nantlais yn ein hatgoffa o “deulu’r poen a’r pla, a’r cleifion oll i gyd”, ac Eben Fardd yn sôn ei fod “dan bwys fy mhla’n llesgáu”. Elfed sy’n ymbil:

O’i farwol glwyf ein byd iachâ,
Er mwyn dy enw mawr.

O wybod oddeutu pryd y bu’r emynwyr yma fyw, Elfed yn benodol, mae posibilrwydd cryf iawn mai effaith y Ffliw Sbaenaidd a ysgogodd y geiriau hyn. Clefyd oedd hwn a laddodd filiynau o bobl ifanc, iach yn flaenorol, o gwmpas y byd, oddeutu canrif yn ôl.

Dydi o ddim yn syndod bod y fath golledion, loes a phrofedigaethau yn arwain y salmydd a’r emynydd i ymbil am obaith o’r newydd, ac mae’r ffydd ganddyn nhw y bydd Duw yn ateb y gweddïau hynny.

I fynd yn ôl at weddi Solomon, mae Solomon yn cydnabod, yn pwysleisio, ei gred bod Duw a Duw yn unig, yn “adnabod calonnau holl blant dynion”. Mae ofn pla a chlefyd yn bodoli erioed, ac i ambell un, llawer un, sydd â’r gred yn yr unfed ganrif ar hugain nad ydi’r Beibl yn berthnasol – mi fyddwn i’n bendant yn dadlau i’r gwrthwyneb.

Fel meddyg, mi ydw i yn yr wythnosau diwethaf wedi bod yn dyst i’r cynnydd mewn dioddefaint o achos pryder a gorbryder, a hynny o ganlyniad i glefyd Covid 19 – yn uniongyrchol, ond hefyd yn anuniongyrchol oherwydd gofynion y cyfnod clo. Mae yna ganllawiau ar sut mae ymdopi â chyflyrau o’r fath, a’r cam cyntaf fyddai hunan-gymorth, megis darllen llyfrau am y cyflwr, neu ddefnyddio technoleg megis apiau ar y ffôn symudol neu gyfarwyddydd dros y we. Yr ail gam fyddai therapi siarad, cwnsela ac yn y blaen, ac yna mae rhai pobl yn cael budd o gymryd meddyginiaeth.

Mewn cyfnod pryderus inni i gyd, lle bydda i’n cael nerth ac yn cymryd cysur ohono ydi bod pobl, dynoliaeth, o mlaen i wedi mynd trwy brofiadau tebyg – a llawer gwaeth, fyswn i’n amau. Dydan ni ddim ar ein pennau ein hunain.

Er y gwewyr a’r galar sydd wedi digwydd, ac yn digwydd o ganlyniad i glefyd Covid 19, a’r gofynion anghyffredin sydd wedi bod ar bob un ohonom, mi allwn ni, trwy nerth Duw, ddal gafael ar y gobaith y daw dyddiau haws i’n rhan. Mae sawl un ohonom yn byw mewn gobaith ar hyn o bryd y ‘daw eto haul ar fryn’. Mae William Williams, Pantycelyn, wedi nodi geiriau tebyg, ganrifoedd yn ôl:

Ni phery ddim yn hir
Yn ddu dymhestlog nos;
Ni threfnwyd amser maith
I neb i gario’r groes;
Mae’r hyfryd wawr sy’n codi draw
Yn dweud bod bore braf gerllaw.

Dydi hi ddim bob amser yn hawdd cynnal ein gobaith pan mae pethau o’n cwmpas yn ymddangos yn anobeithiol. Ond mae Paul yn ei lythyr at y Rhufeiniaid yn ein hatgoffa ni y gall profiadau anodd bywyd ein gwneud ni’n gryfach pobl: “Heblaw hynny, yr ydym hyd yn oed yn gorfoleddu yn ein gorthrymderau, oherwydd fe wyddom mai o orthrymder y daw’r gallu i ymddál, ac o’r gallu i ymddál daw rhuddin cymeriad, ac o gymeriad y daw gobaith.”

Hyd yn oed yng nghanol adfyd, mi allwn ni barhau i orfoleddu. Dydi gorfoleddu ddim yn golygu dathlu pan fyddwn ni’n derbyn newyddion drwg – ond mae o’n golygu y gallwn ni gredu nad ydi Duw yn gwastraffu unrhyw siomedigaeth neu wewyr sy’n dod i’n rhan ni. Efallai y byddwn ni’n gweddïo mwy ar adegau anodd yn ein bywydau, a Duw yn dod yn bwysicach inni o’r herwydd.

Yn ei ail lythyr at y Corinthiaid, mae Paul yn sôn am adfyd sydd wedi dod i’w ran fel ‘draenen yn ei gnawd’, i’w boeni. Ymbiliodd ar i Dduw gymryd y boen oddi arno, ond ateb Duw oedd: “Digon i ti fy ngras i: mewn gwendid y daw fy nerth i’w anterth.”

Roedd agwedd Paul wedi hyn yn wahanol iawn, a’i eiriau oedd: “Felly, yn llawen iawn fe ymffrostiaf fwyfwy yn fy ngwendidau, er mwyn i nerth Crist orffwys arnaf. Am hynny, yr wyf yn ymhyfrydu (er mwyn Crist), mewn gwendid, sarhad, gofid, erledigaeth a chyfyngder. Oherwydd, pan wyf wan, yna rwyf gryf.”

Yn yr efengyl yn ôl Mathew yn ogystal, mae Iesu yno yn ein hatgoffa o wendid yr hil ddynol OND ei fod yno i ateb ein gweddïau ac i’n hiacháu. Roedd Iesu yn cymysgu â ‘gwehilion’, neu’r gwannaf mewn cymdeithas, a’r Phariseaid yn cwestiynu hynny. Ateb Iesu oedd: “Nid ar y cryfion, ond ar y cleifion mae angen meddyg.”

Alla i’n bendant ddim gwella ar hynna.

Gadewch inni gymryd nerth felly o’r hyn a wyddom ni o’r Beibl, o’r amseroedd cyn ac ar ôl Crist, ac o hanes ein byd ni – sef gallu cymdeithas i ailadeiladu ei hun ar ôl cynnen a cholledion.

Hefyd, gallwn gymryd nerth o ryfeddod gwyddoniaeth fodern, a gallu honno, trwy i Dduw berffeithio llaw a deall dyn, i arbed bywydau.

Bywha ni, Grist, mae’r byd yn barod,
     rho inni ras i daenu’r wawr.

Addasiad yw’r uchod o fyfyrdod a baratowyd yn wreiddiol ar gyfer Dechrau Canu, Dechrau Canmol. Mae holl fyfyrdodau llafar y gyfres ar gael yma: