Llysenwau
Mae rhai yn hanes wedi cael llysenw. Rhai hyfryd, fel Dewi Sant, rhai ofnadwy fel Ivan the Terrible. Mae enghreifftiau yn y Testament Newydd. Mewn wythnos sy’n dilyn y Pasg addas sylwi ar un a dyfodd allan o hanes am yr Atgyfodiad, sef Tomos yr Anghredadun.
Yr oedd gan Tomos lysenw’n barod, Tomos yr Efaill, ond ‘yr Anghredadun’ sy’n aros. Diddorol ystyried a oedd y bobl a gafodd lysenw yn y gorffennol yn ei haeddu. Beth am Tomos i ddechrau?
Ymddangosodd yr Iesu atgyfodedig i rai o’i ddilynwyr un tro, a Tomos yn absennol. Pan glywodd Tomos, dywedodd na chredai ef fod Iesu’n fyw heb weld ôl yr hoelion yn ei ddwylo, a’u cyffwrdd, a rhoi ei law yn ei ystlys. Sawl pregeth a luniwyd ar sail un esboniad o’r hanes hwnnw, yn dangos Tomos fel person materol a fynnai brofi popeth drosto’i hun? Gwelais erthygl felly mewn papur enwadol yr wythnos ddiwethaf.

“Tomos yr Anghredadun” – Llun enwog Caravaggio