Diwinyddiaeth Paul

GWERTHFAWROGIAD AC ADOLYGIAD

Diwinyddiaeth Paul, gan gynnwys sylw arbennig i’w ddehonglwyr Cymreig, John Tudno Williams, Gwasg Prifysgol Cymru, 2020, 230tt, £17.99

‘Gair o werthfawrogiad sydd eisiau,’ meddai Golygydd hynaws Y Goleuad wrth iddo geisio fy mherswadio i adolygu’r gyfrol hon: gwerthfawrogiad o gyfraniad sylweddol yr Athro John Tudno Williams i fywyd academaidd Cymru ac i’r Cyfundeb dros y blynyddoedd. Ar yr amod hwnnw y cytunais i dynnu sylw at y gyfrol, oherwydd mae yna rai llawer mwy cymwys na mi i ysgrifennu adolygiad teilwng o waith ysgolheigaidd fel hwn, ac edrychwn ymlaen at ddarllen eu sylwadau mewn cylchgronau eraill maes o law.

Dyma ddechrau gyda’r awdur, felly. Bydd cenedlaethau o fyfyrwyr yr Hen Gorff yn cofio John Tudno fel darlithydd ym meysydd yr Hen Destament a’r Testament Newydd yn y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth. Pryd hynny, a hyd at yr amser presennol, mae wedi bod yn ddiwyro’i farn bod yn rhaid diogelu safon academaidd y weinidogaeth yn ein plith. Dros y blynyddoedd mae wedi bod yn flaenllaw yn Adran Addysg y Cyngor Eglwysi Rhyddion dros Brydain, a bu’n Llywydd ar y sefydliad hwnnw. Daliodd nifer o brif swyddi’r Cyfundeb, megis Llywydd y Gymdeithasfa yn y De a Llywydd y Gymanfa Gyffredinol, ond nid yw hynny wedi ei rwystro rhag cyfrannu’n helaeth i fywyd Henaduriaeth Ceredigion a Gogledd Penfro, yn ogystal â’i eglwys ei hun yng Nghapel Seion. Bydd llawer ohonom yn dilyn gyda diddordeb ei gyfres yn y Goleuad, Y Silff Lyfrau’, ac yn teimlo’n falch o gael ysgolhaig beiblaidd o safon John Tudno yn cyhoeddi’n gyson yn y Gymraeg. Cofiwn hefyd ei gyfraniad amhrisiadwy i wahanol gyfieithiadau Cymraeg o’r Ysgrythur yn eu tro: Y Ffordd Newydd (1969), Y Beibl Cymraeg Newydd (1988), a’r Beibl Cymraeg Newydd (Argraffiad Diwygiedig, 2004). Cefais innau’r fraint o gydweithio ag ef fel cyd-olygyddion y Llyfr Gwasanaethau newydd, ac fe’i cefais yn gyd-weithiwr a chyfaill da wrth gyflawni’r gorchwyl hwnnw. Mae wedi rhoi’n helaeth, ac mae’n para i roi, o’i ddoniau fel ysgolhaig Testament Newydd o’r radd flaenaf at wasanaeth ei eglwys a’i genedl, ac rwy’n falch o ymateb i wahoddiad y Golygydd i achub y cyfle hwn i ddweud, ar ran pawb ohonom, ‘Diolch, John, am hyn oll.’

