E-fwletin Medi 22ain, 2014

Tebyg i drwch darllenwyr hyn o lith gael eu siomi’n ddirfawr yng nghanlyniad refferendwm yr Alban, ddydd Iau.
Wrth ddygymod â’r bleidlais glir dros nacau annibyniaeth a cheisio dadansoddi’r rhesymau dros hynny nid syndod llwyr mai ‘Na’ gaed ar wefusau’r mwyafrif o’n cefndryd Celtaidd. Arwydd amlwg o ddylanwad ac effeithiolrwydd y proffwydi gwae na fuont segur gydol yr ymgyrch ac yn arbennig felly wrth i’r frwydr ddwysau. Nid oes unrhyw gyfrinach i’w llwyddiant oherwydd cydio a wnaethant, a defnyddio’r erfyn mwyaf cyfleus i’r neb sydd am gael dylanwad a rheolaeth ar eraill – ofn.
Mae ofn yn gynnyrch ofn. Bradychu wna’r un a’i cwyd yr ofn sydd yn ei fynwes ei hunan a’r ofn mwyaf a fedd yw hwnnw a’i ceidw rhag ystyried y posibilrwydd o ddod i weld ac adnabod ei hunan am yr hyn ydyw mewn gwirionedd. Yn fynych iawn yn berson gwan, bregus, diamddiffyn, dan fygythiad cyson ag angen cuddio. Onid diddorol sylwi mai’r rhai ucha’u cloch dros ragoriaethau’r Deyrnas Unedig ddydd Iau diwethaf oedd y rhai oedd yn galw am ei diwygio ddydd Gwener! Peth rhyfedd, onid e, yw ofn, yn enwedig hwnnw na ragwelwyd mohono – y 45% o bleidleiswyr na chodwyd ofn arnynt ac yn eu plith drigolion dinas fwya’r Alban. A beth am y Cymry a’r Gwyddelod wedyn, heb sôn am bobl Manceinion a ….
“Mae cyfle’n cael ei golli rhan amlaf am ei fod yn gwisgo ‘overalls’ ac yn edrych yn rhy debyg i waith caled”. ( o wefan Oasis) A chymryd golwg ar Genesis 3 gwelir bod diogi’n esgor ar ofn. Prin yw’r ymdrech i wrando’r sarff, nid felly’r ymdrech i guddio rhag y canlyniadau.