E-fwletin Rhagfyr 1af, 2014

Annwyl Selogion Cristnogaeth 21,

Mae defod gyntaf y Nadolig wedi ei chynnal. Mae Nain wedi prynu’r calendr Adfent blynyddol i’w hwyres! Nid unrhyw galendr Adfent, chwarae teg, ond un â siocled masnach deg nefolaidd Divine yn ei ffenestri. Wythnos nesaf bydd y goleuadau Nadoligaidd yn cael eu tanio ar hyd strydoedd siopa’r dref, bydd y binwydden baganaidd ar y sgwâr yn sioe i’w gweld, a bydd tymor yr Adfent wedi cychwyn go iawn. Fydd hi ddim yn hir wedyn nes y daw’r cyfarchiad blynyddol arferol i’n clyw: “Ydych chi’n barod at y Nadolig?”. Yn anffodus, pur anaml y ceir yr argraff mai holi am gyflwr meddwl ac enaid mae’r holwyr hyn. Yr is-gwestiynau sydd ymhlyg yn y cwestiwn hynny, gan amlaf, yw: ydych chi wedi prynu’r anrhegion? Ydych chi wedi llwytho’r cypyrddau â digon o fwyd, diod a melysion? Ydy’r trimins lan? Ac mae’n destun gwên i mi bob blwyddyn mai’r bobl sydd fwyaf taer eu holi ac sydd fwyaf brwd eu disgwyliadau Nadoligaidd yw’r rhai hynny nad sy’n tywyllu lle cwrdd gydol y flwyddyn. Fe gofiwch y bu cryn sôn a thrafod rai blynyddoedd yn ôl wrth i Gyngor Dinas Birmingham alw dathliadau canol gaeaf y ddinas yn Winterval. Mae Dinas Caerdydd hefyd yn ystod y blynyddoedd diweddar wedi bod yn hyrwyddo gŵyl a elwid ganddynt yn Calennig. Dim sôn am Nadolig gan y naill ddinas na’r llall. Ond onid y gwir yw mai bod yn onest mae’r ddwy ddinas yma – a’r holwyr parod blynyddol hynny – gan mai dathlu Calan y Celtiaid, Saturnalia’r Rhufeiniaid neu Yuletide yr Eingl-Saeson wna’r rhan fwyaf o boblogaeth Prydain o hyd yn yr unfed ganrif ar hugain ers oes Crist? Dathlu’r hen wyliau sy’n torri ar dywyllwch a diflastod canol gaeaf noethlwm yw ysfa barhaus y mwyafrif. A does dim yn syndod yn hynny, mae’n siŵr. Mae’n hen, hen ysfa naturiol. A beth bynnag, onid herwgipio’r gwyliau hyn wnaeth Cristnogaeth yn y lle cyntaf? Mae Swyddfa’r Post yn ein tref farchnad leol yn cael ei rhedeg gan ddwy Gristion bybyr o dras Indiaidd. Dwy radlon ac effeithiol iawn wrth eu gwaith. Mae yna boster ganddyn nhw mewn lle amlwg ar y mur sy’n datgan yn groyw, ‘Put the Christ back in Christmas’. Mae nifer, mae’n siŵr, yn uniaethu’n syth â’u deisyfiad i godi cri yn erbyn y prynwriaeth a’r gloddesta rhemp sydd wedi dod yn nodwedd amlwg o gyfnod y Nadolig. Ond tybed oni fyddai hefyd yn syniad i ni fel Cristnogion hyrwyddo Winterval, Calan, Saturnalia ac Yuletide am yr hyn ydynt – a rhywsut, rhywfodd, hawlio’r gwir Nadolig yn ôl i Gristnogaeth a Christnogion? Nadolig Llawen! Mae’r Adfent yma. Pob hwyl ar baratoi at y Nadolig!