Ond peidiwn ag anghofio un maes arall lle mae John wedi gwasanaethu, a hynny gyda’i drylwyredd arferol, dros nifer mawr o flynyddoedd, a hynny yw fel Ysgrifennydd Bwrdd y Ddarlith Davies. Efallai mai ei adroddiad ef bob blwyddyn yn y Gymanfa Gyffredinol yw un o’r rhai byrraf (!), ond y tu ôl iddo mae llawer o waith a sêl dros yr achos. Yn 1993 ef ei hun a draddododd y Ddarlith, ac roedd yn anochel y byddai’n dilyn trywydd a fu o ddiddordeb arbennig iddo ers dyddiau prifysgol yn Rhydychen, sef Paul a’i ddiwinyddiaeth. Y testun bryd hynny oedd ‘Paul a’i Ddehonglwyr Cymreig’, a dyna deitl y gyfrol dan sylw, sy’n ffrwyth chwarter canrif o astudiaeth ac ymchwil. Braidd yn gamarweiniol yw’r is-deitl, oherwydd er bod yr awdur yn tynnu sylw at ysgolheigion Cymraeg a Chymreig megis David Adams, C. H. Dodd, W. D. Davies, Isaac Thomas, Owen E. Evans ac eraill, mae ei rychwant (a’i Lyfryddiaeth!) yn ehangach o lawer na hynny.

Rhennir y gwaith o dan ddeg pennawd, yn dynodi deg agwedd wahanol ar feddwl cyfoethog yr Apostol, gyda phennod ar y diwedd sy’n ymdrin â’r llythyrau hynny y mae cryn amheuaeth ynghylch eu dilysrwydd, sef Effesiaid, Colosiaid a’r Epistolau Bugeiliol. (Sylwer, gyda llaw, fod camgymeriad yn y rhifo ar dudalen y Cynnwys.) Cwestiwn sy’n codi gyda chyfrol fel hon yw, at bwy y mae wedi ei hanelu? Er ei bod yn hynod ddarllenadwy, llyfr academaidd, manwl ydyw. Mae’n gyfraniad gwerthfawr i’n dealltwriaeth o gefndir Paul a’i ddiwinyddiaeth, a bydd yn gaffaeliad mawr i fyfyrwyr Cymraeg sy’n chwilio am arweiniad safonol, cyfoes ar y pwnc. Ond rwy’n credu ei fod yn adnodd anhepgor hefyd i weinidogion a phregethwyr – petai ddim ond i’n cadw rhag syrthio i ambell fagl! Er enghraifft, yn groes i’r hyn a ddywedir yn aml, nid oes sylfaen i’r haeriad mai cyfiawnhad trwy weithredoedd yn seiliedig ar ufudd-dod i’r Gyfraith oedd craidd Iddewiaeth yng nghyfnod Paul: polemig yr Apostol yw’r unig beth all ein harwain at gasgliad o’r fath, ynghyd â dylanwad trwm y Diwygwyr Protestannaidd, nid tystiolaeth hanesyddol. Diffyg y Gyfraith Iddewig oedd ei bod yn sefyll yn ffordd y genhadaeth i’r Cenhedloedd. Ai tröedigaeth ynteu alwad, felly, a brofodd Paul ar ei ffordd i Ddamascus? Rhaid darllen Pennod 3! 

Tebyg yw’r sefyllfa gyda golwg ar y rhaniad a grëir yn aml rhwng Paul ac Iesu. Dadleuir mai gorsymleiddio yw sôn am ‘Efengyl syml’ Iesu ar y naill law, a Paul ar y llaw arall gyda’i gyffesion a’i athrawiaethau. Wedi’r cwbl, mae Paul yn tynnu llawer ar ei brofiad o’r Iesu byw, ac yn dyfynnu ei eiriau’n uniongyrchol. A beth am enw’r Apostol, wedyn? Ai ar ôl ei brofiad ysgytwol y daeth Saul yn Paul? Nage, medd John Tudno Williams: Saul oedd ei enw Iddewig/Palesteinaidd, a Paul oedd ei enw Rhufeinig, a dyna’r enw a ddefnyddiai wrth iddo fynd allan i genhadu ar draws yr Ymerodraeth. Sylwais fod yr awdur yn ochri gyda’r dadleuon dros gredu bod Paul yn ddinesig Rhufeinig, er nad yw ef ei hun yn dweud hynny yn ei lythyrau. Rhanedig yw barn ysgolheigion ar hyn, a rhoddir sylw i’r dadleuon ar dud. 20.

A throi at graidd dysgeidiaeth yr Apostol, mae penodau 4 ar Paul a’r Gyfraith a 5 ar Soterioleg Paul yn ganolog, a’r ymdriniaeth fanwl o’r ddau gysyniad allweddol, ‘cyfiawnder’ a ‘chyfiawnhau’, yn werth ei darllen yn ofalus. A oedd Paul yn credu mewn ‘pechod gwreiddiol’? Y gwir yw mai Awstin o Hippo yn y 4–5g. sydd wedi dylanwadu’n drwm ar ddatblygiad yr athrawiaeth am y cwymp, ac Awstin ei hun a fathodd y term ‘pechod gwreiddiol’ (t.65). Dyfynnir Gwilym H. Jones: ‘Ymddengys bod gan yr Hen Destament lawer mwy o ddiddordeb yn y mynegiant cyfoes o bechod ac yn ei ganlyniadau ymarferol nac mewn olrhain ei gychwyn’ (t.64). Ac yn groes i’r hyn a ddywedir yn rhai o’n hemynau am yr ‘Iawn’, deil John Tudno Williams mai ‘Duw ei hun sy’n paratoi’r [aberth cymod] yn hytrach na bod yn wrthrych iddo.’ (t.83). Fel llawer ohonom, mae’n diweddu trwy bwysleisio gwaith Crist yn dwyn cymod a chreadigaeth newydd, gan egluro bod a wnelo’r ferf ‘cyfiawnhau’ ag adfer perthynas (t.76).

Diddorol dros ben yw’r bennod ar Gristoleg Paul, a chan ddilyn C. F. D. Moule, mae’r awdur yn pwysleisio bod y newid mewn terminoleg am Iesu rhwng y llythyrau cynnar a’r rhai mwy diweddar yn ffrwyth datblygiad yn nealltwriaeth yr Apostol: datblygiad, sylwer, nid esblygiad. Ni newidiodd Paul ei ddarlun o Iesu, fel petai wedi ymgyrraedd at Gristoleg ‘uwch’, ac mae’n defnyddio ymadroddion oedd â’u cyd-destun gwreiddiol yn yr HD, yn hytrach na’r byd Helenistaidd. Yn yr adran ar Gynfodolaeth Crist (t.110) mae’r awdur yn cloriannu geiriau Paul, ac yn dod i’r casgliad mai ansawdd bywyd Crist ac nid ei darddiad sydd ym meddwl yr Apostol.

Ym mhenodau 8 (Dysgeidiaeth Foesol Paul) a 9 (Yr Eglwys yn Paul) mae’r pwyslais yn gyson ar y gymuned Gristnogol a’i bywyd. ‘Byddwch yr hyn ydych’ yw anogaeth Paul. Trwy fedydd mae’r Cristion wedi marw ac atgyfodi gyda Christ, a bellach mae’n byw ar wastad newydd. O fewn y gymuned hon mae ffydd a moesoldeb yn rhan o’r hyn a olygir wrth fod ‘yng Nghrist’, a’r Ysbryd Glân yw’r sêl. Mae’r bywyd hwn yma eisoes, ac eto mae i ddod hefyd. Dyna bwnc y bennod ar Eschatoleg Paul, a cheir yma amlinelliad clir o’r datblygiad ym meddwl yr Apostol ynghylch ailddyfodiad Crist a’r atgyfodiad.

Nodais amryw o wallau wrth fynd trwy’r gwaith, ond nid ydynt yn bethau sylweddol, felly nid wyf am eu rhestru yma. Digon yw dweud ei bod yn gyfrol hynod hardd a darllenadwy. Mawr yw ein diolch eto i John Tudno am baratoi cyfrol mor gynhwysfawr, cytbwys a diddorol, a thrwy hynny sicrhau cyfraniad teilwng arall i fyd ysgolheictod beiblaidd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Glyn Tudwal Jones
Caerdydd